Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

"Trystia'r Arglwydd yn llwyr" (Karen Sloan)
Mae Duw'n ein gwahodd i wneud hyn ym mhob ennyd o'n bywyd. Gallwn ddewis i ymateb fel hyn, "Plîs, Arglwydd, achub fi! Tyrd ar frys, Arglwydd, a helpa fi." O'm rhan fy hun mae fy ffocws yn aros ar fy hun. Dw i un ai'n cael fy nal yn magl yr hyn dw i wedi'i gyflawni neu'n yr hyn dw i heb ei wneud eto. Dw i'n credu fod sefyllfaoedd yn ganlyniad fy ngalluoedd fy hun neu'n arwydd o'm diffygion fy hun. Pan mae bywyd i gyd amdana i, dw i wedi fy nallu o wirionedd fy nibyniaeth llwyr ar fy Nghreawdwr. Mae sŵn haerllugrwydd a phryder yn byddaru'r alwad i bwyso ar y breichiau tragwyddol.
Dŷn ni wedi ein cynllunio gan Dduw i fod yn ddibynnol. Mae e'n ddibyniaeth hyfryd - yn gyntaf, yn uniongyrchol ar Dduw, ac yn ail yn anuniongyrchol ar Dduw drwy'r pobl hynny mae Duw'n ddod i mewn i'n bywydau. Mae ein bodolaeth yn un o ryng-gysylltiad, nid ynysu.
Wrth i Iesu fyw ei fywyd ar y ddaear, yn Dduw ac yn ddyn, fe wnaeth e fyw bywyd o ddibyniaeth lwyr ar ei Dad, ond eto roed1 i 9).ddd yn ddibynnol ar ddarpariaeth ei Dad drwy bobl eraill. Darparodd Dduw fywyd dynol i Iesu drwy Mair. Cariodd Mair, Iesu cyn ei eni, ac yna'n ei breichiau. Y maeth gafodd Mair oedd y maeth cyntaf iddo'i dderbyn Paratôdd ei fara bob dydd a'i fagu â'i holl galon - gan fodloni un o anghenion mwyaf yr enaid ddynol.
Pan yn oedolyn roedd Iesu'n dibynnu ar gymuned fawr i gyflawni'r gwaith y cafodd ei alw i'w wneud. Darparodd bachgen bach y pum torth a dau bysgodyn fyddai'n bwydo'r pum mil, gofynnodd Iesu i'r wraig am ddŵr o'r ffynnon - a dibynnu ar ei gair i efengylu'n ei thref cyfan yn Samaria, ac arwain llawer i gredu ynddo Wedi'i lethu gan dristwch aeth Iesu i ardd Gethsemane gyda Pedr, Iago ac Ioan i chwilio am gysur, hyd yn oed wrth iddyn nhw fynd i gysgu pan roedd e eu hangen nhw fwyaf. Pan fu farw Iesu ar y groes roedd Mair yna gyda'r merched eraill ac Ioan, efallai i ddal ei gorff am un tro olaf. Galwodd Iesu ar ei ddisgyblion i wneud un peth arall ar ei ran - i ofalu am ei fam (Ioan,, adnodau pennod 19, adnodau 26 i 27). Roedd hyd yn oed ei fedd yn rhodd gan un o'i ddilynwyr (Mathew, pennod 27, adnodau 59 i 60).
Ond eto, wnaeth Iesu ddim aros yn y bedd hwn tu hwnt i dridiau. Oherwydd, cafodd ei atgyfodi gan yr Un roedd yn dibynnu arno fwyaf o farwolaeth i fywyd.
Mae yna ryddid mewn dibyniaeth. Mae e'n galluogi pob un ohonom i ddernyn ein bregusrwydd. Does dim raid i ni guddio ddim mwy mewn cywilydd neu hunan gynhaliaeth. Rwyt ti a minnau'n gallu dewis i drystio ein Tad ynghanol amrywiaeth o ddigwyddiadau trychinebus a hyfryd, gan weddïo, "O Dduw, achub fi! O Arglwydd, brysia i'm helpu!" (Salm 70, adnod 1).
Dŷn ni'n dibynnu ar yr Arglwydd, dŷn ni'n dibynnu ar y rhai sydd agosaf atom, a dŷn ni'n dibynnu ar y seintiau sydd wedi mynd o'n blaenau mewn ffydd. Mil chwe chant o flynyddoedd yn ôl cyhoeddodd John Cassian; Arweinydd Cristnogol Ewropeaidd, adroddiad o sgyrsiau gafodd gyda mynaich oedd yn byw mewn anialwch yn y Dwyrain Canol. Roedd un o'r mynaich hŷn, Isaac, wedi rhannu'r weddi hon o Salm 70 gyda John ar ei ymweliad â'u mynachdy. Cafodd llyfr John - a gweddi Isaac - wedi cael cymaint o ddylanwad fel bod llawer o Gristnogion ar hyd a lled y byd yn dechrau eu hamser o weddi gyda'r adnod gymeradwywyd gan Isaac i John Cassian. Ac ar ddyddiau pan dw i ddigon llonydd i glywed yr alwad, "Trystia'r Arglwydd yn llwyr", dw i hefyd yn yr arferiad gweddi hon, ac mae'r diolch am hynny'n rhannol i John Cassian, Isaac a'i gyd-fynaich.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.
More
Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056