Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 23

23
Paul o flaen y Sanhedrin: Ymrafael rhwng Phariseaid a Saduceaid, 1–10.
1A Phaul, gan edrych yn graff#23:1 Desgrifia Luc yn fynych edrychiad ac ystum y llefarwr (1:10; 3:4, 12; 6:15, &c.). Felly ni ddefnyddir y gair am Paul o herwydd gwendid ei olygon. ar y Sanhedrin, a ddywedodd, O Wyr Frodyr, yr wyf fi wedi byw fel dinesydd#23:1 politeuô, byw fel dinesydd, cyflawnu dyledswyddau a mwynhau breintiau y cyfryw. Meddwl Paul yw, ei fod wedi byw yn deyrngarol i yspryd ac amcan y Gyfraith. Dygwyd y cyhuddiad yn ei erbyn ei fod yn elynol i'r Deml a'r Ddeddf. Ei ateb yw, ei fod yn wir ddeiliad y Ddwyfyddiaeth Iuddewig. Nid oedd yr Efengyl yn dirymu y Ddeddf, ond yn ei chadarnhau. Yr Eglwys Gristionogol, ac nid y Sanhedrin, a gynrychiolai wir fywyd y genedl. I Dduw, nid ger ei fron, ond Duw oedd ei Arglwydd a'i Frenhin, ac yntau yn wir ddeiliad iddo, gweler Phil 1:27. i Dduw, mewn pob cydwybod#23:1 Cydwybod, 33 o weithiau yn Paul, a 3 yn Petr. Ni ddygwydda yn y rhanau eraill o'r T.N. Gweithredodd Paul yn gydwybodol trwy ei holl fywyd. Erlidiodd mewn anwybodaeth. Y pryd hwnw credai ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. dda, hyd y dydd hwn. 2A'r Arch‐offeiriad Ananias#23:2 Mab Nebedëus, yr hwn a benodwyd yn Arch‐offeiriad gan Herod, brenhin Chalcis, B.H. 48. Danfonodd Quadratus, rhaglaw Syria, ef i Rufain i ateb y cyhuddiad o greulondeb ac yspeiliaeth a ddygwyd yn ei erbyn gan y Samariaid. a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ef ar ei enau#23:2 Ffordd gyffredin o ymddwyn at droseddwyr yn y Dwyrain. Efallai mai talfyriad a geir yma o anerchiad Paul. Cafodd Crist yr un driniaeth a Phaul, Ioan 18:22.. 3Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw sydd ar fedr dy daro#23:3 Nid geiriau melldith ond prophwydoliaeth yw y rhai hyn. Ddeg mlynedd ar ol hyn, yn nghanol terfysg a achoswyd gan ei fab Eliazer, ymguddiodd Ananias mewn ceuffos; ond llusgwyd ef allan gan y Brad‐lofruddion (Sicarii) a lladdasant ef. di, bared wedi ei wyn‐galchu#23:3 Cymharer geiriau Crist wrth yr Ysgrifenyddion, ‘beddau wedi eu gwyngalchu,’ Mat 23:27. Dyma gymeriad Ananias, yr oedd yn wyn oddiallan yn ngwisg sanctaidd yr Arch‐offeiriad, ond o fewn yn llawn dial, creulondeb, a hunanoldeb. Dengys Josephus ef mewn goleu anffafriol iawn (Hen. xx. 9:2). Cawn yma enghraifft o ‘ddigllonedd cyfiawn.’: ac a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ol y Gyfraith, a chan droseddu'r Gyfraith yn gorchymyn fy nharo i#23:3 Nid oes genym hawl i ddywedyd fod Paul wedi ‘colli ei dymher’; nid gwendid ond cryfder a glywwn yn swn ei atebiad; gwroldeb di‐ildio a zel anfesurol dros gyfiawnder. Eto, cyferbyner ei ateb ef ag eiddo'r Ceidwad (Ioan 18:23, 24), a gwelwn wahaniaeth dirfawr. Ni symudodd Paul tu allan i gylch ei iawnderau, ond ni symudodd Crist tu allan i gylch ei gariad a'i amynedd anfesurol. Y mae Ei dawelwch a'i urddas yn creu syndod, edmygedd, ac addoliad.? 