Salm 46
46
1Y mae Duw yn noddfa ac yn / nerth i / ni :
yn gymorth / parod / mewn cy/fyngder.
2Felly, nid ofnwn er i’r / ddaear / symud :
ac i’r mynyddoedd / ddisgyn · i / ganol · y / môr,
3Er i’r dyfroedd ruo / a ther/fysgu :
ac i’r mynyddoedd / ysgwyd / gan eu / hymchwydd.
4Y mae afon a’i ffrydiau’n llawenhau / dinas / Duw :
preswylfa / sanctaidd / y Go/ruchaf.
5Y mae Duw yn ei chanol, nid ys/gogir / hi :
cynorthwya / Duw · hi ar / doriad / dydd.
6Y mae’r cenhedloedd yn terfysgu a’r teyr/nasoedd · yn / gwegian :
pan gwyd ef ei / lais – / todda’r / ddaear.
7‡ Y mae Arglwydd y Lluoedd / gyda / ni :
Duw / Jacob · yn / gaer i / ni.
8Dewch i weld gweith/redoedd · yr / Arglwydd :
fel y dygodd / ddifrod / ar y / ddaear;
9Gwna i ryfeloedd beidio / trwy’r holl / ddaear :
dryllia’r bwa · tyr y waywffon · a / llosgi’r / darian · â / thân.
10Ymlonyddwch, a deallwch mai my/fi sydd / Dduw :
yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd · yn ddyrcha/fedig / ar y / ddaear.
11Y mae Arglwydd y Lluoedd / gyda / ni :
Duw / Jacob · yn / gaer i / ni.
Dewis Presennol:
Salm 46: SPBCND
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009