Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 1

1
A.D. 64. —
1 Ar ôl cyfarch yr Effesiaid, 3 a diolch drostynt, 4 y mae efe yn crybwyll am ein hetholedigaeth ni, 6 a’n mabwysiad trwy ras, 11 yr hyn yw gwir ffynnon iachawdwriaeth dyn: 13 ac am na ellir yn hawdd gyrhaeddyd uchder y dirgelwch hwn, 16 y mae yn gweddïo ar iddynt ddyfod 18 i gyflawn wybodaeth 20 a meddiant ohono yng Nghrist.
1Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, #Rhuf 1:7; 2 Cor 1:1at y saint sydd yn Effesus, a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu: 2#Gal 1:3Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3#2 Cor 1:3; 1 Pedr 1:3Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion #1:3 bethau, pen 6:12 leoedd yng Nghrist: 4Megis #2 Tim 1:9yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel #Col 1:22y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad: 5#Rhuf 8:29, 30Wedi iddo ein rhagluniaethu ni #Rhuf 8:15; Gal 4:5i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef, 6Er mawl gogoniant ei ras ef, trwy yr hwn #1:6 Neu, y rhad‐garodd ni.y gwnaeth ni yn gymeradwy yn #Mat 3:17yr Anwylyd: 7#Act 20:28Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl #Rhuf 9:23; Pen 2:7; 3:8, 16; Phil 4:19cyfoeth ei ras ef; 8Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall, 9#Rhuf 16:25Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun: 10#1:10 Hyd lywodraeth cyflawnder yr amseroedd i grynhoi, & c.Fel yng ngoruchwyliaeth #Gal 4:4; Heb 1:2; 1 Pedr 1:20cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist #Col 1:20yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef: 11Yn yr hwn #1:11 Neu, y cawsom etifeddiaeth.y’n #Act 26:18; Col 1:12dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun: 12Fel y byddem ni er mawl i’w ogoniant ef, y rhai o’r blaen a #1:12 ymddiriedasom.obeithiasom yng Nghrist. 13Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, #2 Cor 1:22; Pen 4:30y’ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid; 14#2 Cor 5:5Yr hwn yw #1:14 gwystl.ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd #Luc 21:28; Rhuf 8:23; Pen 4:30bryniad #1:14 y meddiant a bwrcaswyd.y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef. 15Oherwydd hyn minnau hefyd, #Col 1:4; Philem 1:5wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a’ch cariad tuag ar yr holl saint, 16#Rhuf 1:9; Phil 1:3, 4; 1 Thess 1:2; 2 Thess 1:3Nid wyf yn peidio â diolch drosoch, gan wneuthur coffa amdanoch yn fy ngweddïau; 17Ar #Ioan 20:17i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef: 18Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, 19A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, #Pen 3:7; Col 2:12yn ôl gweithrediad #1:19 ei nerthol gadernid ef.nerth ei gadernid ef; 20Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan #Act 2:24ei cyfododd ef o feirw, ac #Salm 110:1a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd, 21#Phil 2:9, 10; Col 2:10Goruwch pob #Rhuf 8:38; Col 1:16; 2:15tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw: 22Ac #Salm 8:6; 1 Cor 15:27; Heb 2:8a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, ac a’i rhoddes ef #Pen 4:15, 16yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys, 23#Rhuf 12:5; 1 Cor 12:27; Pen 4:12; 5:23, 30; Col 1:18Yr hon yw ei gorff ef, ei gyflawnder ef, #1 Cor 12:6; Pen 4:10; Col 3:11yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll.

Dewis Presennol:

Effesiaid 1: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda