Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 44

44
1aO Dduw, clyw/som â’n / clustiau :
dywedodd / ein hyn/afiaid / wrthym
1bAm y gwaith a wnaethost yn eu / dyddiau / hwy :
yn y dyddiau / gynt â’th / law dy / hun.
2Gyrraist genhedloedd allan, ond eu / plannu / hwy :
difethaist bobloedd / ond eu / llwyddo / hwy;
3aOherwydd nid â’u cleddyf y / cawsant · y / tir :
ac nid â’u braich y / cawsant / fuddu/goliaeth,
3bOnd trwy dy ddeheulaw / a’th fraich / di :
a llewyrch dy wyneb / am dy / fod · yn eu / hoffi.
4Ti yw fy / Mrenin · a’m / Duw :
ti sy’n rhoi / buddu/goliaeth · i / Jacob.
5Trwot ti y darostyngwn / ein ge/lynion :
trwy dy enw y / sathrwn · ein / gwrthwy/nebwyr.
6Oherwydd nid yn fy mwa yr / ymddi/riedaf :
ac nid fy / nghleddyf / a’m gwa/reda.
7Ond ti a’n gwaredodd rhag / ein ge/lynion :
a chywilyddio’r / rhai sy’n / ein ca/sáu.
8Yn Nuw yr ydym erioed / wedi · ym/ffrostio :
a chlod/forwn · dy / enw · am / byth.
9Ond yr wyt wedi’n gwrthod / a’n da/rostwng :
ac nid ei allan / mwyach / gyda’n · by/ddinoedd.
10Gwnei inni gilio o / flaen y / gelyn :
a chymerodd y rhai sy’n / ein ca/sáu yr / ysbail.
11Gwnaethost ni fel / defaid · i’w / lladd :
a’n gwas/garu · y/mysg · y cen/hedloedd.
12Gwerthaist dy bobl am y nesaf / peth i / ddim :
ac ni / chefaist / elw · o’r / gwerthiant.
13Gwnaethost ni’n warth / i’n cym/dogion :
yn destun gwawd a / dirmyg · i’r / rhai o’n / hamgylch.
14Gwnaethost ni’n ddihareb y/mysg · y cen/hedloedd :
ac y mae’r bobloedd yn / ysgwyd · eu / pennau · o’n / plegid.
15Y mae fy ngwarth yn fy wy/nebu / beunydd :
ac yr wyf wedi fy ngor/chuddio / â chy/wilydd
16O achos llais y rhai sy’n fy ngwawdio / a’m di/frïo :
ac oherwydd y / gelyn / a’r di/alydd.
17Daeth hyn / i gyd / arnom :
a ninnau heb dy anghofio · na bod yn an/ffyddlon / i’th gy/famod.
18Ni throdd ein calon / oddi / wrthyt :
ac ni / chamodd · ein / traed o’th / lwybrau,
19I beri iti ein hysigo yn / nhrigfa’r / siacal :
a’n gorchuddio / â thy/wyllwch / dudew.
20Pe baem wedi anghofio / enw · ein / Duw :
ac estyn ein / dwylo · at / dduw – / estron,
21Oni fyddai Duw wedi / canfod / hyn? :
Oherwydd gŵyr ef / gyfri/nachau’r / galon.
22Ond er dy fwyn di fe’n / lleddir · drwy’r / dydd :
a’n / trin fel / defaid · i’w / lladd.
23Ymysgwyd! pam y / cysgi · O / Arglwydd? :
Deffro! / paid â’n / gwrthod · am / byth.
24Pam yr wyt yn / cuddio · dy / wyneb :
ac yn ang/hofio’n / hadfyd · a’n / gorthrwm?
25Y mae ein henaid yn y/mostwng · i’r / llwch :
a’n / cyrff yn / wastad · â’r / ddaear.
26Cyfod i’n / cynor/thwyo :
gwareda / ni er / mwyn · dy ffydd/londeb.

Dewis Presennol:

Salm 44: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda