Galatiaid 3
3
A.D. 58. —
1 Mae efe yn gofyn pa beth a’u cynhyrfodd hwy i ymadael â’r ffydd, ac i lynu wrth y gyfraith. 6 Y rhai a gredant a gyfiawnheir, 9 ac a fendithir gydag Abraham: 10 a hyn y mae efe yn ei ddangos trwy lawer o resymau.
1O y Galatiaid ynfyd, #Pen 5:7pwy a’ch #3:1 rheibiodd.llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith? 2Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch #Act 2:38; 8:15; 15:8; Eff 1:13; Heb 6:4yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd? 3A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd? 4#2 Ioan 8A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd. 5Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae? 6Megis y credodd #Gen 15:6; Rhuf 4:3; Iago 2:23Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 7Gwybyddwch felly mai’r #Rhuf 4:11, 12, 16rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham. 8#Rhuf 9:17; Ad. 22A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, #Gen 12:3; 18:18; 22:18; Act 3:25Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd. 9Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon. 10Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, #Deut 27:26Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt. 11Ac #Pen 2:16na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, #Heb 10:38Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. 12#Rhuf 4:4, 5; 10:5, 6; 11:6A’r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, #Lef 18:5Y dyn a wna’r pethau hynny, a fydd byw ynddynt. 13#Rhuf 8:3; 2 Cor 5:21Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, #Deut 21:23Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren: 14Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem #Esa 32:15; 44:3; Jer 31:33; 32:40; Esec 11:19; 36:27; Joel 2:28, 29; Sech 12:10addewid yr Ysbryd trwy ffydd. 15Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; #Heb 9:17Cyd na byddo ond #3:15 testament.amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato. 16#Gen 17:7; Ad. 8I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i’w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i’th had di, yr hwn yw #1 Cor 12:12Crist. 17A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw’r ddeddf, #Exod 12:40, 41oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, #Rhuf 4:13, 14i wneuthur yr addewid yn ofer. 18Canys #Rhuf 8:17os o’r ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw #3:18 mwyach.haeach o’r addewid: ond Duw a’i rhad roddodd i Abraham trwy addewid. 19Beth gan hynny yw’r ddeddf? #Ioan 15:22; Rhuf 4:15; 5:20; 7:8; 1 Tim 1:9Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai’r had, i’r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi #Act 7:53a drefnwyd trwy angylion yn llaw #Deut 5:5; Ioan 1:17; Act 7:38; 1 Tim 2:5cyfryngwr. 20A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un. 21A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder. 22Eithr #Rhuf 3:9, 19, 23; 11:32cydgaeodd #Ad. 8yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu. 23Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. 24#Rhuf 10:4Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. 25Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. 26Canys chwi oll #Ioan 1:12; Pen 4:5ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. 27Canys #Rhuf 6:3cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, #Rhuf 13:14a wisgasoch Grist. 28#Rhuf 10:12; 1 Cor 12:13Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll #Eff 2:14, 15un ydych yng Nghrist Iesu. 29Ac #Gen 21:12os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac #Eff 3:6etifeddion yn ôl yr addewid.
Dewis Presennol:
Galatiaid 3: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society