4A'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl a ddywedasant, A ddifenwi di Archoffeiriad Duw#23:4 Cynrychiolydd Duw, gan eistedd ar orsedd barn. Mewn rhanau o'r H.D. gelwir offeiriaid a barnwyr yn ‘dduwiau’ (Ex 22:8, 9; Salm 82:1).? 5A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, ei fod yn Arch‐offeiriad#23:5 llawer o farnau: (1) fod Paul wedi bod yn absenol cyhyd o Jerusalem fel nad oedd yn adnabod yr Arch‐offeiriad; (2) nad oedd Ananias yn gwisgo ei wisg offeiriadol nac yn llywyddu, ac felly nad oedd dim i'w hynodi fel Arch‐offeiriad; (3) fod Paul yn ddiffygiol o ran ei olygon, ac felly yn methu ei weled a'i adnabod; (4) nad oedd Paul yn gwybod pwy a lefarodd y geiriau; ond iddo yn unig eu clywed, heb weled y person a'u llefarodd; (5) nad oedd Arch‐offeiriad wedi ei ethol yn rheolaidd mewn swydd ar y pryd; mewn ffaith, ei bod yn wag, er y cydnabyddid Ananias gan blaid; (6) fod Paul wedi anghofio neu heb ystyried mai yr Arch‐offeiriad yr oedd efe yn ei anerch; (7) fod Paul yn llefaru mewn gwawdiaith, gan ystyried ymddygiad Ananias yn hollol annheilwng o'r swydd uchel: ‘Anmhosibl i Arch‐offeiriad ymddwyn fel hyn’; (8) nad oedd Arch‐offeiriad yn bod ond Crist, yr hwn oedd yn y nef. Gwell genym gymeryd y geiriau yn llythyrenol wir, beth bynag oedd y rheswm am hyny, nad oedd Paul yn gwybod mai Arch‐offeiriad oedd efe.; canys y mae yn ysgrifenedig, Am benaeth dy bobl na ddywed yn ddrwg#Ex 22:18. 6A Phaul, yn gwybod#23:6 Nid dyfais isel ond egwyddor dda a gymhellodd Paul i gymeryd y cyfeiriad a wnaeth. Yr oedd ‘yn gall a diniwed’ yr un pryd. Dangosodd eudeb a rhagrith y ddwy blaid yn cyduno i'w erlid, a hwythau mor groes a gelyniaethus i'w gilydd. Egwyddor sylfaenol ei grefydd oedd Adgyfodiad Crist, a chafodd gyfleustra rhagorol i'w phregethu. Yr oedd yn gas gan ei enaid yr arwyddair Jesuitaidd, ‘Rhyfel yr hereticiaid yw heddwch yr Eglwys.’ fod un rhan o'r Saduceaid, a'r llall o'r Phariseaid, a waeddodd yn y Sanhedrin, O wyr frodyr, Pharisead#23:6 Dengys Paul nad oedd wedi gwadu yr athrawiaethau a wahaniaethent y Phariseaid oddiwrth y Saduceaid. Credai y blaenaf mewn sefyllfa ddyfodol, mewn byd ‘ysprydol,’ yn y prophwydi, mewn Messia, ac mewn Adgyfodiad. I Paul, yr oedd Cristionogaeth yn ddadblygiad naturiol o Iuddewaeth. Gwahanieithai oddiwrth y Phariseaid yn hytrach mewn perthynas i ffeithiau nag egwyddorion. Credent hwy mewn Messia, dywedai Paul mai Crist ydoedd; credent mewn Adgyfodiad, dywedai Paul fod Iesu wedi adgyfodi, y blaenffrwyth oddiwrth y meirw. wyf fi, mab i Phariseaid#23:6 Yr oedd ei hynafiaid am genedlaethau yn Phariseaid.#23:6 Phariseaid א A B C Brnd.; Pharisead EHL.: am y Gobaith#23:6 y Gobaith am ddyfodiad y Messia ac Adgyfodiad y Meirw. Eraill a farnant fod ‘y gobaith’ yn obaith am yr Adgyfodiad; ‘y gobaith o Adgyfodiad.’ ac Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i. 7Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd ymryson rhwng y Phariseaid a'r Saduceaid: a rhanwyd y lluaws. 8Canys y Saduceaid#23:8 Gwadent yr Adgyfodiad, bodolaeth yspryd ar wahan a'r corph, ac unrhyw fod ysprydol ond Duw. Nid oedd angelion yr Hen Destament ond rhai wedi eu creu ar gyfer yr amgylchiadau ar y pryd. Yr oedd yr enaid yn trengu ac yn darfod yr un pryd a'r corph. Credai y Phariseaid mewn trawsfudiad eneidiau. Ceir awgrym o hyny yn Mat 16:14; Luc 9:8; Ioan 9:2. Ni dderbyniai y Saduceaid ond y Gyfraith Ysgrifenedig. Gwrthodent Draddodiad. yn#23:8 yn wir [men] א A C E; gad. B. wir a ddywedant nad oes Adgyfodiad, nac angel nac yspryd; eithr y Phariseaid ydynt yn addef y ddau#23:8 sef (1) Adgyfodiad, (2) angel ac yspryd (sef yspryd dyn).. 9A bu gwaedd#23:9 pawb ar eu heithaf yn gwaeddi yn nghanol yr ystwr a'r terfysg, ‘Ac ar haner nos y bu gwaedd’ (Mat 25:6). fawr, a chododd i fyny rai#23:9 rai א A B C E; yr Test. Derb. o'r Ysgrifenyddion oedd o ran#23:9 neu blaid. y Phariseaid, ac a ymrysonasant#23:9 ‘ymladdasant mewn geiriau,’ amrafaelio yn gyndyn ac egniol., gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr pa beth os yspryd a lefarodd wrtho neu angel#23:9 Y mae y frawddeg yn anorphenedig. Yr oedd yr Ysgrifenyddion yn llefaru mewn ystum ac edrychiad. Gwawdiaith oedd eu geiriau, yn tori y Saduceaid i'r byw.#23:9 nac ymrysonwn a Duw HL; gad. א A B C E Brnd. [o 5:39, geiriau Gamaliel].? 10A therfysg mawr wedi cyfodi, y Milwriad, yn ofni y tynid Paul yn ddrylliau ganddynt, a orchymynodd i'r llu#23:10 llyth: byddin. fyned i waered#23:10 O gaerfa Antonia, lle y safai yn llygad‐dyst o'r oll., a'i gipio ef o'u canol hwynt, a'i ddwyn i'r Gwersyll‐dy.
Gweledigaeth Nefol a bradwriaeth uffernol.
11A'r nos ganlynol, yr Arglwydd a safodd yn ei ymyl#23:11 Golyga y ferf ymddangosiad sydyn, ac yn fynych, goruwch‐naturiol; ‘drosto,’ ‘uwch ei ben,’ fel, efallai, y gorweddai ar wely oer a chaled y carchardy; nid mewn breuddwyd, ond yr oedd yn weledigaeth eglur. Cymharer 22:8–16; 18:9. Pan y mae y perygl yn ymyl, y mae yr Arglwydd gerllaw. Yr oedd ei Hollalluawgrwydd rhwng Paul a chynddaredd yr Iuddewon., a dywedodd, Ymgalonoga#23:11 Cyfyngder eithaf dyn yw cyfleustra penaf Crist. ‘Y nos