Pedwar Ffordd i Rannu IesuSampl

Dy gnhadaeth yw rhannu Iesu.
Pam y rhoddodd Iesu'r genhadaeth iti ddweud wrth bobl eraill amdano'i Hun? Mae hynny oherwydd bod gan y bobl o'th gwmpas bechod a phoenau yn eu calonnau sy'n eu hatal rhag bod yn ffrindiau â Duw. Pan fyddi di'n dweud wrth rywun am Newyddion Da Duw, gallan nhw ddewis Iesu fel eu harweinydd. Bydd Duw yn eu maddau. Byddan nhw'n dod yn ffrind i Dduw!
Gwylia’r fideo symudiadau adnod a chwaraea Helfa Drysor i gofio Marc 16:15. Cofia, dy genhadaeth di, bob dydd, yw pregethu'r Newyddion Da am Iesu i bawb!
Helfa Drysor
- Ysgrifenna bob gair o Marc 16:15 ar ddarnau o bapur.
- Ysgrifenna un gair yn unig ar bob darn o bapur.
- Crycha a chuddia’r papurau.
- Gofynna i rywun ddod o hyd i'r holl bapurau.
- Helpa dy ffrind i ddadgrymlu'r papurau a rhoi'r geiriau mewn trefn.
Siarada am y peth: Sut gall Marc 16:15 dy helpu i gofio rhannu Newyddion Da Duw?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Gwnaeth Iesu ffordd i ni fod yn ffrindiau gyda Duw. Dyna Newyddion Da, ac mae angen i bawb wybod amdano! Derbynia'r genhadaeth a roddodd Iesu i ti: gwybod Newyddion Da Duw, dangosa gariad Duw, byw fel Iesu, ac adrodda dy stori
More