Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 14

14
Cyd‐oddef Cristionogol.
1Yr hwn sydd wan yn y ffydd derbyniwch attoch, ond nid i feirniadaeth o'i dybiadau#14:1 ‘Nid i ddadgan barn ar neu gondemnio ei feddyliau, ei amheuon, nid i sefyll uwch ei ben i geryddu ei wendidau, ond i'w galonogi yn yspryd cariad a goddefgarwch.. 2Un, yn wir, sydd ganddo ffydd i fwytta pob peth, ond yr hwn sydd yn wan, llysiau#14:2 Er mwyn bod yn sicr o osgoi bwytta cig a offrymmwyd i eilunod. y mae yn fwytta. 3Yr hwn sydd yn bwytta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwytta; a'r hwn nid yw yn bwytta, na farned yr hwn sydd yn bwytta, canys Duw a'i derbyniodd ef atto. 4Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwas#14:4 Gwas teuluol, fel yn dal agos berthynas a'i feistr. Nid yw yr Apostol yn condemnio ffurfio barn neu opiniwn, ond yr ymhoniad o uwchafiaeth. un arall? i'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio; ac efe a wneir i sefyll, canys fe a all Duw wneyd iddo sefyll. 5Un a farn#14:5 ‘A gyfrif, a gymmeradwya.’ ddiwrnod uwchlaw diwrnod, ond arall a farn bob diwrnod yr un fath: bydded pob un yn hollol argyhoeddedig#14:5 Wedi ei lawn‐berswadio, yn sicr. Gweler y gair, 4:21. Y mae gan bob un hawl i'w farn, ond y mae yn gyfrifol am dani i Dduw. ‘Bydded pob un yn sicr ac yn hwylio ym mlaen yng ngrym awel gref argyhoeddiad.’ yn ei feddwl ei hun. 6Yr hwn sydd yn ystyried#14:6 Yn synied, meddwl, prisio, ‘Beth bynnag y mae un yn synied am ddiwrnod.’ diwrnod, i'r Arglwydd y mae yn ei ystyried,#14:6 A'r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae heb ei ystyried, gad. א A B C D F G Brnd., a'r hwn sydd yn bwytta, i'r Arglwydd y mae yn bwytta, canys y mae yn diolch i Dduw; a'r hwn nad yw yn bwytta, i'r Arglwydd nid yw yn bwytta, ac y mae yn diolch i Dduw. 7Canys nid oes neb o honom yn byw iddo ei hun#14:7 Nid ydym yn byw ond i un, sef Crist, a thrwyddo i eraill., ac nid oes neb yn marw#14:7 Yr ydym i fod yn ei wasanaeth yn y byd a ddaw. iddo ei hun. 8Ac os byw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ac os marw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn marw#14:8 “Y mae yn gelfyddyd fawr i farw yn dda, ac i'w dysgu gan ddynion yn hoender iechyd.” — Jeremy Taylor.; gan hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. 9I hyn y bu Crist farw a#14:9 Ac yr adgyfododd F G; gad. א A B C. byw#14:9 ‘Ac a ddaeth yn fyw’ yn ei Adgyfodiad. Ni chyfeirir at ei fywyd cyn ei farwolaeth. Y mae, yn Paul, arglwyddiaeth Crist yn gyssylltiedig a'i Adgyfodiad., fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a'r byw.
Gofal ystyrbwyll am, a chariad hunan‐aberthol at ein gilydd.
10Eithr tydi, paham y berni dy frawd? neu etto tydi, paham y dirmygi dy frawd? Canys gosodir ni oll gerbron brawdle#14:10 Bêma, (1) cam, (2) llwyfan. Yma, mainc, brawdlys (Mat 27:19; Ioan 19:13, &c.) Duw#14:10 Duw א A B C D F G Brnd. Daeth ‘Crist’ i mewn o 2 Cor 5:10.; 11canys y mae yn ysgrifenedig#14:11 Rhydd ddyfyniad o LXX, Es 45:23., Byw wyf fi, medd yr Arglwydd, oblegyd i mi y plyga pob glin, a phob tafod a gyffesa#14:11 Neu, ‘a gân allan foliant’; a gyffesa ei arglwyddiaeth a'i gyfiawnder. i Dduw. 12Felly, gan hynny, pob un o honom am dano ei hun a rydd gyfrif i#14:12 I Dduw א A C; gad. B. Dduw.
13Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach, eithr bernwch hyn yn hytrach, na byddo i neb osod maen‐tramgwydd#14:13 Golyga proskomma ‘yr hyn a gura'r troed yn ei erbyn;’ skandalon, y magl a'i rhwyda. Gweler 1 Cor 8:9, &c., ar y pwnc yma. ar ffordd ei frawd, neu fagl#14:13 Golyga proskomma ‘yr hyn a gura'r troed yn ei erbyn;’ skandalon, y magl a'i rhwyda. Gweler 1 Cor 8:9, &c., ar y pwnc yma.. 14Mi a wn, ac yr wyf wedi fy mherswadio yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan#14:14 Llyth., cyffredin. o#14:14 O hono ei hun א B C; trwyddo ef a (sef Crist) A D F G. hono ei hun; ond i'r hwn sydd yn cyfrif peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan. 15Canys os o achos bwyd y tristhêir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ol cariad. Na ddistrywia#14:15 ‘Na fydd yn Apollyon’ (Dad 9:11) trwy dramgwyddo ei gydwybod neu galedu ei ragfarn. ef â'th fwyd#14:15 Y mae acen cerydd os nid dirmyg yn ‘â'th fwyd.’ ‘Na wna fwy o gyfrif o'th bryd bwyd na wnaeth Crist o'i fywyd.’, dros yr hwn y bu Crist farw. 16Na chabler, gan hynny, eich daioni chwi#14:16 ‘Na fydded i'ch ymwybyddiaeth o ryddid Cristionogol ddyfod yn achos gwaradwydd.’; 17canys nid bwytta ac yfed yw Teyrnas Dduw#14:17 ‘Teyrnas Dduw’; ddeg o weithiau yn Paul. Golyga deyrnasiad Duw dros ddyn adnewyddedig yn cael ei ddadguddio a'i effeithioli trwy yr Efengyl., eithr cyfiawnder#14:17 Sefyllfa'r credadyn trwy gyfiawnhâd. a thangnefedd#14:17 Fel canlyniad cymmod â Duw trwy ffydd., a llawenydd#14:17 Fel ffrwyth cariad Duw yn daenedig yn y galon. Cyssyllter yr Yspryd Glân a'r tri gras a enwir. yn yr Yspryd Glân. 18Canys y neb sydd yn gwasanaethu Crist yn y#14:18 Y peth [holl gylch ysprydol y Deyrnas] א A B C D, &c.; pethau L. peth hwn sydd yn rhyngu bodd i Dduw ac yn gymmeradwy gan ddynion. 19Felly gan hynny yr ydym ni yn dylyn pethau tangnefedd a phethau adeiladaeth ein gilydd. 20O achos bwyd na ddinystria#14:20 Tynnu i lawr, torri i fyny. ‘Mewn bwytta creaduriaid na ddinystria greadur pennaf Duw.’ waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân, eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwytta trwy dramgwydd#14:20 Trwy rym esiampl pan y mae ei gydwybod yn erbyn.. 21Da#14:21 Kalon, prydferth, da a gweddus. yw peidio â bwytta cig nac yfed gwin, na gwneuthur dim yn yr hwn y mae tramgwydd i'th frawd#14:21 Ychwanega B D E F neu y meglir ef neu y gwanheir ef; gad. א A C.. 22Y ffydd#14:22 Yr argyhoeddiad cryf a'r amgyffrediad eglur a ddaw o ffydd gyfiawnhâol. ‘Na wna arddangosiad balch o'th gryfder.’ yr hon sydd gennyt, ceidw i ti dy hun gerbron Duw. Dedwydd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei gymmeradwyo#14:22 Dedwydd yw y dyn nad yw ei gydwybod a'i reswm yn ei gondemnio am weithred neu ymddygiad wedi iddynt eu gosod ar brawf digonol a gwneyd ymholiad trylwyr i'w natur a'u heffaith.; 23eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwytty, sydd wedi ei gondemnio#14:23 Defnyddir yr amser perffaith, oblegyd nid y weithred ei hun ond y diffyg o gydwybod dda oedd yn blaenori y weithred oedd yn condemnio., am nad o ffydd y gweithreda: a phob peth nad yw o ffydd#14:23 O argyhoeddiad ei fod yn iawn. Llefara yr Apostol am weithredoedd a gyflawnir gan y Cristion, yr hwn ni chreda eu bod hwy yn iawn., pechod yw#14:23 Gosodir y Molawd (16:25–27) yma gan L, ac yn y ddau le gan A; ond gadewir allan yma gan א B C D, &c..

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 14: CTE

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda