Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Dduw Sanctaidd (Keith Potter)
Yn nhymor y Grawys dŷn ni’n cofio am aberth Iesu Grist, a’r maddeuant dalwyd amdano gyda’i fywyd. Dŷn ni’n cyfaddef bod ein pechodau wedi bod yn rwystr yn ein perthynas gyda Duw.
Fodd bynnag, bydd ein cyfaddefiad yn denau a gwag heblaw ein bod yn deall mor fawr a sanctaidd yw Duw. Dŷn ni byth a hefyd yn tanbrisio difrifoldeb pechod a’i affeithiadau, gan ein gwneud yn wahanol i Dduw anghymwys ar gyfer cyfeillach da ag e. Bydd ein hymdrechion i faddau i ni ein hunain ac eraill yn denau ac yn wag hefyd oni bai ein bod yn deall sut mae gras Duw’n ein gorchuddio gymaint trwy Iesu Grist, gan ein gwneud yn gyfiawn yng ngolwg Duw ac yn addas ar gyfer cyfeillach da ag e.
Felly yn y tymor hwn, dŷn ni'n myfyrio ar sancteiddrwydd Duw ac yn meddwl tybed sut brofiad fyddai cael ein llenwi â bwriadau cariadus a chymhellion iach yn unig, fel ein Duw ni.
Yn Eseia 6, dŷn ni’n darganfod bod stori’r proffwyd mawr yn dechrau gyda gweledigaeth mawreddog o Dduw ar ei orsedd, wedi’i amgylchynu gan bodau nefol. Ddydd a nos mae rhain yn galw allan, “Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd ydy'r ARGLWYDD hollbwerus! Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!” (Eseia, pennod 6, adnod 3). Ac ymateb Eseia? “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus” (Eseia, pennod 6, adnod 5).
Roedd gweld Duw’n rhoi llygaid i Eseia weld ei hun. Aflan. Wedi’i gronni ym mudreddi yr hyn oedd yn ei amgylchynu. Unrhyw beth ond sanctaidd. Felly cyffyrddodd Duw ag Eseia. Mae'n mwynhau maddeuant a glanhau a pharodrwydd newydd. Mae Duw yn galw allan am asiant dynol. Mae Eseia yn ymateb, “Dyma fi; anfon fi.”
Gall hyn fod ein stori ni Yng ngoleuni sancteiddrwydd Duw dŷn ni’n cael ein dadwneud. “Gwae fi, Dw i’n berson aflan ymhlith pobl aflan. Nawr fy mod yn dy weld do go iawn, Arglwydd, dw i’n gweld fy hun. Help!” Ac mae Duw yn helpu, gyda gras sy'n fwy na'n pechod. Os yw ei sancteiddrwydd yn fawr, mae ei ras rywsut yn gyffredinol, oherwydd mae'n cynnwys pob un o’n pechodau sy'n gorfod tramgwyddo purdeb ei sancteiddrwydd. “Dewch i ganmol yr ARGLWYDD gyda mi! Gadewch i ni ei foli gyda'n gilydd!” (Salm 34, adnod 3).

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.
More
Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056