Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 43

43
1aCymer fy / mhlaid, O / Dduw :
ac am/ddiffyn / fy – / achos.
1bRhag / pobl an/nheyrngar :
gwared fi rhag dynion twy/llodrus / ac ang/hyfiawn,
2aOherwydd ti, O Dduw, yw / fy am/ddiffyn :
pam / y gwr/thodaist / fi?
2bPam y / rhodiaf · mewn / galar :
wedi fy ngor/thrymu / gan y / gelyn?
3Anfon dy oleuni a’th wirionedd · bydded / iddynt · fy / arwain :
bydded iddynt fy nwyn i’th fynydd / sanctaidd / ac i’th / drigfan.
4Yna dof at allor Duw, at Dduw / fy llaw/enydd :
llawenychaf a’th foliannu â’r delyn / O – / Dduw, fy / Nuw.
5aMor ddarostyngedig / wyt, fy / enaid :
ac / mor gyth/ryblus o’m / mewn!
5bDisgwyliaf wrth Dduw · oherwydd eto mol/iannaf / ef :
fy Ngwa/redydd / a’m – / Duw.

Dewis Presennol:

Salm 43: SPBCND

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda