Pedwar Ffordd i Rannu IesuSampl

Adrodda dy stori i rannu Iesu.
Mae Duw wedi rhoi rhywbeth anhygoel ynot ti i'w rannu ag eraill: dy dystiolaeth. Dyma stori wir yr hyn y mae Duw wedi'i wneud yn dy fywyd a'r amser wnes di ddewis credu'r Newyddion Da am Iesu. Paid â'i guddio! Rhanna hi gyda phawb o'th gwmpas fel y gallant wybod bod Iesu yn eu caru ac iddo gymryd y gosb am eu holl bechodau hefyd. Gwylia’r fideo symudiadau adnod a chwarae sawl tro i gofio Rhufeiniaid 1:16. Cofia, does dim angen i ti fyth deimlo cywilydd am y stori mae Duw wedi'i rhoi i ti!
Sawl tro
- Darllenwch Rhufeiniaid 1:16 yn uchel gyda ffrind.
- Dyweda air cyntaf yr adnod.
- Gad i'th ffrind ddweud y gair nesaf.
- Ailadrodda, gan gymryd dy dro am bob gair, nes i ti ddweud yr adnod gyfan.
- Gwela pa mor gyflym elli dii ddweud yr adnod gyda'ch ffrind!
Trafod: Pam nad oes angen i ni deimlo cywilydd am Newyddion Da Duw?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Gwnaeth Iesu ffordd i ni fod yn ffrindiau gyda Duw. Dyna Newyddion Da, ac mae angen i bawb wybod amdano! Derbynia'r genhadaeth a roddodd Iesu i ti: gwybod Newyddion Da Duw, dangosa gariad Duw, byw fel Iesu, ac adrodda dy stori
More