Galatiaid 6
6
A.D. 58. —
1 Y mae yn eu hannog i ymddwyn yn llariaidd tuag at frawd a lithrodd; 2 ac i ddwyn bob un faich eu gilydd: 6 i fod yn hael tuag at eu hyfforddwyr; 9 ac na ddiffygiont yn gwneuthur da. 12 Y mae yn dangos pa beth yw amcan y rhai sydd yn pregethu yr enwaediad. 14 Nad yw efe yn gorfoleddu mewn dim, ond yng nghroes Crist.
1Y brodyr, #Rhuf 14:1; 15:1os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi #1 Cor 2:15; 3:1y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau. 2Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch #Ioan 13:34; 15:12gyfraith Crist. 3Oblegid #1 Cor 8:2; Pen 2:6os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei #6:3 Gr. feddwl‐dwyllo.dwyllo ei hun. 4Eithr #1 Cor 11:28profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac #Edrych Luc 18:11nid mewn arall. 5Canys #1 Cor 3:8pob un a ddwg ei faich ei hun. 6A #1 Cor 9:11, 14chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da. 7#1 Cor 6:9Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys #Luc 16:25; Rhuf 2:6; 2 Cor 9:6beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe. 8Oblegid #Job 4:8; Rhuf 8:13yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol. 9Eithr #2 Thess 3:13yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, #Heb 12:3, 5oni ddiffygiwn. 10Am #Ioan 12:35; 1 Thess 5:15hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o #Eff 2:19deulu’r ffydd. 11Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m llaw fy hun. 12Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu; #Phil 3:18yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist. 13Canys nid yw’r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw’r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel #6:13 yr ymffrostiont.y gorfoleddont yn eich cnawd chwi. 14Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy #6:14 ba un y.yr hwn #Rhuf 6:6; Pen 2:20y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd. 15Canys #1 Cor 7:19; Pen 5:6; Col 3:11yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond #2 Cor 5:17creadur newydd. 16#Salm 125:5A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar #Rhuf 2:29; 4:12; Pen 3:9, 29; Phil 3:3Israel Duw. 17O hyn allan na flined neb fi: canys #2 Cor 4:10dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu. 18Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.
At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.
Dewis Presennol:
Galatiaid 6: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society