Actau 24
24
Paul o flaen Ffelix: ei gyhuddo, 1–9.
1Ac ar ol pum#24:1 Sef ar ol ymadawiad Paul o Jerusalem. Gweler ad 2. Yn ol rhai, pum niwrnod ar ol iddo gyrhaedd Cesarea. niwrnod, yr Arch‐offeiriad Ananias#24:1 Bernir na fuasai yn gydweddol a safle yr Arch‐offeiriad gweithredol i adael Jerusalem a myned i waered i Cesarea, ac felly nad oedd Ananias ond un o'r prif offeiriaid ar y pryd hwn. Eto, yn ol tystiolaeth Josephus, cyfiawnhawyd ef gan y Llywodraeth Rufeinig, pan y cyhuddwyd ef, a dychwelodd o Rufain fel yr Arch‐offeiriad cydnabyddiedig. a ddaeth i waered, gyda rhai#24:1 rhai henuriaid א A B E Brnd.; yr henuriaid H L. henuriaid#24:1 Yr oedd dirprwyaeth o honynt. ac areithiwr#24:1 rhêtor, llyth: llefarwr, yn enwedig llefarwr yn y cynulleidfaoedd cyhoeddus; yna, dysgawdwr areithyddiaeth; hefyd, dadleuydd yn y llysoedd, bar‐gyfreithiwr [Lladin, causidicus]. Yr oedd llawer o'r cyfreithwyr neu ddadleuwyr hyn yn Rhufain a'r talaethau. Ymddangos yn y Fforum oedd eu huchelgais, ac yn fynych aent i'r talaethau, er mwyn cael ymarferiad ac enill profiad., rhyw Tertullus#24:1 Enw Lladin, bychanig o Tertius. Nid oedd yr Iuddewon yn gyfarwydd a Chyfraith Rhufain; ac er mwyn bod yn ‘ddyblyg sicr’ o gyrhaedd eu hamcan, ymddangosodd yn erbyn Paul prif gynrychiolydd Cyfraith yr Iuddewon, ynghyd a deonglydd galluog o Ddeddfau Rhufain., y rhai a achwynasant#24:1 Term cyfreithiol, (23:15; 25:2, 16), ymddangos yn erbyn; enwir y cwyn neu y cyhuddiad. wrth y Rhaglaw yn erbyn Paul. 2A phan alwyd ef, Tertullus a ddechreuodd ei gyhuddo, gan ddywedyd, 3Gan fod i ni lawer o heddwch#24:3 llyth: ‘gan fod yn dygwydd heddwch lawer.’ Yr oedd Ffelix wedi gosod i lawr finteioedd o yspeilwyr a gwrthryfelwyr. Dywed Josephus fod y nifer a groeshoeliodd o'r rhai hyn yn afrifed. Daliodd Eleazer, yr hwn a anrheithiodd y wlad am 20 mlynedd, a danfonodd ef yn garcharor i Rufain; gosododd i lawr y gwrthryfel a achoswyd gan dwyllwr Aiphtaidd, ac hefyd y terfysg rhwng trigolion Iuddewig a Chenedlig Cesarea (Hyn. xx 8, 5–7). Eto yr oedd yn llywodraethwr hollol ddiegwyddor. Cospodd yr yspeilwyr, a chymerodd yr yspail iddo ei hun. Cyflogodd lawer o'r Sicarii (‘brad‐lofruddion’) er dwyn ei amcanion echrydus i ben. Fel rhaglaw ac fel dyn yr oedd yn mhlith y gwaethaf. trwot ti, a bod gwelliantau#24:3 gwelliantau [diorthóma, cywiriad, gwelliant, diwygiad; llyth: gosod yn iawn] א A B E Brnd.; a chyflawniadau llwyddlanus [katorthóma, ‘gwneyd yn uniawn,’ yna, gweithred deilwng, mesur llwyddianus] H L. i'r genedl hon trwy dy rag‐ddarbodaeth#24:3 llyth: rhag‐welediad: gair a ddefnyddir yn fynych am y duwiau. Ceid Providentia Caesaris, ‘Rhag‐ddarbodaeth Cesar,’ yn fynych ar y bathion Rhufeinig. di yn mhob modd ac yn mhob man#24:3 Llawer a gysylltant y geiriau ‘yn mhob modd’ [‘gwedd’] ac ‘yn mhob man’ a'r geiriau dylynol, ‘Yn mhob modd ac yn mhob man yr ydym yn derbyn yr oll gyda diolchgarwch.’ Ond credwn fod yma gydnabyddiaeth o lywodraeth ddaionus Ffelix yn mhob cyfeiriad ac yn mhob lle., — yr ydym ni yn eu derbyn#24:3 Croesawu, cydnabod (2:41; 15:4; 18:27)., O Ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolchgarwch. 4Eithr, fel na rwystrwyf#24:4 llyth: tori i, yna, atal un ar ei ffordd (megys â ffos), gosod rhwystr ar y ffordd, cadw, peri i oedi. di yn mhellach, yr wyf yn deisyf arnat, o'th hynawsedd#24:4 Neu degwch, resymoldeb. Epieikeia, o eikos, rhesymol, ystyriol; yn wrthgyferbyniol i lymder a chaledrwydd; goddefgarwch, addfwynder (Phil 4:5)., ein gwrando ni ar fyr#24:4 llyth: tori yn fyr; tori i lawr; llefaru yn gryno. eiriau. 5Oblegyd ni a gawsom#24:5 Ar ol ymchwiliad a sylwadaeth fanol. Y mae y frawddeg yn anorphenol. y gwr hwn yn bla#24:5 Hefyd mewn awduron clasurol (Demosthenes, &c.). Yn y LXX., 1 Sam 25:25 (yn yr Hebraeg, ‘gwr Belial’)., ac yn codi#24:5 achosi, cychwyn, ‘rhoddi symudiad i.’ terfysgau#24:5 terfysgau א A B E Brnd.; terfysg H L. yn mhlith yr holl Iuddewon trwy y byd cyfaneddol#24:5 yr Amherodraeth Rufeinig., ac yn flaenor#24:5 prôtostatês, llyth: un yn sefyll yn y rheng flaenaf, yna, arweinydd, pen, blaenor. sect#24:5 hairesis, dewisiad, yna, glyniad wrth ddaliadau neillduol; yna plaid, sect. Defnyddir y gair am y Saduceaid (5:17), am y Phariseaid (15:5). Golyga hefyd ‘ymraniad’ (1 Cor 11:19; Gal 5:20). y Nazareaid#24:5 Ni ddefnyddir y gair am y Cristionogion ond yma yn y T.N. Yn yr oes ddylynol rhoddid ef i sect o Gristionogion Iuddewaidd yn Mhalestina.: 6-7yr hwn a geisiodd halogi#24:6–7 Bebêlôsai, o bêlos, trothwy; yna, myned dros y trothwy, i'r lle cysegredig, gan ategu yr anwiredd a ddywedwyd am Trophimus, 21:28. y Deml, yr hwn hefyd a ddaliasom#24:6–7 Nid yw yr adroddiad yma ond talfyriad o araeth Tertullus. Gweler y geiriau yn y Nodiadau Beirniadol. Ymddengys i ryw gopiwyr boreuol eu hychwanegu, gan fod yr adroddiad yn y gwreiddiol mor fyr, heb unrhyw gyfeiriad at weithred Lysias, a'i ddanfoniad o Paul at Ffelix. Pe buasent yn y gwreiddiol nis gallesid cyfrif am eu gadawiad allan. Darllenant yn naturiol a boddhaol; er hyny, ar dir beirniadaeth deg, dylid eu gadael allan.#24:6 ac a fynasem ei farnu yn ol ein cyfraith ni. 7 Eithr Lysias y Milwriad a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a'i dyg allan o'n dwylaw ni, 8 gan orchymyn i'w gyhuddwyr ddyfod atat ti. E; gad. א A B C H L Brnd.; 8gan yr hwn y byddi alluog, a thydi yn ei holi, i wybod am yr holl bethau hyn, o'r rhai yr ydym ni yn ei gyhuddo ef. 9A'r Iuddewon hefyd a gyd‐ymosodasant#24:9 gyd‐ymosodasant [sunepepethento] א A B E Brnd.; gyd‐syniasant [sunethento] Test. Derb., gan daeru fod y pethau hyn felly.
