Pob cam yn DdyfodiadSampl

Addoliad Go Iawn
Falle mai’r ymadroddion mwyaf anarferol yn y salm yw, “Ti'n mwydo'r tir â chawodydd, ac yn bendithio'r cnwd sy'n tyfu (Salm 65, adnod 10 beibl.net). Yma mae’r Salmydd yn teimlo’n llawn helaethrwydd. Mae’n gweld y flwyddyn newydd yn deffro ym mywyd newydd y gwanwyn, fel brenhines wedi’i choroni â garlantau Duw, wedi'i gwisgo yn nhwf newydd ffres y caeau, ac yn cael ei gwasanaethu gan yr heidiau a wasgarwyd ar draws bryniau a dyffrynnoedd. Wrth i ni glywed y Salmydd yn harmoneiddio am y rhyfeddodau hyn, ni fyddai'n anarferol dechrau dymuno ein bod ni allan yna.
Er nad yw’r Salmydd yn dweud dim yn uniongyrchol amdano, roedd y cyfnod pan gafodd ei sgwennu, yn llawn rhybuddion am y dyn a fyddai’n eilyddio’r eglwys am natur ac addoli yno, yn hytrach nac yn nefod y deml neu eglwys. Mae'r ysgogiad yn cael ei foderneiddio yn y dyn sy'n dweud y gall addoli Duw yn well gan edrych ar fachlud hardd na gweddïo rhai gweddïau hynafol mewn eglwys stwfflyd. Efallai ei fod yn addoli’n well, ond mae’n od nad yw’n addoli Duw ond yn hytrach yr haul neu, yn fwy tebygol, ei deimlad ei hun am yr haul.
Addoliad Cristnogol yw’r sancteiddhad o amser a gofod. Mae’r hyn dŷn ni’n edrych arno, yn byw ynddo, a thrin yn hamddenol yn cael ei gywasgu i’r awr o addoliad Cristnogol fel ein bod yn gweld ei ystyr eithaf a thragwyddol. Mae addoliad yn rhoi arwyddocâd uwch i amser a gofod yn y byd cyffredin. Fyddai neb yn gallu, neu fod eisiau, byw mewn byd dwys o addoliad drwy’r amser. Ond mae addoliad yn rhoi miniogrwydd i bopeth mae’r Cristion yn ei wneud.
Mae’r Cristion sy’n gadael yr awr o addoliad o’i ôl yn gwybod fod cariad, gobaith, ffydd, moliant, bendith a gras yn mynd i ddarparu’r gwahaniaethau ffracsiynol sy’n gwneud y gwahaniaethau tragwyddol mewn bywyd. Pan mae Cristion yn moli, mae e fel mabolgampwr ar drapîs. Mae hi’n profi ystyr mewn amser a gofod. Pan mae hi’n symud nôl i mewn i’w bydysawd cyffredin, bydd yna finiogrwydd a chywirdeb i’w theimladau a chamau, nad oedd yna o’r blaen.
Pryd mae profiad o addoli wedi newid dy berthynas ag eraill a Duw ar ôl iddo ddod i ben?
Os wnest ti fwynhau’r defosiwn diwrnod hwn gan Eugene Peterson, pam na wneid di gael golwg ar lyfr Eugene Every Step an Arrival .
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Hyderwn fod y pum defosiwn gan Eugene Peterson yn mynd â’th feddwl a chalon ar daith, gan na wyt yn gwybod beth fydd yr Ysbryd yn ei ddefnyddio i dy annog, herio, neu gysuro. Falle y byddi’n dewis defnyddio’r cwestiynau myfyrio sydd ar ddiwedd pob defosiwn i ffurfio dy weddi dy hun ar gyfer y diwrnod – yn sicr nid fel man gorffen ond yn hytrach fel dechrau ar gyfer yr hyn sydd eto i ddod.
More
Cynlluniau Tebyg

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Coda a Dos Ati

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Rhoi iddo e dy Bryder

Hadau: Beth a Pham

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Ymarfer y Ffordd

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
