Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pob cam yn DdyfodiadSampl

Every Step an Arrival

DYDD 2 O 5

“Amser maith yn ôl” yw’r ffordd orau mae pob stori’n dechrau. Dyma’r ffordd mae Cristnogion yn delio efo’r cwestiwn, “Ydy bywyd o bwys?” Mewn stori mae pob cymeriad yn hanfodol. Mae arwyddocâd i bob cymeriad. Felly dŷn ni’n dweud, “Amser maith yn ôl” ac yn dilyn gyda’n ffydd a’n gobaith, a’n hamheuaeth, ein moliant a’n difaterwch. Mae hynny, a llawer mwy yn rhan o stori - stori sy’n golygu rhywbeth.

Dydy pob stori ddim yn cynnwys arwyr. Dydy pob stori ddim am antur epig. Mae gynnon ni storïau epig - y rhai hynny am Joseff, Moses, Dafydd, a Paul. Ond, mae yna storïau hefyd am rai fel Naomi, Ruth a Boas. Storïau cyffredin yw'r rhain. Ond mae’r antur ddyddiol hwnnw - y mewnfudo, ffyddlondeb Ruth i Naomi, caredigrwydd Boas at Ruth, y sylw at y Gyfraith - mae’r manylion hyn i gyd yn rhan o stori sy’n isblot i stori fawr Iachawdwriaeth Duw. Y stori sy’n golygu rhywbeth - ac sy’n golygu popeth.

Daeth Naomi i’r stori drwy gwyno. Profodd golled, gan gwyno’n daer am y peth, gyda’r storïwr yn cymryd ei stori o ddifri a throi’n gŵyn yn erbyn Duw. Mae’r adnodau hyn wedi’u geirio yn y fath fodd fel ei bod yn cael ei chyflwyno fel achwynwr gerbron Duw. Roedd y ffordd o gwyno mewn dull cyfreithiol yn ffordd roedd Jeremeia’n siarad, ddeliodd a chamau cyfreithiol, nôl a ‘mlaen rheng Duw a’i bobol. Cymrodd gwynion y bobl a’u ffurfio’n gamau cyfreithiol oedd yn amlinellu and oedd Duw wedi bod yn gyfiawn a theg gyda’i bobol.

Er ei fod yn ymddangos yn annuwiol, a hyd yn oed gableddus i siarad â Dduw fel hyn, y gwir amdani yw, roedd yn hollol feiblaidd. Drwy wrando ar gwynion ein gilydd a’u ffurfio yn erbyn Duw, dŷn ni’n helpu ein gilydd i fod yn rhan o’r stori. Does dim angen i ni fod ar ochr Duw bob tro, i’w amddiffyn. Mae yna gyfnodau pan mae ein sefyllfa Feiblaidd ar ochr y cwynwr. Drwy gael ei chymryd o ddifri - heb ei gwrthod, lleihau’r dwyster, heb ei ysbrydoli - mae cwyn Naomi yn dod yn rhan o’r stori. Mae gwacter ei bywyd yn cael ei wau i’r plot, ac o ganlyniad, i mewn i'r achlysur i ddangos rhagluniaeth Duw.

Wyt ti’n oedi cyn lleisio dy gwynion yn erbyn Duw? Sut allai stori Naomi dy arwain i siarad â Duw’n fwy gonest?

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Every Step an Arrival

Hyderwn fod y pum defosiwn gan Eugene Peterson yn mynd â’th feddwl a chalon ar daith, gan na wyt yn gwybod beth fydd yr Ysbryd yn ei ddefnyddio i dy annog, herio, neu gysuro. Falle y byddi’n dewis defnyddio’r cwestiynau myfyrio sydd ar ddiwedd pob defosiwn i ffurfio dy weddi dy hun ar gyfer y diwrnod – yn sicr nid fel man gorffen ond yn hytrach fel dechrau ar gyfer yr hyn sydd eto i ddod.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://waterbrookmultnomah.com/books/540871/every-step-an-arrival-by-eugene-h-peterson/