Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

DYDD 13 O 46

Dibyniaeth
dydy hi ddim yn gyfrinach fod ein diwylliant yn gwerthfawrogi annibyniaeth. Mae'r Lone Ranger yn arwr Americanaidd eiconig. Ond dydy hi ddim yn cymryd fawr o amser iddo gael ei hun mewn pwll o anobaith. Roedd hyd yn oed y diwylliant a oedd mor gaeth yn ei agwedd, Dw i'n gallu ei wneud fy hun, yn sydyn iawn i dybio fod arwahanrwydd pendant Seung-Hui Cho (yr un oedd yn gyfrifol am y gyflafan yn Virginia Tech yn 2007) yn reswm na sylweddolwyd fod arno dristwch difrifol arweiniodd yn y pen draw at y drasiedi.
O'r dechrau cyntaf mae ein stori ffydd mae unigrwydd Adda yn dristwch y gall y ddynoliaeth gyfan uniaethu ag e. Mae creadigaeth Duw o Efa ar gyfer cwmnïaeth, ac ymyrraeth barhaus Duw yn hanes dynoliaeth trwy berthynas bersonol, yn dangos ein bod wedi ein creu i fod yn fodau perthynol.
Er nad yw perthynas yn mynnu aberthu annibyniaeth, mae'n cynnig y rhodd o gwrdd â'n annigonolrwydd. Mewn eiliadau o'r fath wendid, rydym yn sylweddoli cryfder dibyniaeth.

Am y Cynllun hwn

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.

More

Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056