Rhufeiniaid 11
11
Nid oedd gwrthodiad Israel yn hollol.
1Am hynny meddaf, A fwriodd#11:1 ‘Gosod i ffwrdd,’ ‘taflu o'r neilltu,’ ‘gwthio ymaith.’ Duw ymaith ei bobl? Na atto Duw: canys yr wyf fi hefyd yn Israeliad o hâd Abraham, o lwyth Benjamin#11:1 Gan ddisgyn o Rahel ‘yr anwylyd,’ ac nid o Leah neu un o'r caeth-forwynion; o lwyth y barnwr a'r brenin cyntaf, nid yn unig un o'r deuddeg, ond un o'r ddau. Ni lefara Paul am dano ei hun fel unigolyn, ond fel Apostol y Cenhedloedd, fel offeryn dewisedig i'w dwyn i'r deyrnas, ac yntau ei hun yn Iuddew. Yr oedd iachawdwriaeth o'r Iuddewon ac hefyd drwyddynt.. 2Ni fwriodd Duw ymaith bobl y rhai a rag‐adnabu efe. Oni wyddoch pa beth a ddywed yr Ysgrythyr yn yr adran am#11:2 Llyth., yn Elias. Gweler Marc 12:26; Luc 20:37. Elias, y modd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, 3O Arglwydd, hwy a laddasant dy brophwydi, ac a gloddiasant i lawr dy allorau, ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau#11:3 Rhydd ddyfyniad o 1 Br 19:10, 14, 18.. 4Eithr pa beth a ddywed atteb#11:4 Chrêmatismos [yma yn unig yn y T.N.], atteb Dwyfol, oracl. Gweler Mat 2:12, 22; Act 10:22. Duw wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant lin i Baal#11:4 Y mae Baal yma yn y rhyw fenywaidd; yn yr Hebraeg y mae yn y rhyw wrrywaidd, ond yn y LXX, yn y ddau. Rhai ddywedant fod ‘delw’ yn ddealledig; eraill, fod Baal o'r ddau ryw.. 5Gan hynny yr un modd y pryd#11:5 Kairos; pwysleisia Paul nodwedd neu gymmeriad ei amser ef fel yn debyg i eiddo amser Elias. hwn hefyd y mae gweddill yn ol etholedigaeth gras, 6ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach#11:6 Ac os o weithredoedd, nid oes gras mwyach; os amgen, nid yw gweithred yn weithred mwyach, B; gad. א A C D F G Brnd.. 7Pa beth, ynte? Yr hyn y mae Israel yn ei daer‐geisio#11:7 Sef, cyfiawnder yn wyneb Duw. nis cafodd: eithr yr etholedigaeth#11:7 Etholedigaeth am etholedigion. a'i cafodd, a'r lleill a galedwyd, 8megys y mae yn ysgrifenedig,
Rhoddes Duw iddynt yspryd cysgadrwydd#11:8 Katanuxis [yma yn unig yn y T.N.]: (1) dwysbigiad, (2) gofid trwm, (3) sefyllfa o ddideimladrwydd, cysgadrwydd, musgrellni, a gynnyrchir gan winoedd, &c.; yma, difaterwch ynghylch pob peth ysprydol.;
Llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent, hyd y dydd hwn#11:8 Y mae y geiriau hyn yn gyfuniad o Es 29:10 a Deut 29:3..
9Ac y mae Dafydd yn dywedyd,
Bydded eu bwrdd hwy yn fagl#11:9 ‘Yr hyn a ddeil yn dyn,’ magl, rhwyd., ac yn rhwyd#11:9 Thera [yma yn unig yn y T.N.]: llyth., hela, ‘yr helfa yn yr hon y cänt eu dal.’ Rhai a'i cyfieithant ‘rhwyd,’ gan ddylyn Salm 35:8, lle y defnyddir thera yn y LXX am resheth, ‘rhwyd.’, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt;
10Tywyller eu llygaid fel na welont,
A chydgrymma eu cefn yn wastad#11:10 Salm 69:22, 23. Salm Fessianaidd, ac felly cyhoeddir y ddedfryd gan Grist..
