Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 4

4
A.D. 58. —
1 Ein bod ni dan y ddeddf hyd ddyfodiad Crist, fel y mae yr etifedd dan ei ymgeleddwr nes ei ddyfod i’w oed: 5 eithr darfod i Grist ein rhyddhau ni oddi wrth y ddeddf: 7 nad ydym ni gan hynny weision iddi mwyach. 14 Y mae efe yn cofio eu hewyllys da hwynt tuag ato ef, a’r eiddo yntau tuag atynt hwythau; 22 ac yn dangos mai meibion i Abraham ydym ni, o’r wraig rydd.
1A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl; 2Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad. 3Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan #Col 2:20wyddorion y byd: 4Ond #Marc 1:15; Eff 1:10pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, #Ioan 1:14; Rhuf 1:3; Phil 2:7wedi ei wneuthur #Gen 3:15o wraig, #Mat 5:17wedi ei wneuthur dan y ddeddf; 5Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, #Ioan 1:12; Pen 3:26; Eff 1:5fel y derbyniem y mabwysiad. 6Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw #Rhuf 8:15Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad. 7Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; #Rhuf 8:16, 17ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist. 8Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, #1 Cor 12:2; Eff 2:11, 12chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau. 9Ac yn awr, #1 Cor 8:3; 13:12a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, #Col 2:20pa fodd yr ydych yn troi #4:9 yn ôl.drachefn at #Heb 7:18yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu? 10#Rhuf 14:5; Col 2:16Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd. 11Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer. 12Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: #2 Cor 2:5ni wnaethoch i mi ddim cam. 13A chwi a wyddoch mai #1 Cor 2:3; 2 Cor 11:30trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf. 14A’m profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a’m derbyniasoch #Mal 2:7; Sech 12:8megis angel Duw, #Mat 10:40; Ioan 13:20; 1 Thess 2:13megis Crist Iesu. 15Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a’u rhoesech i mi. 16A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir? 17Y maent yn rhoi #Rhuf 10:2; 2 Cor 11:2mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent #4:17 ein cau ni.eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy. 18Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi. 19#1 Cor 4:15; Philem 10; Iago 1:18Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch; 20Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau #4:20 amdanoch.ohonoch. 21Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf? 22Canys y mae’n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; #Gen 16:15un o’r wasanaethferch, ac #Gen 21:2un o’r wraig rydd. 23Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch, #Rhuf 9:7, 8; Heb 11:11a aned yn ôl y cnawd; a’r hwn oedd o’r wraig rydd, trwy’r addewid. 24Yr hyn bethau ydynt mewn #4:24 cyffelybiaeth.alegori: canys y rhai hyn yw’r ddau #4:24 gyfamod.destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar: 25Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia, ac y mae yn cyfateb i’r Jerwsalem sydd yn awr; ac y mae yn gaeth, hi a’i phlant. 26Eithr #Esa 2:2; Heb 12:22; Dat 3:12; 21:2, 10y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll. 27Canys ysgrifenedig yw, #Esa 54:1Llawenha, di’r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i’r #4:27 amddifad.unig y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mae iddi ŵr. 28A ninnau, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym #Rhuf 9:8blant yr addewid. 29Eithr megis y pryd hynny, #Gen 21:9yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai’r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd. 30Ond beth y mae’r #Pen 3:8, 22ysgrythur yn ei ddywedyd? #Gen 21:10, 12Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab: canys #Ioan 8:35ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd. 31Felly, frodyr, nid plant i’r wasanaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.

Dewis Presennol:

Galatiaid 4: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda