Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 25

25
Paul o flaen Ffestus: Ei apêl at Cesar, 1–12.
1Ffestus#25:1 Gwnaeth Nero Ffestus yn Rhaglaw yn y flwyddyn 60, a bu farw yn mhen tua dwy flynedd. Efe, efallai, oedd y goreu o'r Rhaglawiaid Rhufeinig a fu yn Mhalestina. Llefara Josephus yn uchel am dano. Yr oedd ei gymeriad yn fwy pur, a'i lywodraeth yn fwy uniawn na neb o'i ragflaenwyr. Bu yn ymdrechol i osod i lawr finteioedd y Sicarii (Llofruddwyr) drwy y wlad. Bu anghydweliad rhyngddo a'r Iuddewon ynghylch y mur a adeiladasant, yr hwn a guddiai y Deml o olwg y gwarchodlu yn Nhwr Antonia. Efe oedd yr unig un o'r Rhaglawiaid y mae genym hanes am dano a fu farw tra yn ei swydd. Dylynwyd ef gan Albinus, un o'r gwaelaf o honynt. gan hyny, wedi dyfod#25:1 llyth: wedi myned i fyny, h.y. wedi cyrhaedd y wlad, neu, wedi argymeryd â'i swydd, wedi dyfod yn gyhoeddus fel Rhaglaw, wedi cymeryd gofal y Dalaeth. i'r Dalaeth#25:1 Eparchia, ‘Talaeth.’ Gweler 23:34. Nid oedd Judea yn Dalaeth, ond yn rhan o Dalaeth Syria; yn arferol gelwid hi yn epitropé a'i llywodraethwr yn epitropos, yr hwn oedd yn gynrychiolydd Rhaglaw y Dalaeth., ar ol tri#25:1 gan ddangos ei yni a'i awydd i gyflawnu ei waith yn effeithiol ac yn ddiymaros. Yr oedd am weled y Brif‐ddinas ac ymgydnabyddu a'i thrigolion. diwrnod a aeth i fyny i Jerusalem o Cesarea. 2A'r Arch‐offeiriaid#25:2 Ismael, mab Phabi, oedd yr Arch‐offeiriad. Penodwyd ef gan Agrippa yr Ail.#25:2 Arch‐offeiriaid א A B C E Brnd.; Arch‐offeiriad H. a gwyr blaenaf#25:2 Efallai, gynrychiolwyr y Sanhedrin, er fod y Vulgate yn darllen ‘gwyr blaenaf yr offeiriaid.’ yr Iuddewon a achwynasant#25:2 Term cyfreithiol, ‘ymddangos yn erbyn,’ ‘dwyn achwyniad neu gyhuddiad,’ ‘hyspysasant.’ wrtho yn erbyn Paul; 3ac a ymbiliasant ag ef, gan geisio#25:3 yn y llais canolog, ‘gan geisio iddynt eu hunain.’ ffafr yn ei erbyn, fel y danfonai efe am dano ef i Jerusalem, gan wneuthur cynllwyn#25:3 gweler 23:21. Y mae yn ymddangos eu bod wedi gwneuthur parotoad i wylio ei ddyfodiad a'i ladd cyn y cyrhaeddai Jerusalem. i'w ladd ef ar y ffordd. 4Gan hyny yn wir Ffestus a atebodd fod Paul dan warchodaeth#25:4 téreisthai, yn cael ei wylio, ei gadw, yn ol trefniad Ffelix. yn#25:4 llyth: i Cesarea; yr oedd Paul i gael ei gadw yn ac i Cesarea, fel sedd y Llywodraeth Rufeinig. Cesarea, a'i fod ef ei hun ar fedr myned ymaith#25:4 llyth: allan [o Jerusalem]. yno ar fyrder#25:4 Y mae Duw yn goruwch‐lywodraethu yn nghynghorau llywodraethwyr y byd. Yr oedd Paul eisoes yn ddyn marw yn nghynllwyn yr Iuddewon, ond nid yw ei awr ef eto wedi dyfod. Eglwys ddirywiedig yw offeryn creulonaf y Diafol.. 