Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Ymprydio Pwrpasol (Clyde Taber)
Mae ymprydio yn air rhyfedd i'n clustiau. Dŷn ni'n gwingo, oedi, ac yn ei wfftio. Dŷn ni'n ryw fras edrych arno cyn symud ymlaen fel yr arweinwyr crefyddol yn osgoi'r dyn a gafodd ei guro yn y ddameg gan Iesu. Eto, roedd ymprydio yn rhan o rythm a llif bywyd yr Eglwys gynnar.
Cadarnhaodd a chofleidiodd Iesu Grist yr arferiad o'r Hen Gyfamod o ymprydio, "Felly, pan fyddi'n rhoi arian i'r tlodion" (Mathew 6: 2), "Pan fyddi di'n gweddïo" (Mathew 6: 6), "Pan fyddwch chi'n ymprydio" (Mathew 6:16), fel y dysgodd ar y mynydd. Roedd Iesu yn tybio bod rhoi, gweddïo ac ymprydio yn rhan arferol o'r bywyd ysbrydol. Nid yw'r rhain yn ddewisol, ond yn rhan o'r addysgu craidd yn ysgol Crist.
Roedd ymprydio yn digwydd cyn nifer o ddigwyddiadau allweddol mewn hanes dynol. Ar ôl i Moses ymprydio derbyniodd y llechi a newidiodd ein gwybodaeth am bechod a synnwyr y byd o'r hyn oedd yn iawn (Exodus 34:28). Ar ôl i Iesu ymprydio dechreuodd y cwpan lifo gyda gwin y Cyfamod Newydd (Mathew 4: 2). Ar ôl i arweinwyr yr Eglwys gynnar ymprydio aeth dilynwyr Iesu ymhell tu hwnt i ffiniau Palestina (Deddfau 13: 2). Bu Eglwys yr Ugeinfed Ganrif yn Asia yn ymprydio a nawr mae'n tyfu ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen. Mae'r Tad wrth ei fodd yn gwobrwyo'r rhai sy'n ymprydio â chalon pur (Mathew 6:18).
Mae ymprydio yn dod cyn pwrpas ac felly dylai'r pwrpas ddigwydd cyn yr ymprydio. Pan fyddwn yn ymprydio, dylem ystyried amser o "neilltuo" er mwyn "cymryd rhan." Rydym yn ymatal rhag bwyd am gyfnod er mwyn canolbwyntio'n well ar Grist a'i deyrnas. Mae angen bwriad ac ymroddiad. Rydym yn cymryd amser i adael priffordd ein bywydau prysur. Mae ymprydio ar ei fwyaf buddiol pan yn cyd-fynd â cheisio, aberthu a hau i'r Ysbryd yn hytrach na chnawd. Pan fyddwn ni'n bwyta, rydym yn bodloni'r cnawd. Pan fyddwn yn ymprydio, rydym yn cyrraedd y tu hwnt i'r cnawd i deyrnas yr Ysbryd.
Nid yw'n hawdd yw gweld y budd o ymprydio. Mae'n arferiad sy'n gwella gydag amser a phrofiad. Pan fyddwn ni'n dechrau ar dymor o ymprydio, mae'r Arglwydd yn rhoi gras. Am eiliad mae'n ein hatgoffa o farwolaeth, ac yna mae'r Ysbryd yn cyfieithu absenoldeb bwyd i ymdeimlad o fywyd, golau a darganfyddiad.
Gan fod Iesu Grist yn bwrpasol yn ei daith i Jerwsalem, gallwn ni ei ddilyn yn yr arferiad hwn. Ddim "os," ond "pan fyddi di'n ymprydio"

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.
More
Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056