Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

John Cassian (Yr Aifft, 365-435)
Mae hwn yn rywbeth sydd wedi'i basio i lawr i ni gan rai o'r Tadau hynaf ac mae'n rywbeth dŷn ni'n ei basio mlaen i nifer bychan o eneidiau sy'n eiddgar i'w wybod.
I gadw meddwl am Dduw'n y cof rhaid dal gafael yn gyfan gwbl i'r fformwila o dduwioldeb: "O Dduw, achub fi!
O Arglwydd, brysia i'm helpu!" (Salm 70, adnod 1).
Does dim dwywaith bod yna reswm da pam fod yr adnod wedi'i dewis o'r Ysgrythur gyfan i bwrpas. Mae hi'n cario o'i mewn yr holl deimladau o alluogrwydd y natur ddynol. Mae modd ei addasu ar gyfer bob sefyllfa a'i osod yn erbyn bob temtasiwn. Mae hi'n cario'n ei sgîl gri am gymorth Duw yng ngwyneb pob perygl. Mae hi'n mynegi'r cyfaddefiad o ostyngeiddrwydd duwiol. Mae'n cyfleu'r gwyliadwriaeth a anwyd o bryder ac ofn diderfyn. Mae'n cyfleu'r gwyliadwriaeth a anwyd o bryder ac ofn diderfyn. Mae'n cyfleu ymdeimlad o'n eiddilwch, y sicrwydd o gael ein clywed, yr hyder mewn help sydd bob amser ac ym mhobman yn bresennol. Mae rhywun yn galw allan yn ddiddiwedd at ei amddiffynnwr yn sicr iawn o'i gael yn agos. Dyma'r llais sy'n llawn cariad ac elusengarwch. Dyma waedd ddychrynllyd rhywun sy'n gweld maglau'r gelyn, gwaedd rhywun dan warchae ddydd a nos ac yn esgus na all ddianc oni bai bod ei amddiffynnwr yn dod i'r adwy.
Mae'r adnod fer hon yn wal anorchfygol i bawb sy'n brwydro yn erbyn ymosodiad cythreuliaid. Mae hi'n arfwisg anhreiddiadwy ac y cadarnaf o unrhyw darian. Beth bynnag yw'r ffieidd-dod, yr ing, neu'r tywyllwch yn ein meddyliau, mae'r adnod hon yn ein cadw rhag anobeithio am ein hiachawdwriaeth gan ei bod yn datgelu i ni'r Un yr ydym yn galw arno, yr Un sy'n gweld ein brwydrau ac nad yw byth yn bell oddi wrth y rhai sy'n gweddïo arno. Os bydd pethau'n mynd yn iawn i ni mewn ysbryd, os oes llawenydd yn ein calonnau, mae'r adnod hon yn rybudd i ni beidio tyfu'n falch, i beidio brolio ein bod mewn sefyllfa dda, na ellir, fel mae hi'n dangos drwy weddi na allwn wneud heb amddiffyniad Duw. Yr hyn dw i'n ddweud yw, fod yr adnod fach hon yn profi i fod yn ddefnyddiol i bob un ohonom, ym mhob sefyllfa. I rywun sydd angen help ym mhob peth, mae'n ei gwneud yn glir ei fod angen cymorth Duw nid yn unig mewn sefyllfaoedd caled a thrist ond yn gyfartal ac ynghanol amodau ffodus a llawen. Mae'n gwybod bod Duw yn ein hachub rhag adfyd ac yn gwneud ein llawenydd yn fwy ac na all eiddilwch dynol oroesi heb Ei gymorth.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.
More
Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056