yw'r dydd sy'n dwyn y Nef i'r golwg.’,#23:11 Paul HL. gad. א A B C E Brnd.; canys megys y tystiolaethaist#23:11 tystiolaethaist yn llwyr, yn drwyadl (dia yn y ferf). Yr oedd Paul wedi gobeithio llwyddo yn well, ac wedi gwneyd aberth mawr er mwyn hyny; ond ni fu ond terfysg a pherygl oddiar ei ddyfodiad i'r Ddinas. Ond yr oedd wedi rhoddi pob boddlonrwydd i'w Arglwydd. Gogoneddu Crist ac nid hyd y nod achub eneidiau yw dyben penaf y gwas. am danaf i#23:11 Nid yn unig yn ond tystiolaethodd Paul i Jerusalem. Jerusalem, felly y mae yn rhaid i ti dystiolaethu hefyd i Rufain#23:11 Yr oedd ewyllys Crist ac awydd Paul yn cyd‐gyfarfod. Ysgrifenodd yr Apostol cyn hyn at y Rhufeiniaid gan ddadgan ei awydd cryf i'w gweled (Rhuf 1:11–13). Hyn oedd ei uchelgais penaf. Paulus Romae, Apex Evangelii (‘Paul yn Rhufain, Coron Efengyl’) Bengel. Jerusalem a Rhufain, dwy brif ddinas y byd, sef y byd crefyddol a'r byd gwleidyddol. Mor ddall yw y Pabyddion, na osodent Paul yn nghadair Rhufain. Buasai rhith o reswm dros wneyd hyny.. 12A phan aeth hi yn ddydd, yr#23:12 Felly א A B C E; rhai o'r Iuddewon H. Iuddewon a wnaethant gytundeb#23:12 llyth: rhwymiad ynghyd, cyfunawd., ac a rwymasant eu hunain drwy lw#23:12 llyth: a felldithiasant eu hunain, h.y. a osodasant eu hunain dan felldith [anathema] os na ddygent eu bwriad i derfyniad. Diamheu i'r Iuddewon o Asia (21:27) gymeryd rhan yn hyn., gan ddywedyd na fwytaent ac nac yfent hyd nes y lladdent#23:12 Dynoda yr amser ‘hyd nes y byddent wedi lladd Paul.’ Paul. 13Ac yr oedd mwy na deugain a wnaethant y cynghrair#23:13 llyth: tyngiad ynghyd, cymeryd llw ynghyd, cyd‐fradwriaeth. Yr oedd llofruddiaeth a bradwriaeth yn ffynu yn Jerusalem y pryd hwn, a chyrhaeddasant ddyfnder eu herchylldod ar adeg Dinystr y Ddinas. Nid oedd bywyd na chymdeithas yn ddyogel. hwn. 14A'r cyfryw a ddaethant at yr Arch‐offeiriaid#23:14 perthynent yn ddiamheu i blaid y Saduceaid: materolwyr yn Arch‐offeiriaid! a'r Henuriaid#23:14 perthynent yn ddiamheu i blaid y Saduceaid: materolwyr yn Arch‐offeiriaid!, ac a ddywedasant, Yr ydym wedi tynghedu ein hunain trwy lw nad#23:14 llyth: ‘Yr ydym wedi melldithio ein hunain a melldith,’ ffurf Hebreig o lefaru yn y modd cryfaf. archwaethwn ddim hyd nes y lladdem Paul. 15Yn awr, gan hyny, gwnewch chwi ynghyd a'r Sanhedrin egluro#23:15 egluro, dadgan, dangos. Yma yn derm cyfreithiol, gwneyd dadganiad, gwneyd cais ffurfiol. i'r Milwriad, fel y dygo ef#23:15 y fory H L; gad. א A B C E Brnd. i waered atoch, fel pe buasech ar fedr cael gwybod#23:15 diaginoskô, gwahaniaethu, yna, gwybod yn hollol, yn fanylach; mewn ystyr gyfreithiol, holi, penderfynu, barnu. yn gywirach y pethau yn ei gylch ef; a ninau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd#23:15 llyth: gymeryd ymaith. ef. 16A phan glybu mab#23:16 Nid oes genym unrhyw hanes pellach am dano, nac am deulu yr Apostol. Nid bywgraphiad ond Duwgraphiad yw y Beibl. Ni ddywedir pa fodd y daeth y llanc i wybod am y cynllwyn; ond y mae clustiau gan furiau, ac y mae Duw yn gallu gwneyd defnydd o lanciau diniwed a di‐ddrygdyb i ddymchwelyd cynllwynion y campwyr mewn dyfais. chwaer Paul y cynllwyn#23:16 llyth: bod mewn sedd, yna, gorwedd mewn disgwylfa, gosod magl i., wedi cyrhaedd a myned i mewn i'r Gwersyll‐dy, efe a fynegodd i Paul. 17A Paul, wedi galw un o'r Canwriaid ato, a ddywedodd, Dwg y gwr ieuangc hwn at y Milwriad, canys y mae ganddo beth i'w fynegu iddo. 18Efe gan hyny a'i cymerodd ac a'i dyg at y Milwriad, ac a ddywedodd, Paul y carcharor#23:18 Teitl yn yr hwn yr ymffrostiai Paul ar ol hyn. a'm galwodd i ato, ac a ofynodd i mi ddwyn y gwr ieuangc hwn atat, a chanddo rywbeth i'w ddywedyd wrthyt. 19A'r Milwriad a'i cymerodd ef erbyn ei law#23:19 gan ddangos gostyngeiddrwydd a thynerwch. Gwelai, efallai, fod y llanc yn ofnus., ac a aeth o'r neilldu, ac a ofynodd#23:19 llyth: ymofynodd ag ef. iddo yn ddirgel, Beth yw yr hyn sydd genyt i'w fynegu i mi#23:19 Yr oedd y Milwriad mor bryderus ag oedd y llanc o ofnus.? 20Ac efe a ddywedodd, Yr Iuddewon a gytunasant i ofyn i ti ddwyn Paul i waered yfory i'r Sanhedrin, fel pe baet#23:20 pe baet A B E Brnd.; pe baent Test. Derb. ar fedr ymofyn yn gywirach yn ei gylch. 21Am hyny#23:21 o herwydd eu cynllwyn. na pherswadier di ganddynt, canys y mae yn cynllwyn yn ei erbyn fwy na deugain gwr o honynt, yn gyfryw ag a rwymasant eu hunain drwy lw#23:21 yr un ymadrodd ag yn ad 12 na fwytaent, nac yfent nes ei ladd#23:21 Nid y ferf a ddefnyddir yn ad 12 a 14, ond yr un yn 15. Golyga ‘cymeryd i fyny,’ ‘cymeryd ffwrdd’ ‘lladd ar ffrwst.’: ac yn awr y maent yn barod, gan ddisgwyl am yr addewid#23:21 Addewid i gydsynio a'u cais. Golyga epaggelia, ‘addewid’ yn ddieithriad yn y T.N. Rhydd rhai yr ystyr o ‘orchymyn,’ ‘hyspysiad’; yn ol arferiad Groeg clasurol. oddiwrthyt. 22Y Milwriad gan hyny a ollyngodd ymaith y gwr ieuangc, wedi gorchymyn na ddywedai i neb i ti hyspysu y pethau hyn i mi#23:22 Neu ‘wedi gorchymyn, Na ddywed i neb i ti hyspysu, &c.’ Cawn yma enghraifft o'r dull anuniongyrchol o lefaru yn cael ei gyfnewid i'r uniongyrchol; fel yn 1:4.. 