Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

DYDD 20 O 46

Sancteiddrwydd a Gras Duw

Weithiau, mae hi'n anodd iawn i ni gael gafael go iawn ar sancteiddrwydd. Dŷn ni'n ymhell bell oddi wrth y Deml, oedd yn mynegi sancteiddrwydd Duw. Does gynnon ni ddim fideo wedi'i gadw o'r Gweddnewidiad, ble wnaeth Iesu ddangos i'w ddisgyblion pwy oedd e. Does gynnon ni ddim cynrychiolaeth diriaethol o sancteiddrwydd.

Eto, ydy e'n bosib, fel y seintiau o'n blaen y gallwn ni brofi sancteiddrwydd? Falle, fwy nad ydyn ni'n sylweddoli neu am ei gyfaddef, mae sancteiddrwydd Duw o'n cwmpas ymhobman. Os yw hynny'n wir, gallai'r goblygiadau fod yn enfawr.

Os nad yw sancteiddrwydd bellach yn lle yn y Deml nac yn arch gysegredig, beth yw sancteiddrwydd? Ble mae sancteiddrwydd? A phwy sy'n sanctaidd?

Am y Cynllun hwn

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.

More

Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056