Rhybudd i'r Cenhedloedd.
11Gan hynny meddaf, A dripiasant hwy fel y cwympent? Na atto Duw: eithr trwy eu syrthiad#11:11 Paraptôma, cwympiad ymaith, gwyriad, tramgwydd, syrthiad allan o'r ffordd, camwedd. Nid oedd yr holl genedl wedi syrthio. Yr oeddynt wedi myned allan o'r ffordd, ond heb fod wedi syrthio dros y clogwyn erchyll i golledigaeth. hwy ymaith, y mae yr iachawdwriaeth#11:11 Yr iachawdwriaeth, sef ‘yr hon oedd o'r Iuddewon.’ i'r Cenhedloedd er eu gwneyd yn eiddigus#11:11 ‘Er creu ynddynt ddymuniad angerddol i ad‐feddiannu bendithion y Cyfammod ochr yn ochr â'r Cenhedloedd crediniol.’, 12ac os yw eu syrthiad ymaith yn olud y byd, a'u syrthiad yn fyr#11:12 Hêttêma, lleihad, colled, syrthiad yn fyr, diffyg. yn olud y Cenhedloedd, pa faint mwy eu cyflawnder#11:12 Hynny yw, eu cyflawn‐rif, heb leihad trwy fethiant llaweroedd, ond un genedl mewn llawn ysprydol nerth yn cymmeryd ei lle yn Nheyrnas Crist.?
13Ond wrthych chwi y Cenhedloedd y dywedaf, Yn gymmaint a'm bod i gan hynny yn Apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau#11:13 Llyth., gogoneddu. fy ngweinidogaeth, 14os mewn un modd y gwnaf yn eiddigus fy nghnawd#11:14 Sef, ei gyd‐genedl. fy hun, ac achub rhai o honynt. 15Canys os yr ymwrthodiad#11:15 Apobolê: llyth., tafliad ymaith. â hwy yw cymmod y byd, beth fydd eu derbyniad ond bywyd#11:15 Nid yw y geiriau i'w cymmeryd yn llythyrennol, gan ddynodi yr Adgyfodiad, ond cyfeiriant at adfywiad mawr ysprydol a hyrwyddiant dihafal Teyrnas Dduw, — nid anfarwoldeb corph ond nefoldeb meddwl. o feirw? 16Ac os yw y blaenffrwyth#11:16 Abraham, ‘tâd y ffyddloniaid,’ ac eraill o'r Patriarchiaid. Gweler Num 15:19, 21; Lef 2:2, 3. yn sanctaidd, y mae y crynswth hefyd; ac os yw y gwreiddyn#11:16 Abraham, ‘tâd y ffyddloniaid,’ ac eraill o'r Patriarchiaid. Gweler Num 15:19, 21; Lef 2:2, 3. yn sanctaidd, y mae y canghennau hefyd. 17Ond os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi#11:17 Y Cristion Cenhedlig., yn olew‐wydden wyllt#11:17 Y mae y gyfattebiaeth yn groes i bob impio ymarferol. Impir y ganghen dda yn y boncyff diffrwyth, ond yma gosodir i mewn yr olew‐wydden wyllt. Y mae hyn yn gwneyd i ffwrdd a phob sail i ymffrostio., a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gyd‐gyfrannog o wreiddyn#11:17 Gwreiddyn brasder א B C Brnd. ond [Tr.]; gwreiddyn a brasder A. Gadewir allan gwreiddyn gan D F G. brasder yr olew‐wydden, 18nac ymffrostia yn erbyn y canghennau: ac os ymffrosti yn eu herbyn, nid tydi sydd yn cynnal y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi. 19Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn. 20Rhagorol#11:20 Kalôs. Da! Rhagorol! Gwir! Y mae yr ymresymiad mewn un ffordd yn wir, ond mewn ffordd arall yn hollol gamsyniol, ac ettyb yr Apostol gyda mesur o wawdiaith sanctaidd. Dyma resymeg y Pharisead Cenbedlig.! Trwy eu hannghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau wyt yn sefyll trwy dy ffydd! Na fydd uchel‐fryd, eithr ofna; 21canys os nid arbedodd Duw y canghennau naturiol, ni'th arbeda dithau chwaith. 22Gwel gan hynny garedigrwydd#11:22 Chrestotês, daioni, caredigrwydd, hynawsedd, tirionder. a llymder#11:22 Apotomia [yma yn unig yn y Beibl], o'r ferf a olyga torri i ffwrdd, toster, llymdra, llymdostedd. Duw: tuag at y rhai a gwympasant, llymder; tuag attat ti, caredigrwydd Duw#11:22 Duw. א A B C D., os arhosi yn ei garedigrwydd: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith.
23A hwythau hefyd, os nid arhosant mewn annghrediniaeth, a impir i mewn, canys Duw sydd alluog i'w himpio hwy i mewn drachefn. 24Canys os torrwyd di ymaith o'r olew‐wydden wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn olew‐wydden dda, pa faint mwy y bydd i'r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew‐wydden eu hun?
Yr Adferiad Mawr.
25Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch#11:25 Cuddiedig oddiwrth reswm, dadguddiedig gan Dduw, sef y Cenhedloedd yn gyffredinol yn dyfod i mewn i Deyrnas Dduw trwy bregethiad yr Efengyl. ‘Amseroedd y Cenhedloedd’ yw ymadrodd Crist (Luc 21:24). Gweler Mat 24:14; Marc 13:10. hwn, fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hunain: ddyfod caledwch o ran i Israel, hyd oni ddel cyflawnder#11:25 Naill ai (1) y genedl Israelaidd, neu (2) ‘Israel Duw,’ sef y wir Eglwys. Cyfeirir yn amlwg at y blaenaf, a golygir y bydd corph mawr y genedl yn ddychweledigion at Grist. y Cenhedloedd i mewn; 26ac felly holl Israel a achubir, fel y mae yn ysgrifenedig,
Daw allan o Sion y Gwaredydd#11:26 Hebraeg, Goel, Gwaredydd, dialydd (Goel haddam, ‘dialydd y gwaed’). Yma Crist fel y Messia (1 Thess 1:10).,
Ac a dry ymaith annuwioldebau o Jacob;
27A hwn yw y Cyfammod iddynt oddiwrthyf fi,
Pan gymmerwyf ymaith eu pechodau#11:27 Cyfunir amryw o ymadroddion. Gweler Es 59:20, 21; 27:9; Salm 14:7..
28O berthynas, yn wir, i'r efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond mewn perthynas â'r etholedigaeth, anwyliaid ydynt er mwyn y Tadau. 29Canys ni elwir yn ol#11:29 Llyth.: anedifarus. rad‐ddoniau a galwedigaeth Duw. 30Canys megys y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd‐dod y rhai hyn; 31felly hwythau hefyd yn awr a anufuddhasant, fel y caent hwythau yn awr drugaredd trwy y drugaredd a estynwyd i chwi; 32canys y mae Duw wedi cyd‐gau pawb i anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb.
Molawd yr Apostol.
33O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth#11:33 Doethineb a gwybodaeth. Defnyddir y ddau air gyda'u gilydd yma ac yn Col 2:3. Y mae holl‐wybodaeth yn gweithredu mewn cyfiawnder a chariad tragywyddol. Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau#11:33 Saif barnau am arfaeth neu fwriadau Duw, a'i ffyrdd am y modd y mae yn eu dwyn i ben. ef, a'i ffyrdd#11:33 Saif barnau am arfaeth neu fwriadau Duw, a'i ffyrdd am y modd y mae yn eu dwyn i ben., mor anolrheiniadwy ydynt! 34Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd#11:34 O Esaiah 40:13, hefyd yn 1 Cor 2:16.; neu pwy fu Gynghorwr iddo? 35Neu, pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn#11:35 O Job 41:11.? 36Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth#11:36 Duw yw ffynnonnell, gweithredydd, a gwrthrych pob peth oll.. Iddo ef y byddo y gogoniant yn oes oesoedd#11:36 Llyth., i'r oesoedd; trwy holl gyfnodau y dyfodol a dadblygiadau bodolaeth.. Amen.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 11: CTE
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.