Salm 32
32
Salm Dafydd, er athrawiaeth.
1Gwyn ei fyd y neb y ma/ddeuwyd · ei / drosedd :
ac y / cuddiwyd / ei / bechod.
2Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd / iddo · an/wiredd :
ac ni byddo / dichell / yn ei / ysbryd.
3Tra y tewais he/neiddiodd · fy / esgyrn :
gan fy / rhuad · ar / hyd y / dydd.
4Canys trymhaodd dy law arnaf / ddydd a / nos :
fy irder a / drowyd · yn / sychder / haf.
5Addefais fy mhechod wrthyt * a’m han/wiredd · ni / chuddiais :
dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd * a thi a fa/ddeuaist · an/wiredd · fy / mhechod.
6Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr / amser · y’th / geffir :
yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion * ni / chânt ne/sáu · ato / ef.
7Ti ydwyt loches i mi * cedwi / fi rhag / ing :
amgylchyni fi / â chan/ iadau · ym/wared.
8Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y / ffordd yr / elych :
â’m llygad / arnat / y’th gyng/horaf.
9Na fyddwch fel march neu / ful heb / ddeall :
yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa ac â ffrwyn * rhag ei / ddyne/sáu / atat.
10Gofidiau lawer / fydd · i’r an/nuwiol :
ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd * trugaredd / a’i cyl/chyna / ef.
† 11Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd / yn yr / Arglwydd :
a’r rhai uniawn o galon oll / ce/nwch yn / llafar.
Dewis Presennol:
Salm 32: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984