Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pedwar Ffordd i Rannu IesuSampl

Four Ways To Share Jesus

DYDD 5 O 9

Dangosa gariad Duw i rannu Iesu.

Mae dangos cariad Duw yn un ffordd o rannu'r Newyddion Da am Iesu. Mae Duw yn dy garu di, felly rwyt ti’n rhannu ei gariad ag eraill. Ond mae caru eraill yn fwy na dim ond siarad am gariad. Dangosa gariad gyda gweithredoedd caredig. Dyna gariad go iawn. Dyna garu eraill â chariad Duw. Gwylia’r fideo symudiadau adnod a chwaraea Amser Pregethwr i gofio 1 Ioan 3:18. Cofia roi cariad Duw ar waith bob dydd!

Cofia roi cariad Duw ar waith bob dydd!

Amser Pregethwr

  1. Darllena 1 Ioan 3:18 yn uchel i dy deulu a dy ffrindiau di.
  2. Cymer srnat dy fod yn bregethwr a dysga i dy deulu a dy ffrindiau beth yw ystyr yr adnod.
  3. Gad i bob person yn dy deulu di geisio dweud yr adnod yn uchel heb unrhyw gymorth.
  4. Rho wobr i'r person cyntaf a all ei ddweud.

Trafod: Pa un fydd yn dangos y mwyaf o gariad i eraill: ein gweithredoedd, ein geiriau, neu'r ddau? Pam wyt ti'n meddwl hynny?

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

Four Ways To Share Jesus

Gwnaeth Iesu ffordd i ni fod yn ffrindiau gyda Duw. Dyna Newyddion Da, ac mae angen i bawb wybod amdano! Derbynia'r genhadaeth a roddodd Iesu i ti: gwybod Newyddion Da Duw, dangosa gariad Duw, byw fel Iesu, ac adrodda dy stori

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.life.church