5Gan hyny, eb efe, eled y rhai galluog#25:5 Dyma ystyr cyffredin y gair yn y T.N. Deongliadau ereill: (1) eled y rhai sydd yn alluog i fyned, neu i'r rhai y bydd yn gyfleus; (2) ‘y rhai fyddant yn alluog i brofi eu hachwyniad’; (3) y rhai sydd wedi eu hawdurdodi i ymddangos yn ei erbyn, &c. Y meddwl yw, bydded i ddynion o ddylanwad a gallu yn y genedl ymddangos yn ei erbyn, ac yna, os bydd sail i'r cyhuddiadau, ca y carcharor ei gospi. yn eich mysg i waered gyda mi, ac od oes dim yn y gwr allan#25:5 atopos [allan o le, anaddas, drwg] א A B C E Brnd. hwn H L. o le, bydded iddynt ei gyhuddo ef. 6Ac wedi treulio yn eu plith rai dyddiau, nid mwy nag wyth neu ddeg#25:6 nid mwy nag wyth neu ddeg א A B C Brnd.; mwy na deg diwrnod H L; wyth neu ddeg, rhai Cyfieithiadau [Syr. Pesh., &c.], efe a aeth i waered i Cesarea, a thranoeth wedi eistedd ar y faingc, efe a orchymynodd ar i Paul gael ei ddwyn gerbron#25:6 Arddangosir Ffelix fel barnwr diwyd, gofalus, a threfnus, yr hwn, yn ol y darlleniad goreu, ni arosodd yn hir yn Jerusalem, gan fod galw am ei bresenoldeb yn Cesarea.; 7ac wedi ei ddyfod, yr Iuddewon a ddaethent i waered o Jerusalem a safasant o'i amgylch#25:7 sef, o amgylch Paul, gan ddangos eu hymgais diflino, a'u casineb cynyddol. Nid oedd dwy flynedd wedi lleihau dim ar eu gelyniaeth., gan ddwyn cyhuddiadau, llawer a thrymion#25:7 Neu, ‘llawer o achwyniadau trymion’ [neu pwysig], o'r un cymeriad a'r rhai a enwyd gan Tertullus, megys, teyrn‐fradwriaeth, heresi, cysegr-halogiad., yn ei erbyn#25:7 yn erbyn Paul H., y rhai ni allent eu profi#25:7 llyth: eu dangos allan (1 Cor 4:9; 2 Thess 2:4).; 8a Phaul#25:8 Paul א A B C Brnd.: yntau H. yn ymddiffyn ei hun#25:8 Efallai o dro i dro fel yr oedd y cwynion yn cael eu henwi.: Ni phechais i ddim, eb efe, nac yn erbyn Cyfraith yr Iuddewon, nac yn erbyn y Deml, nac yn erbyn Cesar#25:8 Barna rhai fod yr Iuddewon wedi dwyn achwyniad ychwanegol yn erbyn Paul, sef bradwriaeth yn erbyn Cesar, ond y mae hwn yn gynwysedig yn yr hwn a enwyd yn Thessalonica, fod Paul yn dywedyd fod ‘brenhin arall, Iesu’ (17:7). Gweler hefyd gyhuddiad Tertullus, 24:5. Nero oedd y Cesar ar y pryd hwn. Y mae yr enw yn derm teyrn‐linol, fel Pharaoh. Nero oedd yr olaf yn llinach Julius Cesar. Y mae yr enw eto yn fyw yn Kaiser yr Almaen, Czar Rwssia, &c.. 9A Ffestus yn ewyllysio enill#25:9 Yr un frawddeg ag yn 24:27, ‘rhoddi i gadw,’ ‘trysori’; gwneyd cymwynas er cael ad‐daliad. Gwelir yma wendid yn Ffestus yn ogystal ag yn Ffelix. Cristionogaeth yn unig a gynorthwya dyn i ysgwyd ‘gwialen uniondeb.’ Gwnaeth Ffestus ar ddechreu ei weinyddiaeth yr hyn a wnaeth Ffelix ar derfyniad ei eiddo ef. ffafr gyda'r Iuddewon, gan ateb i Paul a ddywedodd, A ewyllysi di fyned i fyny i Jerusalem, i'th farnu yno ynghylch y pethau hyn ger fy mron#25:9 Tybiai Ffestus mai y Gyfraith Iuddewig oedd Paul wedi droseddu, ac felly, er y byddai efe ei hun yn bresenol, y cawsai ei farnu yn benaf gan y Sanhedrin.? 10Eithr Paul a ddywedodd, Ger bron brawd‐faingc Cesar yr wyf fi yn sefyll#25:10 Yr oedd wedi bod mewn dalfa am ddwy flynedd. Yr oedd eisoes wedi ymddangos o flaen y llys Rhufeinig. Yr oedd cyhuddiadau yr Iuddewon wedi tori i lawr yn hollol. Yr oedd yn hawlio ei ragorfraint fel dinesydd Rhufeinig. Yr oedd yn disgwyl mwy o gyfiawnder oddiwrth y Cenedl‐ddyn paganaidd na'r Iuddew ffug‐grefyddol rhagfarnllyd. Yr oedd Ffestus yn gynrychiolydd yr Amherawdwr, ac felly brawd‐faingc Cesar oedd yr hon yr ydoedd ger ei bron. Rhai a farnant fod Paul yn gweled ei hun eisoes yn Rhufain yn llys Cesar. Yr oedd y weledigaeth a gafodd wedi ei sicrhau y byddai iddo ‘dystiolaethu yn Rhufain hefyd.’, lle y mae yn rhaid i mi gael fy marnu; ni wnaethum i un cam#25:10 Neu, anghyfiawnder. ag Iuddewon#25:10 Nid yn unig nid oedd wedi gwneyd cam a'r genedl, ond nid oedd wedi niweidio unrhyw Iuddew unigol, ac felly gadewir allan y fannod., fel yr wyt ti yn dyfod i wybod yn well#25:10 epigignoskô, dyfod i wybod, dyfod i wybod yn raddol. Y mae yr Apostol, fel arfer, yn llawn moesgarwch.. 11Am#25:11 Am hyny א A B C E Brnd.; canys, H L. hyny os wyf yn gwneuthur cam, ac wedi gweithredu dim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod#25:11 paraiteomai, gofyn yn daer, deisyfu, troi heibio trwy ymbiliad; yna, gwrthod. marw: eithr os nad oes dim#25:11 Neu, ‘dim yn y pethau o'r rhai,’ &c., hyny yw, nad oes gwirionedd yn y pethau o'r rhai y'm cyhuddant. o'r pethau o'r rhai y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni all neb#25:11 Ymadrodd moesgar, ‘nis gelli di na neb arall.’ Y mae y barnwr yn cael ei farnu wrth ei Gyfraith ei hun. fy rhoddi#25:11 rhoddi fel ffafr, ac nid yn ol Deddf Rhufain. Buasai y ‘rhoddi i fyny’ hyn yn gyfystyr a ‘bradychu,’ a'r canlyniad yn farwolaeth sicr; ‘gwneyd anrheg o honof iddynt.’ i fyny iddynt. At Cesar yr wyf yn apelio#25:11 Yr oedd hawl gan ddinasyddion Rhufeinig i apelio at y llys uwchaf, sef yr Amherawdwr ei hun, yn achosion bywyd ac angau. Sefydlwyd hyn gan y Lex Valeria, ac yr oedd y Lex Julia wedi parotoi yn erbyn gohiriad afresymol i wrandaw yr apêl. Gallai unrhyw ddinesydd apelio oddiwrth ddedfryd yr ynadon at dribuniaid y bobl. Ar ol hyn, trosglwyddwyd y gallu hwn i'r Amherawdwr. Danfonodd Pliny y Cristionogion o Bithynia, y rhai oeddent ddinasyddion Rhufeinig, i sefyll eu prawf yn Rhufain.. 12Yna Ffestus, wedi cyd‐ymddyddan a'r Cynghor#25:12 Nid y Cynghor Iuddewig, ond ei Gynghor ei hun. Yr oedd yn gynwysedig o'r prif drigolion Rhufeinig yn y Dalaeth; gelwid hwy consiliarii neu assessores, ‘cynorthwywyr.’, a atebodd, At Cesar yr wyt wedi apelio, at Cesar yr ei.
Ymgom Ffestus ac Agrippa: Ymddiffyniad Paul o'u blaen, 13–27.
