Salm 17
17
Gweddi Dafydd.
1Clyw / Arglwydd, · gyfiawnder :
ystyria fy lefain * gwrando fy / ngweddi · o we/fusau / didwyll.
2Deued fy marn oddi / ger dy / fron :
edryched dy / lygaid / ar un/iondeb.
3Profaist fy nghalon * gofwyaist fi y nos * chwiliaist fi ac / ni chei / ddim :
bwriedais / na thro/seddai / fy · ngenau.
4Tuag at am weith/redoedd / dynion :
wrth eiriau dy wefusau * yr ymgedwais rhag / llwybrau / yr ys/beilydd.
5Cynnal fy ngherddediad / yn dy / lwybrau :
fel / na / lithro · fy / nhraed.
6Mi a elwais arnat * canys gwrandewi arnaf / fi O / Dduw :
gostwng dy glust ataf / ac er/glyw · fy y/madrodd.
7Dangos dy ryfedd drugareddau * O Achubydd y rhai a ymddir/iedant / ynot :
rhag y sawl a ymgyfodant yn / erbyn / dy dde/heulaw.
8Cadw fi fel / cannwyll / llygad :
cudd fi dan / gysgod / dy a/denydd,
9Rhag yr annuwiolion y / rhai a’m · gorth/rymant :
rhag fy ngelynion marwol y / rhai / a’m ham/gylchant.
10Caesant / gan eu / braster :
â’u genau / y lle/farant · mewn / balchder.
11Ein cyniweirfa ni a glychynasant / hwy yr / awron :
gosodasant eu llygaid i / dynnu · i / lawr i’r / ddaear.
12Eu dull sydd fel llew a chwenychai / ysgly/faethu :
ac megis llew ieuanc yn / aros · mewn / leoedd / dirgel.
13Cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef / cwympa / ef :
gwared fy enaid rhag yr annuwiol * yr / hwn · yw dy / gleddyf / di;
14Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd * y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma * a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th gudd/iedig / drysor :
llawn ydynt o feibion * a gadawant eu / gweddill / i’w rhai / bychain.
15Myfi a edrychaf ar dy wyneb / mewn cyf/iawnder : digonir fi pan ddi/hunwyf · â’th / ddelw / di.
Dewis Presennol:
Salm 17: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984