Salm 18
18
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul : ac efe a ddywedodd,
1Caraf di, Arglwydd / fy ngha/dernid :
yr Arglwydd yw fy nghraig a’m hamddi/ffynfa / a’m gwa/ redydd.
2Fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr / ymddir/iedaf :
fy nharian a chorn fy iachaw/dwriaeth · a’m / huchel / dŵr.
† 3Galwaf ar yr Arglwydd / canmo/ladwy :
felly y’m / cedwir / rhag fy · nge/lynion.
4Gofidion angau a’m / cylchy/nasant :
ac afonydd y fall a’m / dychry/nasant / i.
5Gofidiau uffern a’m / cylchy/ nasant :
maglau angau a / achu/basant · fy / mlaen.
6Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd * ac y gwaeddais / ar fy / Nuw :
efe a glybu fy llef o’i deml * a’m gwaedd ger ei fron a / ddaeth i’w / glustiau / ef.
7Yna y siglodd ac y / crynodd · y / ddaear :
a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd * am / iddo / ef / ddigio.
8Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a thân a / ysodd · o’i / enau :
glo a / eny/nasant / ganddo.
9Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd / ac a · ddis/gynnodd :
a thy/wyllwch · oedd / dan ei / draed ef.
10Marchogodd hefyd ar y ceriwb / ac a · e/hedodd :
ie, efe a e/hedodd · ar a/denydd · y / gwynt.
11Efe a wnaeth dywyllwch yn ddir/gelfa / iddo :
a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd * a / thew gy/mylau · yr / awyr.
12Gan y disgleirdeb oedd / ger ei / fron :
ei gymylau a aethant heibio; / cenllysg · a / marwor / tanllyd.
13Yr Arglwydd hefyd a daranodd / yn y / nefoedd :
a’r Goruchaf a roddes ei lef; / cenllysg · a / marwor / tanllyd.
14Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwas/garodd / hwynt :
ac a saethodd ei fellt / ac a’u · gorch/fygodd / hwynt.
15Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd * gan dy gerydd / di O / Arglwydd:
a chan / chwythad / anadl · dy / ffroenau.
16Anfonodd oddi uchod, cy/merodd / fi :
tynnodd fi / allan · o / ddyfroedd / lawer.
17Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn a / rhag fy · ngha/seion :
canys yr / oeddynt · yn / drech na / mi.
18Achubasant fy mlaen yn / nydd fy / ngofid :
ond yr / Arglwydd · oedd gyn/haliad · i / mi.
19Dug fi hefyd / i e/hangder :
gwaredodd fi / canys · ym/hoffodd / ynof.
20Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn / ôl · fy nghyf/iawnder :
yn ôl glendid fy nwylo y / talodd · e/fe i / mi.
21Canys cedwais / ffyrdd yr / Arglwydd :
ac ni chiliais yn an/nuwiol · oddi / wrth fy / Nuw.
22Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd / ger fy / mron i :
a’i ddeddfau ni / fwriais / oddi / wrthyf.
23Bûm hefyd yn berffaith / gydag / ef :
ac ym/gedwais / rhag · fy an/wiredd.
24A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn / ôl fy · nghyf/iawnder :
yn ôl purdeb fy nwylo o / flaen ei / lygaid / ef.
25Â’r trugarog y / gwnei dru/garedd :
â’r gŵr / perffaith · y / gwnei ber/ffeithrwydd.
26A’r glân y / gwnei / lendid :
ac â’r / cyndyn · yr / ymgyn/dynni.
27Canys ti a waredi y bobl / gystudd/iedig :
ond ti a os/tyngi · o/lygon u/chel.
28Oherwydd ti a o/leui · fy / nghannwyll :
yr Arglwydd fy Nuw a le/wyrcha / fy nhy/wyllwch.
29Oblegid ynot ti y / rhedais · trwy / fyddin :
ac yn fy Nuw y / llemais / dros / fur.
30Duw sydd berffaith ei ffordd * gair yr Arglwydd sydd / wedi ∙ ei / buro :
tarian yw efe i bawb a / ymddir/iedant / ynddo.
31Canys pwy sydd Dduw heb/law yr / Arglwydd? :
a phwy sydd graig / ond ein / Duw / ni?
32Duw sydd yn fy ngwre/gysu ∙ â / nerth :
ac yn / gwneuthur ∙ fy / ffordd yn / berffaith.
33Gosod y mae efe fy nhraed fel / traed e/wigod :
ac ar fy / uchel/fannau ∙ y’m se/fydla.
34Efe sydd yn dysgu fy / nwylo ∙ i / ryfel :
fel y dryllier / bwa / dur ∙ yn fy / mreichiau.
35Rhoddaist hefyd i mi darian dy / iachaw/dwriaeth :
a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd a’th / fwynder · a’m / lluos-/ogodd.
36Ehengaist fy ngher/ddediad danaf :
fel na / lithrodd / fy / nhraed.
[37Erlidiais fy ngelynion ac a’u / goddi/weddais :
ac ni ddychwelais / nes eu / difa / hwynt.
38Archollais hwynt fel na / allent / godi :
syrth/iasant / dan fy / nhraed.
39Canys gwregysaist fi â / nerth i / ryfel :
darostyngaist danaf y / rhai · a ym/gododd · i’m / herbyn.
40Rhoddaist hefyd i mi warrau / fy nge/lynion :
fel y di/fethwn / fy ngha/seion.
41Gwaeddasant ond / nid oedd · a/chubydd :
sef ar yr Arglwydd ond nid a/tebodd · e/fe / hwynt.
42Maluriais hwynt hefyd fel llwch o / flaen y / gwynt :
teflais hwynt allan / megis / tom · yr he/olydd.]
43Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl * gosodaist fi yn / ben cen/hedloedd :
pobl nid adna/bûm a’m / gwasa/naethant.
44Pan glywant amdanaf ufudd/hânt i / mi :
meibion dieithr a gymerant arnynt / ymdda/rostwng · i / mi.
45Meibion / dieithr · a / ballant :
ac a ddychrynant / allan · o’u / dirgel / fannau.
46Byw yw yr Arglwydd, a ben/dithier · fy / nghraig :
a dyrchafer / Duw fy / iachaw/dwriaeth.
47Duw sydd yn rhoddi i mi / allu · ym/ddial :
ac a dda/rostwng · y / bobloedd / danaf.
48Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion * ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gy/fodant · i’m / herbyn :
achubaist fi / rhag y / gŵr / traws.
49Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ym/hlith y · cen-/hedloedd :
ac y / canaf / i’th / enw.
50Efe sydd yn gwneuthur mawr ym/wared · i’w / Frenin :
ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog * i Dafydd / ac i’w / had ef / byth.
Dewis Presennol:
Salm 18: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984