13A rhai dyddiau wedi myned heibio, Agrippa#25:13 Herod Agrippa yr Ail, mab Agrippa yr Hynaf, a gorwyr Herod Fawr. Bu farw ei dad pan yr oedd yn 17 oed, a barnodd Claudius ei fod yn rhy ieuangc i'w ddylyn yn y llywodraeth. Chwe' mlynedd ar ol hyn cafodd Dywysogaeth Chalcis, ac yn B.H. 52, ychwanegwyd iddo Detrarchiaethau Philip a Lausanias (Luc 3:1), gyda'r teitl o frenhin. Gosodwyd hefyd y Deml a'i thrysor dan ei ofal, a rhoddwyd iddo yr hawl o ddewis yr Arch‐offeiriad. Efe oedd y diweddaf o'r Herodiaid. Cefnodd ar yr Iuddewon yn eu hymdrech olaf. Gwelodd Ddinystr Jerusalem, ac ar ol teyrnasu am 51 o flynyddau bu farw yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad yr Amherawdwr Trajan, B.H. 100. y brenhin a Bernice#25:13 Chwaer Agrippa a Drusilla (24:24). Priododd ei hewythr Herod, brenhin Chalcis. Ar ei ol ef priododd Polemon, brenhin Cilicia, ond ymadawodd ag ef yn fuan. Drwgdybiwyd hi o fyw mewn godineb a'i brawd hwn. Wedi iddynt fyned i Rufain, dywed Tacitus fod cysylltiadau anfoesol rhyngddi hi a Vespasian, a bu ar ol hyn yn ordderch‐wraig i'w fab Titus. Buasai yr olaf wedi ei phriodi a'i gwneyd yn Amherodres onibai gwrthwynebiad cryf y Rhufeiniaid. a ddaethant i Cesarea, gan gyfarch Ffestus#25:13 fel cynrychiolydd yr Amherawdwr.. 14Ac fel y treulient yno lawer o ddyddiau, Ffestus a osododd#25:14 mynegu, adrodd, cyfleu, gyda'r bwriad o ofyn cyfarwyddyd, &c. (Gweler Gal 2:2). o flaen y brenhin achos#25:14 llyth: y pethau ynghylch, yna, materion, achos. Paul, gan ddywedyd, Y mae rhyw wr wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor#25:14 Hoff ddesgrifiad Paul o hono ei hun yn ei Epistolau (Eph 3:1; 4:1; 2 Tim 1:8; Philem ad. 9)., 15ynghylch yr hwn, pan yr oeddwn yn Jerusalem, yr achwynodd#25:15 Neu, hyspysodd, ymddangosodd, fel yn 24:1 a 25:2. yr Arch‐offeiriaid a Henuriaid yr Iuddewon, gan ofyn cael dedfryd yn ei erbyn. 16I'r rhai yr atebais nad yw arfer#25:16 gan gyfleu y syniad o ddeddf sefydledig ac arferiad crefyddol. i Rufeinwyr i roddi i fyny#25:16 yr un ferf ag yn adnod 2. un dyn#25:16 i golledigaeth HL; gad. א A B C E Brnd., nes i'r cyhuddedig gael y cyhuddwyr wyneb yn wyneb, a chael cyfle#25:16 llyth: lle, yna, cyfleustra. Ni ddefnyddir y gair yn yr ystyr olaf yn yr awduron clasurol. Cymharer Heb 12:17, ‘lle i edifarhau.’ i wneyd ymddiffyniad ynghylch y cyhuddiad. 17Gan hyny, wedi dyfod o honynt ynghyd yma, heb wneyd unrhyw oediad#25:17 Ymddygiad mwy canmoladwy nag eiddo Ffelix, ‘amser cyfaddas’ yr hwn ni ddaeth byth oddiamgylch., tranoeth mi a eisteddais ar y faingc, ac a orchymynais ddwyn y gwr#25:17 Y mae holl ymadroddion Ffestus yn sawru o'r ‘Llywodraethwr newydd.’ Mawrha ei swydd fel Rhufeiniwr balch a hunan‐ymfoddlongar. gerbron: am yr hwn, 18pan y safodd#25:18 Neu, ‘gan sefyll o amgylch yr hwn, ni ddygasant,’ &c. y cyhuddwyr i fyny, ni ddygasant ddim achwyn#25:18 llyth: achos, yna, achwyniad, cyhuddiad. Yr oeddent wedi cyhuddo Paul o deyrn‐fradwriaeth, o gynhyrfu y bobl i wrthryfel, &c.; ond pan yr ymchwiliodd Ffestus i'r peth ni chafodd ddim ond rhyw ddadleuon ynghylch materion crefyddol, y rhai nid ydoedd yn eu deall nac yn gofalu am danynt. Yr oedd bron o'r un yspryd a Gallio (18:14), heb fod mor deg a chyfiawn ag ef. Gallasai Ffestus feddwl fod Paul yn arweinydd y Sicarii gwaedlyd neu fintai reibus gyffelyb. o'r pethau drwg#25:18 drwg B E (א A C); gad. HL. yr oeddwn i yn tybied. 19Ond rhyw gwestiynau ynghylch eu Crefydd#25:19 Neu Gredo Crefyddol. Defnyddia Josephus y gair yn fynych yn yr ystyr hwn. Hwn yw y gair a ddefnyddiodd Paul pan yn pregethu i'r Atheniaid; gwelai eu bod yn ‘dra chrefyddol’; ac felly, yn ei farn, yn ‘goel‐grefyddol.’ Yr oedd yn air y gallesid ei ddefnyddio heb roddi tramgwydd; canys yr oedd Agrippa wedi mabwysiadu y grefydd Iuddewig. eu hunain oedd ganddynt yn ei erbyn, ac ynghylch rhyw Iesu oedd wedi marw, yr hwn a daerai#25:19 gan gyfleu nad oedd Ffestus yn ei gredu. Paul ei fod yn fyw#25:19 Nid oedd y ‘cwestiynau’ yn ngolwg Ffestus o bwys yn y byd, er eu bod mewn gwirionedd yn dragywyddol bwysig. ‘Rhyw Iesu’ y galwai efe Fab Duw a Phrynwr byd. Nid oedd iddo ef ond un o lawer, a hwy, yn debygol, yn dwyllwyr; ond ‘Iesu yn unig’ yw arwyddair y Credadyn, a phawb eraill yn gelwyddog. Ni ddywed Luc air am yr Iesu yn hanes Paul o flaen Ffelix a Ffestus, ond y mae yn amlwg fod Paul wedi pregethu nid yn unig yr Adgyfodiad, ond Adgyfodiad Crist.. 20A myfi mewn dyryswch ynghylch gwneyd ymchwiliad i'r pethau hyn#25:20 llyth: ‘A myfi wedi fy nyrysu ynghylch ymchwiliad [neu, arholiad] o'r pethau hyn.’, a ddywedais, A fynai efe fyned i Jerusalem a'i farnu yno am y pethau hyn. 21Ond Paul wedi apelio i gael ei gadw i ddyfarniad#25:21 diagnosis, ‘gwybodaeth drwyadl,’ yna, arholiad, barn, dedfryd. Y mae hefyd yn derm meddygol. Yr oedd yn ddealledig fod yr holl brawfion i gael eu rhoddi o flaen yr Amherawdwr cyn y rhoddai ei ddyfarniad. Augustus#25:21 Gr. Sebastos [hybarch, parchedig, myg], yn Lladin, Augustus (Luc 2:1), teitl crefyddol, a roddwyd ar y cyntaf gan y Senedd i Octavius (neu Octavianus), a'r hwn a wisgwyd ar ol hyny gan Tiberius a chan yr Amherawdwyr diweddaraf. Felly yr oedd yn enw teyrn‐linellol fel Pharaoh, Cesar, &c. Yr oedd Tiberius yn dueddol i'w wrthod fel yn sawru o eilun‐addoliaeth. Nero annuwiol oedd yr ‘Amherawdwr haeddglod’ presenol., mi a orchymynais ar iddo gael ei gadw nes y danfonwn#25:21 danfonwn i fyny א A B C E Brnd.; danfonwn HL. ef i fyny at Cesar#25:21 Rhoddwyd yr enw ‘Cesar’ hefyd i'r Amherawdwyr Rhufeinig Perthynai yn wreiddiol i'r teulu Juliaidd. Y mwyaf enwog oedd y cadfridog galluog Caius Julius Cesar. Yn ddiweddarach, rhoddid yr enw ‘Cesar’ i etifeddion Amherawdwyr a llywodraethwyr is‐raddol, tra y cyfyngid ‘Augustus’ i'r Amherawdwr ei hun.. 22Ac Agrippa a#25:22 a ddywedodd C E H L; gad. א A B. ddywedodd wrth Ffestus, Yr oeddwn fy hun hefyd yn ewyllysio clywed y dyn. Y fory, eb efe, y clywi ef. 23Tranoeth gan hyny, wedi dyfod o Agrippa a Bernice#25:23 Aethai gydag Agrippa i bobman, hyd y nod ar achlysuron peryglus; cymerodd ran gydag ef mewn ymdrech i osod i lawr yspryd gwrthryfelgar yr Iuddewon: Josephus: Rhyf ii. xvi. 3. gyda llawer o rwysg#25:23 phantasia, [yma yn unig yn y T.N.]