Rhufeiniaid 13
13
Dyledswyddau tuag at yr Awdurdodau Gwladol.
1Bydded pob enaid#13:1 Gan bwysleisio cyfrifoldeb pob un. yn ddarostyngedig#13:1 Y mae y pedwar gair hyn o'r un gwreiddyn, tassô, ‘gosod,’ ‘trefnu.’ i awdurdodau sydd drostynt; canys nid oes awdurdod oddieithr oddiwrth#13:1 Oddiwrth D F G; gan א A B. Dduw, a'r rhai sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio#13:1 Y mae y pedwar gair hyn o'r un gwreiddyn, tassô, ‘gosod,’ ‘trefnu.’. 2O ganlyniad, yr hwn sydd yn ymrestru#13:2 Y mae y pedwar gair hyn o'r un gwreiddyn, tassô, ‘gosod,’ ‘trefnu.’ yn erbyn yr awdurdod, y mae yn gwrthsefyll ordinhad#13:2 Y mae y pedwar gair hyn o'r un gwreiddyn, tassô, ‘gosod,’ ‘trefnu.’ Duw; a'r rhai a wrthsafant a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. 3Canys nid yw y llywodraethwyr yn ddychryn i'r gwaith#13:3 Felly, א A B D F G Brnd.; gweithredoedd da … gweithredoedd drwg, Test. Derb. da ond i'r gwaith drwg. A ewyllysi di beidio ofni yr awdurdod? gwna y da, a thi a gei glod ganddo: 4canys gweinidog#13:4 Diakonos, gan bwysleisio cymmeriad uchel y swydd. Duw yw efe i ti er daioni; ond os gwnei y drwg, ofna, canys ni wisg#13:4 Gwisgai y Cesariaid gleddyf fel arwyddlun o'u gallu ymherodrol. Llefara Paul am lywodraeth ac awdurdod fel y cyfryw fel o osodiad Dwyfol, er y gallent gael eu camddefnyddio i'r graddau eithaf. Nero yn awr oedd Ymherawdwr Rhufain. efe y cleddyf yn ofer#13:4 ‘Heb achos’ neu ‘heb effaith.’ Y mae ganddo ei ‘gred‐lythyrau,’ ei awdurdod.; oblegyd gweinidog Duw yw efe, a dialydd er llid#13:4 ‘Y dialydd sydd yn dangos llid y llywodraethwr.’ i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg. 5Gan hynny, angenrhaid yw ymostwng, nid yn unig o herwydd y llid#13:5 Hynny yw, y gospedigaeth., ond hefyd o herwydd cydwybod#13:5 Yr ymwybodolrwydd fod gan y llywodraethwr hawl i gospi trosedd.. 6Canys o achos hyn y telwch deyrnged#13:6 Teyrnged (phoros) yw yr hyn a delir gan genedl sydd ddarostyngedig i un arall. hefyd; canys gwasanaethwyr#13:6 Yn adnod 5 cawn diakonos, ‘gweinidog,’ yn yr hwn y pwysleisir un yn gwasanaethu ar ran Duw; yma, leitourgos [un yn gweithio dros y bobl], un mewn swydd gyhoeddus, fel offeiriad, &c., yn gwasanaethu ar ran y bobl. Duw ydynt, gan dalu sylw#13:6 Dyfal‐barhau, ‘ymegnio i,’ ‘parhau i lynu.’ Yr un gair yn 12:12. dyfal i'r peth hwn. 7Telwch i#13:7 Gan hynny, gad. א A B D. bawb eu dyledion; teyrnged#13:7 Teyrnged (phoros) yw yr hyn a delir gan genedl sydd ddarostyngedig i un arall., i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; treth#13:7 Treth [telos, ‘toll’] ddynoda y trethoedd raid cu talu at gynnal y llywodraeth wladol; neu, teyrnged ar bersonau; treth, ar feddiannau., i'r hwn y mae treth; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch.
Cariad ac ymarferiad Cristionogol.
8Na fyddwch mewn dyled i neb o ddim ond o garu bawb eich gilydd#13:8 Gan awgrymmu fod cariad yn ddyled arhosol. Mwyaf i gyd y byddom yn caru, mwyaf i gyd y bydd y ddyled o gariad yn aros.; ond yr hwn sydd yn caru arall#13:8 Llyth., y llall [heteros, un gwahanol]. sydd wedi cyflawni#13:8 Y mae cyflawniad yn rhagflaeni y weithred, ac yn y bwriad y mae y rhinwedd. y ddeddf; 9canys hyn: Na odineba#13:9 Y mae yr amser yn y dyfodol, ‘Ni odinebi,’ &c., Na ladd, Na ladratta,#13:9 Na cham‐dystiolaetha א; gad. A B D F G., Na thrachwanta; ac os oes orchymyn arall, cynnwysir#13:9 ‘Y mae yn cael ei symio i fyny,’ ‘gosodir yr oll dan y penawd.’ ef yn gryno yn y gair hwn, Câr#13:9 Fel y mae ffydd wedi cymmeryd lle ‘gweithredoedd y ddeddf’ rhwng dyn a Duw, felly y mae cariad i gymmeryd lle pob rhyw gyfammod cyfreithiol rhwng dyn a dyn. dy gymmydog fel ti dy hun. 10Cariad ni weithreda ddrwg i'w gymmydog; gan hynny cyflawnder#13:10 Plerôma, ‘yr hyn sydd yn llanw,’ yn cyfarfod yn hollol â holl ofynion deddf. deddf yw cariad.
11A hyn: gan wybod yr amser#13:11 Kairos, amser neillduol, ‘argyfwng,’ yn enwedig o hyn hyd Ddyfodiad Crist. ei bod eisoes yn bryd i#13:11 I chwi א A B C; i ni D E F G. chwi ddeffroi o gwsg; canys yr awrhon y mae ein hiachawdwriaeth#13:11 Nid ein cyflawn iachawdwriaeth i anfarwoldeb a gogoniant, yn gymmaint ag Ail Ddyfodiad yr Arglwydd. ni yn nes na phan gredasom. 12Y nos a gerddodd#13:12 Prokoptô, ‘estyn allan’ megys trwy guro â morthwyl, ‘myned ym mlaen,’ ‘gynnyddodd’ (Luc 2:52; Gal 1:14). ym mhell, ac y mae y dydd wedi agoshau; am hynny bwriwn#13:12 ‘Diosgwn a thaflwn ymaith fel yn annheilwng ac yn annghyfaddas i frwydr fawr bywyd.’ ymaith oddiwrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau#13:12 Y mae yr Apostol yn hoff o'r ffugyr (1 Thess 5:8; 2 Cor 6:7; Rhuf 6:1, 3; Eph 6:13, &c.). Yma, nid yn unig gwisgo dillad, ond arfau i'r frwydr. y goleuni. 13Rhodiwn yn weddus megys yn y dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cyd‐orwedd ac anlladrwydd#13:13 Y mae y rhai hyn oll yn y rhif lluosog, ‘ymarferiadau o loddestwaith, meddwdod, godineb, ac anlladrwydd.’, nid mewn cynnen a chenfigen; 14eithr gwisgwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist#13:14 Fel ein harfogaeth i wrthsefyll a gorchfygu pechod. Yr adnod hon oedd offerynol yn nhroedigaeth Awstin., ac na wnewch rag‐ddarbod dros y cnawd, gyda golwg ar ei chwantau.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 13: CTE
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.