Pob cam yn DdyfodiadSampl

Yr Eglwys Weledol
Wrth i Solomon sefyll o flaen y deml newydd mae e’n gofyn y cwestiwn, “Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi'i hadeiladu?” (1 Bren. Pennod 8, adn. 27 beibl.net).
Mae'r amheuaeth hon yn ymosod ar Solomon, ond mae e’n gweddïo beth bynnag. Mae e’n gweddïo y bydd Duw’n clywed gweddïau ei bobl pan fyddan nhw yn dod i’w dy, y bydd Duw’n effro i’w hanghenion ddydd a nos, a phan fydd yn eu clywed, y bydd e’n maddau.
Mae’r amheuon wedi’u hailadrodd o Solomon ynom ni. Ond fel Solomon dŷn ni wedi gweddïo beth bynnag. Nid yw’r gwrthwynebiad synnwyr cyffredin i Dduw yn trigo ar y ddaear mewn tŷ gweddi, i Dduw yn ein cyfarfod mewn addoldy, wedi gallu goroesi tystiolaeth profiad a ffydd. Wedi’r cyfan, synnwyr cyffredin yw un o’r profion lleiaf o wirionedd. Atebir y cwestiwn sinigaidd, “All e fod?” yn cael ei ateb gan reswm dyfnach, brofiad lletach, a ffydd realistig sy’n dweud, “Gall, wrth gwrs!”
Yng ngweddi Solomon yn y darn hwn gallwn weld tri man ble mae’r gweledol yn sianel i’r anweledig, ac mae yna fannau ble dŷn ni dal i fod â chyswllt â nhw heddiw. Mae’r cyntaf yn ymwneud â hanes. Mae Solomon yn dwyn i gof atgof o brofiadau mawr gyda Duw yn y gorffennol. Mae atgof gwael yn fygythiad i’n gweddïau.
Mae’r ail yn ymwneud â maddeuant. Yn llawer rhy aml dŷn ni’n defnyddio at ein gweddïau fel ffordd o drio cael Duw i fod o’n plaid. Ond mae’r eglwys weledol yn wiriad yn erbyn hynny. Maddeuant yw’r man i droi mewn gweddi, y trawsnewid o drio cael ein ffordd ein hunain gyda Duw, i ildio ein bywydau iddo e er mwyn iddo gyflawni ei ewyllys ynom.
Mae’r trydydd yn cael sylw gan Solomon yn y gair tramorwr,sy’n gallu cael ei gyfieithu fel “stranger.” Pan fydd ein diddordeb yn ein hunain, ein teulu, cylch bach o ffrindiau, dŷn ni’n colli pob teimlad tuag at eglwys eang Crist a’r byd mae Crist yn trio bod mewn perthynas â nhw.
Gellir crynhoi tair gwers Solomon mewn gweddi i dri gair hanes (Gwaith Duw yn y gorffennol), maddeuant (y pwynt o droi at ewyllys Duw o’r hunan), ac eraill (neu ddieithriaid). Gweddïa yng ngoleuni’r byd sy’n siarad mor bersonol â thi, nawr.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Hyderwn fod y pum defosiwn gan Eugene Peterson yn mynd â’th feddwl a chalon ar daith, gan na wyt yn gwybod beth fydd yr Ysbryd yn ei ddefnyddio i dy annog, herio, neu gysuro. Falle y byddi’n dewis defnyddio’r cwestiynau myfyrio sydd ar ddiwedd pob defosiwn i ffurfio dy weddi dy hun ar gyfer y diwrnod – yn sicr nid fel man gorffen ond yn hytrach fel dechrau ar gyfer yr hyn sydd eto i ddod.
More
Cynlluniau Tebyg

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Coda a Dos Ati

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Rhoi iddo e dy Bryder

Hadau: Beth a Pham

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Ymarfer y Ffordd

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