. llyth: ymddangosiad; yna gorwychder, ysplander, rhwysg, [yn yr awduron Groegaidd diweddar, megys Polybius]. Y mae y plant yn canlyn y tâd, yr hwn a ymddangosodd yn yr un lle yn ei wisg frenhinol ddysglaerwych, i wrandaw ar weniaith y Tyriaid (12:21)., ac wedi myned i mewn o honynt i'r wrandaw‐fa#25:23 akroaterion [yma yn unig yn y T.N.] ‘gwrandaw‐le,’ efallai wedi ei ffurfio fel y gair Lladin auditorium. Yn yr awduron clasurol golyga ‘llith-ystafell’ (lecture‐room). Efallai fod hon yn ystafell yn y Pretorium yn Cesarea. gyda Milwriaid#25:23 Gweler 10:1; 21:31. Yr oedd pum mintai o filwyr yn Cesarea, medd Josephus. a gwŷr enwog#25:23 llyth: gwyr o enwogrwydd; exoché, amlygrwydd, hynodrwydd, rhagoroldeb. Y mae yn gyd‐ddygwyddiad rhyfedd fod Agrippa a Drusilla a Bernice wedi clywed Paul yn pregethu Crist yn Cesarea, lle y daeth eu tâd i ddiwedd truenus trwy ei wag‐ymffrost a'i hunanoldeb, yr hwn cyn hyny a laddodd Iago ac a garcharodd Petr. y Ddinas, ac wedi gorchymyn o Ffestus, Paul a ddygwyd gerbron. 24A Ffestus a ddywed, O Frenhin Agrippa, a chwi wyr oll sydd yn bresenol gyda ni, chwi a welwch hwn, ynghylch yr hwn holl luaws#25:24 Yr oedd y Saduceaid a'r Phariseaid, yn ddiamheu, wedi cyduno i'w gondemnio. yr Iuddewon a erfyniasant#25:24 llyth: syrthio i fewn a, cyfarfod; yna, cyd‐ymddyddan, cyd‐gysylltu, ceisio, ymbil, deisebu, eiriol, &c. arnaf yn Jerusalem ac yma, gan lefaru na ddylai efe fyw yn hwy. 25Eithr mi a ganfyddais na wnaeth efe ddim yn haeddu angau#25:25 Felly y tystiolaethodd Lysias (23:29), ac eto Agrippa (26:31). Dylasai Ffestus ei ollwng yn rhydd ar unwaith pan yr ymddangosodd o'i flaen; ond erbyn hyn, y mae Paul wedi apelio at y llys uchaf.; ond gan iddo ef ei hun apelio at Augustus, penderfynais ei anfon: 26am yr hwn nid oes genyf unryw beth sicr#25:26 Yr oedd Ffestus yn cyfaddef nad oedd yn deall y sefyllfa. i'w ysgrifenu at fy arglwydd#25:26 Teitl a wrthodwyd gan Augustus a Tiberius, ond un a fabwysiadwyd gan Nero, yr hwn a laddodd ei fam, ei wraig a'i athraw (Seneca), ac a osododd Rhufain ar dân, ac a erlidiodd y Cristionogion am yr hyn a wnaeth efe ei hun. Yr oedd Ffestus mewn dyryswch; ni wyddai beth i ysgrifenu at ‘ei arglwydd’; yr oedd Paul yn sicr, a chanddo feddwl ‘ei Arglwydd,’ ac yn deall Ei ewyllys.. Am hyny dygais ef yn mlaen ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dy fron di, O Frenhin Agrippa, fel, wedi i'r holiad#25:26 Yr anakrisis oedd yr holiad [arholiad] parotoawl i'r prawf o flaen yr ynad (Archon), er gweled a ydoedd unrhyw sail i'r cyhuddiad. Cymharer Cyfraith Prydain Fawr (True Bill). gymeryd lle, y bo genyf rywbeth a#25:26 a ysgrifenaf א B A C; i ysgrifenu E H L. ysgrifenaf. 27Canys ymddengys i mi yn afresymol, pan yn danfon carcharor, i beidio arwyddo hefyd y cwynion yn ei erbyn.

Dewis Presennol:

Actau 25: CTE

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda