Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 45

45
1Symbylwyd fy nghalon gan neges dda · adroddaf fy nghân / am y / brenin :
y mae fy nhafod fel pin / ysgri/fennydd / buan.
2Yr wyt yn / decach · na / phawb :
tywalltwyd gras ar dy wefusau am i / Dduw dy · fen/dithio · am / byth.
3Gwisg dy gleddyf ar dy glun / O ry/felwr :
â mawredd a go/goniant · a/ddurna · dy / forddwyd.
4Marchoga o blaid gwirionedd, ac o / achos · cy/fiawnder :
a bydded i’th ddeheulaw ddysgu / iti / bethau · of/nadwy.
5Y mae dy saethau’n llym yng nghalon ge/lynion · y / brenin :
syrth / pob–/loedd o/danat.
6Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw / yn dra/gwyddol :
a’th deyrnwialen yn wi/alen / cy–/fiawnder.
7Ceraist gyfiawnder a cha/sáu dryg/ioni :
am hynny bu i Dduw, dy Dduw di · dy eneinio ag olew llawenydd / uwchlaw / dy gy/foedion.
8Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr / aloes · a / chasia :
ac offerynnau llinynnol o balasau / ifori · yn / dy · ddi/fyrru.
9‡ Y mae tywysogesau ymhlith / merched · dy / lys :
saif y frenhines ar dy ddy/heulaw / mewn aur / Offir.
10Gwrando di, ferch, rho sylw a go/gwydda · dy / glust :
anghofia dy bobl dy / hun a / thŷ dy / dad;
11Yna bydd y brenin yn chwenychu / dy bryd/ferthwch :
o/herwydd / ef · yw dy / arglwydd.
12Ymostwng iddo ag anrhegion / O ferch / Tyrus :
a bydd cyfoethogion y / bobl yn / ceisio · dy / ffafr.
13Cwbl ogoneddus yw / merch y / brenin :
cwrel wedi ei osod mewn / aur sydd / ar ei / gwisg,
14Ac mewn brodwaith yr arweinir hi / at y / brenin :
ar ei hôl daw ei chyfei/llesau / y mo/rynion;
15Dônt atat yn / llawen · a / hapus :
dônt i / mewn i / balas · y / brenin.
16Yn lle dy dadau / daw dy / feibion :
a gwnei hwy’n dywysogion / dros yr / holl – / ddaear.
17Mynegaf dy glod dros y / cened/laethau :
nes bod pobl yn dy / ganmol / hyd – / byth.

Dewis Presennol:

Salm 45: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda