Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 1

1
A.D. 58. —
6 Y mae efe yn rhyfeddu iddynt ei adael ef a’r efengyl cyn gynted; 8 ac yn melltithio y rhai a bregethant efengyl amgen na’r hon a bregethai efe. 11 Nad gan ddynion y dysgodd efe yr efengyl, eithr gan Dduw. 13 Ac y mae yn dangos pa beth ydoedd efe cyn ei alw, 17 a pha beth a wnaeth efe yn y man wedi ei alw.
1Paul, apostol, (#Ad. 11, 12nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr #Titus 1:3trwy Iesu Grist, a Duw Dad, #Act 2:24yr hwn a’i cyfododd ef o feirw;) 2A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia: 3#Rhuf 1:7; 1 Cor 1:3; 2 Cor 1:2; Eff 1:2; Phil 1:2; Col 1:2; 1 Thess 1:1; 2 Thess 1:2Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist; 4#Titus 2:14Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y’n gwaredai ni oddi wrth #Esa 65:17; Heb 2:5; 6:5; 1 Ioan 5:19y byd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a’n Tad ni: 5I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 6Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd #1:6 yng ngras.i ras Crist, at efengyl arall: 7#2 Cor 11:4Yr hon nid yw arall; ond bod rhai #Act 15:1, 24; Pen 5:10, 12yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist. 8Eithr pe byddai #1 Cor 16:22i ni, neu i angel o’r nef, efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi, bydded #1:8 felltigedig.anathema. 9Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen #Deut 4:2; 12:32; Diar 30:6; Dat 22:18na’r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema. 10Canys yr awron #1 Thess 2:4ai #1:10 perswadio.peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu #Iago 4:4a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist. 11Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yw hi #1:11 yn ôl dyn.ddynol. 12Canys #1 Cor 15:1, 3; Ad. 1nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd; eithr #Eff 3:3trwy ddatguddiad Iesu Grist. 13Canys chwi a glywsoch #Act 8:3fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw, a’i hanrheithio hi; 14Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan #1:14 ddwyn sêl yn fwy.fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau. 15Ond pan welodd Duw yn dda, #Rhuf 1:1yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam, ac a’m galwodd i trwy ei ras, 16#2 Cor 4:6I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel #Act 9:15; 22:21y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â #Mat 16:17; Eff 6:12chig a gwaed: 17Ac nid euthum #1:17 i fyny.yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus. 18Yna ar ôl tair blynedd #Act 9:26y deuthum #1:18 i fyny.yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod. 19Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais, ond #Marc 6:3Iago brawd yr Arglwydd. 20A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, #Rhuf 9:1wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd. 21Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia; 22Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai #Rhuf 16:7oedd yng Nghrist: 23Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu’r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai. 24A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.

Dewis Presennol:

Galatiaid 1: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda