Galatiaid 2
2
A.D. 58. —
1 Y mae yn dangos pa bryd yr aeth efe i fyny i Jerwsalem, ac i ba beth; 3 ac nad enwaedasid ar Titus; 11 a gwrthwynebu ohono ef Pedr. 14 Paham y mae efe ac eraill, a hwythau yn Iddewon, yn credu y cânt eu cyfiawnhau yng Nghrist trwy ffydd, ac nid trwy weithredoedd; 20 ac na bo iddynt hwy, y rhai a gyfiawnhawyd felly, fyw mewn pechod.
1Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi. 2Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd #Phil 2:16; 1 Thess 3:5fy mod yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg. 3Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno: 4A hynny oherwydd #2 Cor 11:26y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein #Pen 3:25; 5:1, 13rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y’n caethiwent ni: 5I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai #Ad. 14gwirionedd yr efengyl gyda chwi. 6A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; #Act 10:34; Rhuf 2:11nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai #2:6 a dybid eu bod yn rhyw beth.cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi: 7Eithr yn y gwrthwyneb, #Act 13:46; Rhuf 11:13; 1 Tim 2:7; 2 Tim 1:11pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr: 8(Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, #Act 9:15; 13:2; 22:21; Pen 1:16a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:) 9A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod #Mat 16:18yn golofnau, #Rhuf 1:5; 12:3; 15:15; Eff 3:8y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad. 10Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; #Act 24:17yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur. 11A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i’w feio. 12Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, #Act 10:28; 11:3efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad. 13A’r Iddewon eraill hefyd a gyd‐ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy. 14Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at #Ad. 5wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr #1 Tim 5:20yn eu gŵydd hwy oll, #Act 10:28Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd? 15Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym #Act 10:28Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd #Eff 2:3, 12yn bechaduriaid, 16#Act 13:38Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond #Rhuf 1:17; 3:22, 28; 8:3; Heb 7:18, 19trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y’n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid #Salm 143:2; Rhuf 3:20; Pen 3:11ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf. 17Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y’n caed ninnau hefyd #1 Ioan 3:8, 9yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw. 18Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr. 19Canys yr wyf fi #Pen 5:1trwy’r ddeddf #Rhuf 6:14; 7:4, 6wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn #Rhuf 6:11; 2 Cor 5:15; 1 Thess 5:10; 1 Pedr 4:2fyw i Dduw. 20Mi #Rhuf 6:6; Pen 5:24a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, #Pen 1:4; Eff 5:2; Titus 2:14yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi. 21Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys #Heb 7:11os o’r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.
Dewis Presennol:
Galatiaid 2: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society