23Ac wedi galw ato ryw ddau#23:23 hyny yw, dau o'r deg a berthynent i'r gatrawd Rufeinig. o'r Canwriaid, dywedodd, Parotowch ddau gant o filwyr#23:23 Cawn yma y gwahanol amrywiaethau o filwyr a gyfansoddent bob rhan o'r fyddin Rufeinig. Dynoda y cyntaf y milwyr cyffredin neu reolaidd, wedi eu harfogi yn gyflawn, yna y meirch‐filwyr, ac yna, y drydedd ran, sef milwyr o'r fyddin gynorthwyol, yn gynwysedig o rai yn perthyn i Genhedloedd eraill, y rhai a ddefnyddient eu harfau brodorol; er enghraifft, defnyddiai y Cretiaid fwa a saeth, &c. Ni cheir ond un enghraifft arall o'r gair yma, dexiolaboi, ‘cydwyr â'r ddeheu‐law,’ a dynoda rai fel tafledwyr (slingers), ffynwewyr neu bicellwyr., fel yr elont hyd Cesarea#23:23 70 milltir o Jerusalem. Cesarea oedd trigfa y llywodraethwr Rhufeinig. Cesarea oedd prif‐ddinas Rufeinig Judea., a deg a thri‐ugain o wyr meirch#23:23 Cawn yma y gwahanol amrywiaethau o filwyr a gyfansoddent bob rhan o'r fyddin Rufeinig. Dynoda y cyntaf y milwyr cyffredin neu reolaidd, wedi eu harfogi yn gyflawn, yna y meirch‐filwyr, ac yna, y drydedd ran, sef milwyr o'r fyddin gynorthwyol, yn gynwysedig o rai yn perthyn i Genhedloedd eraill, y rhai a ddefnyddient eu harfau brodorol; er enghraifft, defnyddiai y Cretiaid fwa a saeth, &c. Ni cheir ond un enghraifft arall o'r gair yma, dexiolaboi, ‘cydwyr â'r ddeheu‐law,’ a dynoda rai fel tafledwyr (slingers), ffynwewyr neu bicellwyr., a dau gant o bicellwyr#23:23 Cawn yma y gwahanol amrywiaethau o filwyr a gyfansoddent bob rhan o'r fyddin Rufeinig. Dynoda y cyntaf y milwyr cyffredin neu reolaidd, wedi eu harfogi yn gyflawn, yna y meirch‐filwyr, ac yna, y drydedd ran, sef milwyr o'r fyddin gynorthwyol, yn gynwysedig o rai yn perthyn i Genhedloedd eraill, y rhai a ddefnyddient eu harfau brodorol; er enghraifft, defnyddiai y Cretiaid fwa a saeth, &c. Ni cheir ond un enghraifft arall o'r gair yma, dexiolaboi, ‘cydwyr â'r ddeheu‐law,’ a dynoda rai fel tafledwyr (slingers), ffynwewyr neu bicellwyr., ar y drydedd awr o'r nos#23:23 Naw yn yr hwyr. Yr oedd y wlad mewn sefyllfa derfysglyd. Yr oedd y Sicarii (‘y brad‐lofruddion’) yn lluosog ac yn feiddgar, ac felly yr oedd eisieu llawer o filwyr i gadw trefn.: 24hefyd dywedodd wrthynt ddarparu#23:24 Cyfnewidiad i'r ffurf anuniongyrchol o lefaru. anifeiliaid#23:24 Anifeiliaid fel meddianau [ktênê], yn enwedig er marchogaeth, ‘Gosododd ef ar ei anifail ei hun,’ Luc 10:34., gan osod Paul arnynt, i'w ddwyn yn ddyogel at Ffelix#23:24 Canlynodd Ffelix y Rhaglaw Cumanus yn llywodraeth Judea, Galilea, a Samaria. Penodwyd ef gan Claudius yn y flwyddyn 51. Nid oedd ar y cyntaf ond caeth‐was; ond trwy ddylanwad ei frawd Pallas, yr hwn oedd hoff-ddyn Claudius, cafodd ei wneyd yn ‘ddyn rhydd,’ a'i ddyrchafu. Yr oedd ei lywodraeth yn ormesol a niweidiol, a'i gymeriad personol yn cael ei nodweddu gan aniweirdeb a chreulondeb. Cafodd ei ddiswyddo tua'r flwyddyn 62, o herwydd achwyniadau yr Iuddewon, a dylynwyd ef fel rhaglaw gan Ffestus. y Rhaglaw.
Danfoniad Paul i Cesarea.
25Ac efe a ysgrifenodd lythyr#23:25 Nid oes sicrwydd pa un ai yn Lladin ynte Groeg yr ysgrifenwyd ef. Y mae yr olaf mor debygol a'r flaenaf, er mai Lladin oedd iaith swyddogol yr Amherodraeth; eto yr oedd Groeg yn llawer mwy cyffredinol, ac yn enwedig yn iaith y parthau hyn. yn ol y ffurf#23:25 Neu, cynwysiad, ystyr: yn ol eraill, amlinelliad. hon: 26Claudius Lysias at yr Ardderchocaf Raglaw Ffelix, bydd wych#23:26 llyth: bydd lawen. Dyma yr anerchiad arferol, yn cyfateb i ‘gras’ yr Epistolau, ‘Gras a thangnefedd,’ &c.. 27Y gwr#23:27 Anêr ac nid anthrôpos. Dengys y blaenaf fwy o barch, efallai, o herwydd fod Paul yn ddinesydd Rhufeinig. hwn wedi ei ddal gan yr Iuddewon, ac ar fedr ei ladd ganddynt, a achubais#23:27 llyth: ‘a ddygais allan,’ ‘a ryddheais oddiwrthynt.’ i, gan ddyfod ar eu gwarthaf#23:27 arnynt yn sydyn. gyda llu, wedi dysgu mai Rhufeiniwr#23:27 Dywed Lysias ran o'r gwir, ond nid yr holl wir. Ni ddywed air ei fod ef ei hun wedi tori'r gyfraith trwy orchymyn i Paul gael ei fflangellu, &c. Cawn yma enghraifft deg o lys‐genadaeth y byd. oedd. 28Ac yn ewyllysio gwybod yr achos ar gyfrif yr hwn y cyhuddent ef, mi a'i dygais ef i waered i'w Sanhedrin hwynt. 29A chefais ei fod yn cael ei gyhuddo ynghylch cwestiynau#23:29 hyny yw, yr oedd yn cael ei gyhuddo o droseddau yn erbyn y Gyfraith. Tynodd Gallio yr un casgliad a Lysias, 18:14, 15. o'u Cyfraith hwy, heb un cyhuddiad yn haeddu angau neu rwymau. 30A phan hyspyswyd#23:30 yn swyddogol. i mi fod cynllwyn yn erbyn y gwr#23:30 gan yr Iuddewon H L; gad. א A B E Brnd., allan#23:30 allan o law, [yn y man] B H L Al. WH. Diw.; ganddynt [llyth: allan oddiwrthynt] א A E La. Ti. Tr. o law danfonais ef atat ti, gan erchi i'w gyhuddwyr ef hefyd i lefaru yn ei erbyn ger dy fron di#23:30 Bydd wych [neu Ffarwel] א E; gad. B E Brnd..
31Y milwyr yn wir gan hyny, megys y gorchymynasid iddynt, a gymerasant#23:31 a gymerasant i fyny, h.y. a wasanaethasant fel ei osgordd (Gen 24:61, LXX.). Paul, ac a'i dygasant ar hyd nos#23:31 tramwyasant trwy y nos, ond ni chyrhaeddasant Antipatris ‘a hi eto yn nos.’ Yr oedd Paul ‘yn y canol.’ i Antipatris#23:31 yn nyffryn Saron, 42 o filltiroedd o Jerusalem, a 26 o Cesarea. Gelwid hi gynt Capharsaba (1 Mac 7:31); ail‐adeiladwyd hi gan Herod Fawr, a galwodd hi Antipatris, ar ol ei dad Antipater.. 32A thranoeth, hwy a adawsant i'r gwyr meirch fyned gydag ef, ac a ddychwelasant i'r Gwersyll‐dy. 33Y cyfryw, wedi dyfod i Cesarea, a rhoddi i fyny y llythyr i'r Rhaglaw, a gyflwynasant#23:33 Neu, ‘a osodasant Paul hefyd ger ei fron.’ Paul hefyd iddo. 34Ac wedi darllen y llythyr, a gofyn o ba fath#23:34 o ba fath, hyny yw, pa un a'i talaeth Seneddol neu Ymherodrol. Yr oedd Cilicia yn un Ymherodrol. dalaeth yr ydoedd, a deall ei fod o Cilicia: 35Mi a'th wrandawaf trwodd#23:35 ‘Rhoddaf i ti wrandawiad llawn.’ Nid oedd yr arholiad hwn ond parotoawl., eb efe, pan gyrhaeddo dy gyhuddwyr hefyd, gan orchymyn ar ei gadw yn mhalasdy#23:35 Praitôrion, (1) pabell y cadfridog, (2) palasdy swyddogol llywodraethwr talaeth (Marc 15:16), (3) gwersyll (neu wersylldy) milwyr y Pretor neu Lywydd Rhufeinig (Phil 1:13). swyddogol Herod.

Dewis Presennol:

Actau 23: CTE

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda