Salm 16
16
Michtam Dafydd.
1Cadw / fi O / Dduw :
canys / ynot · yr / ymddir/iedaf.
2Fy enaid dywedaist / wrth yr / Arglwydd :
Fy Arglwydd ydwyt ti * fy / na · nid yw / ddim i / ti.
3Ond i’r saint sydd ar y ddaear a’r / rhai rha/gorol :
yn y rhai y / mae fy / holl hyf/rydwch.
4Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar / ôl duw / dieithr :
eu diod-offrwm o waed nid offrymaf fi * ac ni chymeraf eu / henwau / yn fy · ngwe/fusau.
5Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth / i a’m / ffiol :
ti /a gyn/ heli ∙ fy / nghoelbren.
6Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn / lleoedd / hyfryd :
ie, y mae i mi / eti/feddiaeth / deg.
7Bendithiaf yr Arglwydd yr / hwn a’m ∙ cyng/horodd :
fy arennau / hefyd · a’m / dysgant ∙ y / nos.
8Gosodais yr Arglwydd bob amser / ger fy / mron :
am ei fod ar fy ne/heulaw / ni’m hys/gogir.
9Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon * ac ymhyfrydodd / fy ngo/goniant :
fy nghnawd / hefyd ∙ a / orffwys ∙ mewn / gobaith.
10Canys ni adewi fy / enaid ∙ yn / uffern :
ac ni oddefi i’th / Sanct ∙ weled / llygre/digaeth.
† 11Dangosi i mi lwybr bywyd * digonolrwydd llawenydd sydd / ger dy / fron :
ar dy ddeheulaw y mae dig/rifwch / yn dra/gywydd.
Dewis Presennol:
Salm 16: SPBWM
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984