Galatiaid 5
5
A.D. 58. —
1 Y mae yn eu hannog hwy i sefyll yn eu rhyddid, 3 ac nad arferont enwaediad; 13 eithr yn hytrach cariad, yr hwn yw cyflawnder y gyfraith. 19 Y mae yn rhifo gweithredoedd y cnawd, 22 a ffrwythau yr Ysbryd; 25 ac yn eu hannog i rodio yn yr Ysbryd.
1Sefwch gan hynny yn #Ioan 8:32; Rhuf 6:18y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn #Act 15:10; Pen 2:4dan iau caethiwed. 2Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, #Act 15:1; 16:3Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi. 3Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i #5:3 wneuthur.gadw yr holl ddeddf. 4Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras. 5Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl #2 Tim 4:8gobaith cyfiawnder. 6Canys #1 Cor 7:19; Pen 6:15; Col 3:11yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond #1 Thess 1:3ffydd yn gweithio trwy gariad. 7Chwi #1 Cor 9:24a redasoch yn dda; #Pen 3:1pwy a’ch #5:7 gyrrodd yn ôl.rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd? 8Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn #Pen 1:6sydd yn eich galw chwi. 9#1 Cor 5:6Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does. 10#2 Cor 2:3; 8:22Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond #Pen 1:7y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo. 11A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, #1 Cor 15:30paham y’m herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith #1 Cor 1:23dramgwydd y groes. 12#Jos 7:25; 1 Cor 5:13Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch. 13Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig #1 Cor 8:9; 1 Pedr 2:16; 2 Pedr 2:19; Jwdas 4, 9nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond #1 Cor 9:19; Pen 6:2trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd. 14Canys #Mat 7:12; Iago 2:8yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; #Lef 19:18; Mat 22:39; Rhuf 13:8, 9Câr dy gymydog fel ti dy hun. 15Ond os #5:15 brathu.cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd. 16Ac yr wyf yn dywedyd, #Rhuf 6:12Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac #5:16 ni.na chyflawnwch drachwant y cnawd. 17Canys y mae’r #Rhuf 7:23; 8:6, 7cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, #Rhuf 7:15, 19fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. 18Ond #Rhuf 6:14; 8:2os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf. 19Hefyd #1 Cor 3:3; Eff 5:3; Col 3:5; Iago 3:14amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, 20Delw‐addoliaeth, swyn‐gyfaredd, #5:20 gelyniaeth.casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, 21Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, #1 Cor 6:9; Eff 5:5; Col 3:6; Dat 22:15na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. 22Eithr #Ioan 15:2; Eff 5:9ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, #5:22 cymedroldeb.dirwest: 23#1 Tim 1:9Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. 24A’r rhai sydd yn eiddo Crist, #Rhuf 6:6; Pen 2:20a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. 25#Rhuf 8:4, 5Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd. 26#Phil 2:3Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.
Dewis Presennol:
Galatiaid 5: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society