Ymddiffyniad Paul.
10A Phaul a atebodd, wedi i'r Rhaglaw amneidio arno i lefaru#24:10 Dygodd Tertullus ddau gyhuddiad newydd yn erbyn Paul, sef (1) ei fod yn derfysgwr, ac (2) yn arweinydd plaid newydd a gwrthwynebus i genedl yr Iuddewon. Y cyhuddiad gwreiddiol oedd ei fod wedi halogi y Deml. Atebir (1) yn ad 11–13; (2) yn 14–16; (3) 18., Gan i mi wybod dy fod yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd#24:10 am o leiaf chwe' mlynedd. Ymddengys hefyd ei fod wedi cynorthwyo Cumanus, y rhaglaw blaenorol; neu, yn ol eraill, ei fod yn llywodraethwr Samaria pan yr oedd Cumanus yn raglaw Judea. Os felly, daeth i'r wlad ddeg mlynedd cyn hyn (B.H. 48). Fel rheol, dwy neu dair blynedd oedd oes swyddogol y Llywodraethwyr Rhufeinig., yr wyf yn#24:10 yn siriol [yn galonog] א A B E Brnd.; yn fwy siriol H L. siriol yn gwneyd fy ymddiffyniad, 11a thi yn gallu gwybod nad oes mwy na deuddeg#24:11 Gwnawd y deuddeg i fyny, debygid, fel y canlynol: (1) cyrhaedd Jerusalem, (2) ymweled ag Iago, (3–7) cyflawnu ei adduned yn y Deml, (8) o flaen y Sanhedrin, (9) cynllwyn yn ei erbyn, (10–12) cyrhaedd Cesarea, (13) ymddangos o flaen Ffelix. niwrnod er pan aethum i fyny i addoli#24:11 Nid i halogi ond i addoli. Yr oedd Paul wedi myned trwy Cesarea ar ei ffordd i Jerusalem. yn Jerusalem: 12ac ni chawsant fi yn y Deml yn ymddadleu a neb, neu yn gwneyd terfysg mewn#24:12 llyth: o dyrfa. tyrfa, nac yn y Synagogau, nac yn#24:12 Neu, ar hyd. y Ddinas. 13Ac ni allant ychwaith brofi#24:13 cyflwyno, dangos, profi, gosod allan res o brofion. i#24:13 i ti א A B E Brnd.; gad. H L. ti y pethau y maent yn awr yn fy nghyhuddo o honynt. 14Ond hyn yr wyf yn ei addef i ti, mai yn ol y Ffordd#24:14 gweler 9:2. a alwant hwy yn Sect#24:14 hairésis, (yr un gair ag yn 5). Ni ddefnyddir y gair yn yr ystyr ddiweddaraf o hono, heresi, cyfeiliornad mewn barn neu ddaliadau. Defnyddir ef am y pleidiau Iuddewig, am yr ysgolion athronyddol Groegaidd, am yr ysgolion meddygol, (gan Galen)., felly yr wyf fi yn gwasanaethu Duw ein Tadau#24:14 ‘Duw perthynol i'n hynafiaid, i'n tadau,’ brawddeg ddealledig i Ffelix. Felly y geilw Demosthenes y duw Apollo, yn ‘dduw hynafiaid Athen.’, gan gredu yr holl bethau sydd yn ol y Ddeddf a'r pethau sydd yn ysgrifenedig yn y Prophwydi#24:14 Awgryma Paul mai efe oedd y gwir Iuddew, nad oedd Cristionogaeth yn newydd‐beth chwyldroadol, ond yn grefydd a'i gwreiddiau yn cyrhaedd yn mhell yn ol. Ni pherthynai Paul i sism neu sect. Rhodiai yn y ‘Ffordd,’ yr hen ffordd o ddewisiad Duw, ac nid yn ol ei ‘ddewisiad’ [hairesis] ei hun. Rhydd yma ei Gyffes Ffydd.: 15a chenyf obaith tu ag at Dduw, yr hwn obaith y mae y rhai hyn eu hunain#24:15 sef plaid y Phariseaid. yn ei ddisgwyl#24:15 Neu, ‘edrych allan am.’ Disgwylir am obaith pan y disgwylir am gyflawniad o hono., fod Adgyfodiad i fod#24:15 o feirw EHL; gad. א A B C Brnd. o'r cyfiawnion a'r anghyfiawnion#24:15 Ymadrodd cymhwys mewn llys cyfiawnder. Y mae y pregethwr yn condemnio'r barnwr.. 16Ac yn hyn#24:16 yn y gobaith. hefyd yr wyf fy hun yn gwneyd ymdrech#24:16 askô, ymarfer, llafurio, dysgyblu; golyga yn wreiddiol gweithio defnydd cri [raw material], yna, ffurfio, addurno. i gael cydwybod ddidramgwydd#24:16 aproskopos, llyth: heb dramgwyddo, heb dripio, heb lithro. Defnyddir y gair yn y goddefol (yma ac yn Phil 1:10), ac yn y gweithredol (1 Cor 10:32). Yn y blaenaf golyga, difai, clir, cydwybod heb ei blino gan yr ymwybodolrwydd o euogrwydd; yn yr ail, peidio arwain eraill i bechod trwy ein bywyd annheilwng. tu ag at Dduw a dynion yn wastadol#24:16 Y mae llys cydwybod yn eistedd yn barhaus.. 17Ac ar ol amryw#24:17 llyth: blynyddoedd fwy: nid y 22 mlynedd ar ol ei droedigaeth, ond y 4 blynedd er pan yr ymwelodd a Jerusalem ddiweddaf (18:22) ar ddiwedd ei ail daith genadol. o flynyddoedd mi a gyrhaeddais i gyfranu#24:17 llyth: gan wneyd. elusenau#24:17 Y casgliadau oddiwrth eglwysi Macedonia ac Achaia ar gyfer y saint tlodion yn Judea (Rhuf 15:26; 1 Cor 16:1; 2 Cor 8:4). i'm cenedl#24:17 gan ddangos ei serch a'i hoffder at, a'r dyddordeb diflino a deimlai yn nedwyddwch a ffyniant ei frodyr. Yr oedd diluw erledigaeth yn analluog i ddiffodd tân ei gariad tu ag atynt. ac offrymau#24:17 at wasanaeth y Deml. Gweler 21:26, ynghylch aberthau y pedwar Nazaread. Nid oedd un fu yn absenol cyhyd, ac a ddaeth i Jerusalem yn y diwedd er addoli, yn debyg i greu cynhwrf a gwrthryfel. Dylasai un oedd a'i galon yn llawn o gariad, a'i law yn llawn elusen, gael derbyniad gwell.: 18ac yn nghanol y gorchwylion hyn#24:18 llyth: yn y rhai, ‘pan yn ymwneyd a'r pethau hyn,’ ‘pan yn cyflwyno yr offrymau ac yn cyflawnu fy adduned.’ hwy a'm cawsant i, wedi fy nghlanhâu#24:18 gan ymgadw oddiwrth y pethau a waherddid, a chyflawnu yr hyn a orchymynid yn y Gyfraith dan y cyfryw amgylchiadau (Num 6:3–8)., yn y Deml, nid gyda thwrf nac ychwaith gyda therfysg: 19ond rhai Iuddewon o Asia#24:19 Awgrymwyd gan Tertullus mai preswylwyr Jerusalem a'i cawsant (ad 5). Yr Iuddewon o Asia oedd wedi achosi terfysg, ac felly nid gwiw iddynt hwy ymddangos o flaen Ffelix. a'm cawsant#24:19 Y mae y frawddeg yn anorphenedig, er fod y synwyr yn eglur. ‘Yr Iuddewon o Asia a achosasant derfysg,’ neu fel yn y testyn., y rhai a ddylasent fod yn bresenol ger dy fron a gwneyd cyhuddiad, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn. 20Neu bydded i'r rhai hyn ei hunain ddywedyd pa#24:20 os [cawsant gamwedd] gad. א A B C E Brnd. gamwedd a gawsant#24:20 ynof C E H L [Tr.] [Al.]; gad. א A B Brnd. eraill. tra y sefais o flaen y Sanhedrin, 21oddieithr yr un llef#24:21 Cododd Paul ei lais pan y dywedodd y geiriau (23:6). Ceir yma yr un frawddeg ag yno, gyda'r eithriad fod y gair ‘gobaith’ yn cael ei adael allan yma, a'r geiriau ‘ger eich bron’ yn cael eu hychwanegu. hon, yr hon a waeddais pan yn sefyll yn eu plith, Am Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i heddyw ger#24:21 ger eich bron [epi] A B C Brnd.; genych [hupo] א E H L. eich bron.
Ffelix yn gohirio cyfiawnder i Paul a diwygiad iddo ei hun.
22Eithr Ffelix a#24:22 pan glywodd y pethau hyn H L; gad. א A B Brnd. ohiriodd eu hachos,#24:22 llyth: a'u hoedodd hwy, a ohiriodd gyhoeddi ei ddedfryd yn eu hachos. Term cyfreithiol. gan wybod yn gywirach y pethau ynghylch y Ffordd#24:22 Dadganiad o ffaith ac nid rhan o eiriau Ffelix yw y frawddeg; felly ni olyga ‘Pan y deuaf i wybod mwy am y sect hon.’ Yr oedd efe wedi byw yn y wlad am chwe' mlynedd. Yr oedd wedi treulio llawer o'i amser yn Cesarea, cartrefle Philip yr Efengylydd a Chornelius y Canwriad. Ei wraig oedd Drusilla, Iuddewes, yr hon yn ddiamheu a deimlai ddyddordeb yn y ‘mudiad newydd.’ Chwenychai Ffelix i arbed Paul ac hefyd i arbed ei hun. Felly, er atal yr Iuddewon rhag achwyn arno wrth yr Amherawdwr ar ddiwedd ei dymhor swyddogol, efe, er eu boddloni, a gadwodd Paul yn rhwym., gan ddywedyd, Pan ddel Lysias y Milwriad i waered, mi a benderfynaf#24:22 gweler ar y gair yma, 23:15. eich materion. 23Ac wedi gorchymyn i'r Canwriad ar#24:23 i Paul H L; iddo א A B C E Brnd. iddo gael ei gadw#24:23 ei warchod, ei wylied. yn rhwym, a chael esmwythyd#24:23 anesis, llaesiad, ysgafnhâd, esmwythdra, goddefiad, fel na fyddai y caethiwed mor llym a phoenus. Defnyddir y gair yn 2 Cor 2:13; 7:5; 8:13; 2 Thess 1:7.; ac na waharddai i neb o'i gyfeillion#24:23 llyth: eiddo. i weini arno#24:23 nac i ddyfod ato H L; gad. א A B C E Brnd..
24Ac ar ol rhai dyddiau, daeth Ffelix, gyda'i wraig Drusilla#24:24 Dywed Suetonius fod Ffelix yn wr ‘tair brenhines.’ Dywed Tacitus fod un Drusilla, ei wraig, yn ferch i Juba, brenhin Numidia, ac wyres i Antoni a Cleopatra. Os felly, yr oedd ganddo ddwy wraig o'r un enw. Yr oedd Drusilla y testyn yn ferch i Herod Agrippa (12.) Pan yn ieuanc iawn cafodd ei dyweddio i Antiochus Epiphanes, tywysog Commagene; ond gan iddo wrthod dyfod yn Iuddew, hi a briododd Azizus, brenhin Emesa. Yn fuan ar ol hyn, daeth i gyfarfyddiad a Ffelix, yr hwn a gafodd ei swyno gan ei phrydferthwch, a gwnaeth ddefnydd o Swynwr o Cyprus i'w denu i ymadael â'i gwr er cydfyw ag ef. Tebygol mai ar gymhelliad Drusilla y danfonodd Ffelix am Paul., yr hon oedd Iuddewes, ac a ddanfonodd am Paul, a gwrandawodd arno ynghylch y ffydd sydd yn#24:24 llyth: tu ag at. Nghrist Iesu#24:24 Iesu א B E La. Ti. WH. Diw. gad. A C Tr. Al.. 25Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, diweirdeb#24:25 egkrateia, hunan‐lywodraeth, yn enwedig ar y nwydau a'r chwantau cnawdol; felly, ymatal, ymgadw, diweirdeb., a'r Farn ddyfodol#24:25 Gwelwn onestrwydd a gwroldeb Paul. Yr oedd yn ngwir olyniaeth y Bedyddiwr, yr hwn a geryddodd frenhin godinebus i'w wyneb. Dywed Tacitus am Ffelix ei fod yn llawn creulondeb ac anlladrwydd. Y mae ei ymddygiad at Paul yn dangos ei fod yn ‘farnwr anghyfiawn.’ Cyflogodd frad-lofruddion i ladd Jonathan yr Arch‐offeiriad, ac yr oedd ei weithred mewn cysylltiad a darbwyllo Drusilla i ymadael â'i gwr yn dangos yn eglur yr hyn oedd ei fywyd personol ei hun., Ffelix, wedi myned yn ddychrynedig, a atebodd, Am y presenol, dos ymaith; a phan y caffwyf amser cyfaddas#24:25 Neu, gyfleustra. Yr oedd ei gydwybod wedi ei deffroi ac aeth yn ddychrynedig. Dywed y prif‐fardd Saesneg, ‘Conscience doth make cowards of us all.’ Ond nid yw ofn gwasaidd yn arwain i edifeirwch a diwygiad. Gyda golwg ar grefydd, nid oes amser cyfaddas ond y presenol. Ni fydd amser cyfaddas, os na fydd dyn cyfaddas. mi a'th alwaf di ataf: 26ar yr un pryd yr oedd yn gobeithio y rhoddid arian#24:26 Gwyddai fod y saint wedi rhoddi arian i Paul ar gyfer cynorthwy y tlodion yn yr eglwysi (24:17). Dengys y frawddeg hon y gwaelder penaf yn nghanol rhwysg, a'r yspryd mwyaf dirmygedig yn perthyn i swyddog uchel. Yr oedd llwgr‐wobrwyaeth yn gyffredin yr adeg hon. Gwnaeth Albinus, canlynydd Ffestus, gario yr arferiad mor bell, fel y gwaghawyd y carcharau, a llanwyd y wlad ag yspeilwyr. iddo gan Paul#24:26 fel y gollyngai ef yn rhydd HL; gad. א A B C E Brnd.; o herwydd paham hefyd efe a anfonodd am dano yn fynychach, ac a ymddyddanodd#24:26 homileô (gweler 20:2), ymddyddan yn gyfeillgar, siarad yn gyfrinachol, chwedleua. ag ef. 27Ond wedi cyflawnu yspaid o ddwy flynedd#24:27 O ddechreuad carchariad Paul yn Cesarea., Ffelix a gafodd#24:27 llyth: a dderbyniodd olynydd, yn y flwyddyn 60, deg mlynedd cyn Dinystr Jerusalem. Ffestus oedd 12fed rhaglaw Judea. Bu farw ddwy flynedd ar ol hyn. olynydd, Porcius Ffestus, ac yn ewyllysio enill#24:27 llyth: rhoddi i gadw, trysori, h.y. gwneyd ffafr neu gymwynas er mwyn cael ad‐daliad mewn rhyw ffordd neu gilydd. Yr oedd Ffelix yn ofni y gwnelai yr Iuddewon ei gyhuddo. Yr oedd yn ymwybodol o'r anghyfiawnder yr oedd wedi gyflawnu. Dygodd Iuddewon Cesarea achwyniad yn ei erbyn pan y cafodd ei ddiswyddo, a dylanwad ei frawd Pallas yn unig a'i harbedodd rhag cael ei gospi. ffafr gyda'r Iuddewon, Ffelix a adawodd Paul yn rhwym.
Dewis Presennol:
Actau 24: CTE
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.