Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 12

12
Y Bywyd Newydd yng Nghrist: Ei ddyledswyddau yn y Frawdoliaeth.
1Am hynny#12:1 Y mae yr adran faith o ymresymiad cadarn a goruchel wedi ei gorphen, ac yn awr, fel diweddglo i'r rhan athrawiaethol, rhydd yr Apostol amryw gynghorion pwysig ac ymarferol. Rhanna Melancthon hwynt fel hyn: dyledswyddau moesol (12), gwleidyddol (13), eglwysyddol (14–16); ond nid yw y rhaniad hwn yn ddiysbyddol. Am hynny, fel canlyniad i'r holl ymdriniaeth flaenorol. yr wyf yn eich annog#12:1 Golyga y gair cynghori a chysuro. Cyfuna annog, cefnogi, calonogi, y ddau feddwl. chwi, frodyr, trwy dosturiaethau Duw#12:1 Symmudiadau tyner a bendithlawn calon tosturi Duw., gyflwyno#12:1 Term aberthol. Dwyn i fyny at yr allor (Lef 16:7; Luc 2:22). o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, llawn‐foddhâol, i Dduw#12:1 Y mae ‘i Dduw’ yn ddealledig gyda'r tri gair rhagflaenedig. Y mae yr aberth i fod yn fyw mewn cyferbyniaeth i'r aberthau Iuddewig a leddid. Y mae y corph yn ei holl egnion yn llosgi yng ngwasanaeth Duw, a'i holl aelodau yn offerynnau cyfiawnder.: hyn yw eich gwasanaeth rhesymmol#12:1 Neu, addoliad ysprydol. Dynoda logikos ‘yr hyn a berthyn i'r rheswm,’ i'r rhan feddyliol o'r dyn, fel yn wrthgyferbyniol i'r cnawdol, allanol, a materol, ac felly yn awgrymmu ‘yr ysprydol.’ Cymmerir y gair gwasanaeth o wasanaeth defodol y Deml (9:4).. 2Ac na chydymagweddwch#12:2 Gwreiddyn y ferf yw schema, dull, agwedd. Dynoda ffurf allanol, gyfnewidiol, ansylweddol, yn wrthgyferbyniol i morphê (gwreiddyn y ferf trawsffurfier), yr hwn a olyga ffurf gynhenid, dufewnol, hanfodol ac arhosol. Caed Crist mewn dull (schema) fel dyn, ond yr oedd yn dragywyddol yn ffurf (morphê) Duw. ‘Na chymmerwch arnoch ddull y byd hwn, yr hwn sydd yn myned heibio, ond trawsffurfier eich holl yspryd trwy adnewyddiad y meddwl.’ â'r byd#12:2 Llyth., yr oes hon, yn ei thuedd bechadurus. hwn, eithr trawsffurfier#12:2 Gwreiddyn y ferf yw schema, dull, agwedd. Dynoda ffurf allanol, gyfnewidiol, ansylweddol, yn wrthgyferbyniol i morphê (gwreiddyn y ferf trawsffurfier), yr hwn a olyga ffurf gynhenid, dufewnol, hanfodol ac arhosol. Caed Crist mewn dull (schema) fel dyn, ond yr oedd yn dragywyddol yn ffurf (morphê) Duw. ‘Na chymmerwch arnoch ddull y byd hwn, yr hwn sydd yn myned heibio, ond trawsffurfier eich holl yspryd trwy adnewyddiad y meddwl.’ chwi trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y gosodoch i brawf#12:2 Dokimazô, profi, gwahaniaethu, deall trwy brawf, gwerthfawrogi, gwybod trwy brofiad. beth yw daioni, a llawn‐foddhâol a pherffaith ewyllys Duw. 3Canys dywedyd yr wyf, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un sydd yn eich plith, na byddo iddo feddwl am dano ei hun yn uwch nag y dylai feddwl, ond i feddwl yn sobr, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd#12:3 Mesur ffydd. Ffydd yw arwydd a mesur y bywyd Cristionogol, a defnyddir ‘ffydd’ yma am y doniau a'r grasusau a roddir i ddyn gyda ffydd, neu mewn canlyniad iddi. Ffydd yw yr egwyddor a benderfynna dueddiadau ac a rydd gyfeiriad i weithgarwch cynneddfau y credadyn. Y mae ffydd yn ‘agoriad llygad.’ Gwel dyn ei gylch, ei gynnysgaeth a'i derfynau, ac fe geidw ffydd ef yn ei le.. 4Canys megys y mae gennym mewn un corph aelodau lawer, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith; 5felly nyni yn llawer, ydym un corph yng Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd. 6A chan fod gennym ddoniau gwahanol yn ol y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai prophwydoliaeth, prophwydwn yn ol cyfartaledd#12:6 Analogia, gradd, cyfrifiad, cyfartalwch. Ni saif ffydd yma am ffydd wrthrychol, ‘y ffydd Gristionogol,’ cyfundrefn o athrawiaeth; ond y mae y rhai sydd i ‘brophwydo’ i ddeongli y dadguddiad Dwyfol yn ol nerth ac eglurder y ffydd sydd yn eu meddiant. ein ffydd; 7ai gweinidogaeth, byddwn ffyddlon yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn dysgu, yn y ddysgeidiaeth; 8neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cynghor; neu yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed gyda haelionusrwydd#12:8 Haplotês, symlrwydd, gonestrwydd meddwl, cywirdeb; heb hunan‐gais, calon agored yn dangos ei hun trwy haelionusrwydd (2 Cor 8:2; 9:11, 13).; yr hwn sydd yn llywyddu, gydag eiddgarwch#12:8 Difrifoldeb, diwydrwydd, sêl eiddgar.; yr hwn sydd yn trugarhau, gyda sirioldeb#12:8 Hilarotês, parodrwydd meddwl, ewyllysgarwch, llonder.. 9Bydded cariad yn ddiragrith. Ffieiddiwch#12:9 ‘Trowch oddiwrtho gyda chasineb.’ y drwg; glynwch wrth y da. 10Mewn cariad brawdol, meithrinwch serch tyner#12:10 Philostorgos. Golyga storgos serch teuluol, megys eiddo plant a rhieni, gwr a gwraig, &c. Dylai yr un teimlad da nodweddu ‘teulu Duw.’ tuag at eich gilydd; mewn dangos parch, yn blaenori#12:10 Arweiniwch y ffordd i ddangos parch, i roddi anrhydedd, un i'r llall. Ysgol gras yw meithrinfa moesgarwch. ar eich gilydd; 11nid yn llesg mewn eiddgarwch; yn wresog mewn yspryd; yn gwasanaethu yr#12:11 Y cyfleustra D F G; yr Arglwydd א A B Brnd. Arglwydd; 12yn llawenhau mewn gobaith, yn dal i fyny dan orthrymder, yn dyfal‐barhau mewn gweddi; 13yn cyfrannu i angenrheidiau y saint, yn ymroddi#12:13 Llyth., yn erlyn, dylyn. i lettygarwch. 14Bendithiwch y rhai sydd yn eich erlid; bendithiwch, ac na felldithiwch. 15Llawenychwch gyda'r rhai sydd yn llawenychu; wylwch gyda'r rhai sydd yn wylo#12:15 Bydded fod gennych eich Bethania yn ogystal a'ch Cana.. 16Byddwch o'r un meddwl tuag at eich gilydd, heb roi eich meddwl ar bethau uchel, ond at dynner#12:16 Llyth., ‘yn cael eich harwain ynghyd,’ gan ymhyfrydu fel rhai isel‐frydig yng ngoruchwylion neu mewn pethau distadl. chwi at bethau sydd isel#12:16 Neu, ‘at‐dynner chwi at y rhai distadl,’ yr anghennus, a'r anwybodus. Ni ddefnyddir y gair tapeinos yn y ganolryw mewn un lle arall yn y T.N., ond saith o weithiau yn y rhyw wrrywaidd.. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. 17Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Meddyliwch ym mlaenllaw#12:17 Gan wneyd i ffwrdd â phob rhagfarn a drwgdybiaeth. am bethau anrhydeddus#12:17 Llyth., da. Da ynddynt eu hunain a phrydferth yn y cyflawniad o honynt. yng ngolwg pob dyn. 18Os yn bosibl, hyd y mae ynoch chwi#12:18 ‘O'ch ochr chwi.’, byddwch mewn heddwch â phob dyn. 19Nac ymddielwch, anwyliaid, eithr rhoddwch le i'r digofaint#12:19 Sef, digofaint Duw, nid dyn., canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae y dial, myfi a ad dalaf, medd yr Arglwydd#Deut 32:35. 20Eithr os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo i yfed; canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd#12:20 Sef, tân cariad a charedigrwydd yr hwn a gynneua gywilydd ac edifeirwch yn ei fynwes. Buddugoliaeth daioni geir yma. Y mae yr adnod o Diar 25:21, 22. Y mae yr Apostol yn Ddiarebwr hefyd yn y bennod hon. ar ei ben ef. 21Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy#12:21 Llyth., mewn, fel maes y fuddugoliaeth. ddaioni.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 12: CTE

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda