Effesiaid 2
2
A.D. 64. —
1 Trwy gyffelybu yr hyn oeddem ni wrth 3 naturiaeth â’r hyn ydym 5 trwy ras, 10 y mae yn dangos ddarfod ein creu ni i weithredoedd da; 13 a chan ein bod ni wedi ein dwyn yn agos trwy Grist, na ddylem ni fyw megis 11 Cenhedloedd, ac 12 estroniaid gynt; ond megis 19 cyd‐ddinasyddion â’r saint, a theulu Duw.
1A #Col 2:13chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau; 2#1 Cor 6:11Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl #Pen 6:12tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio #Pen 5:6; Col 3:6ym mhlant anufudd‐dod; 3#Titus 3:3Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau; ac #Salm 51:5; Rhuf 5:12, 14yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill. 4Eithr Duw, #Rhuf 10:12yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, 5#Rhuf 5:6, 8, 10Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a’n #Rhuf 6:4, 5; Col 2:12, 13; 3:1, 3cydfywhaodd ni gyda Christ, (#Act 15:11; Titus 3:5trwy ras #2:5 pa un yr.yr ydych yn gadwedig;) 6Ac a’n cydgyfododd, ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu: 7Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu. 8Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, #Rhuf 4:16trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: #Mat 16:17; Rhuf 10:14, 15, 17; Pen 1:19rhodd Duw ydyw: 9#Rhuf 3:20, 27, 28; 4:2; 9:11; 11:6Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. 10Canys #Salm 100:3; Esa 19:25; 29:23; Ioan 3:3, 5; 2 Cor 5:5, 17ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt. 11Am hynny #1 Cor 12:2; Pen 5:8; Col 1:21cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd; 12Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, #Esec 13:9wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth #Rhuf 9:4, 8amodau’r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd: 13Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist. 14Canys #Micha 5:5; Ioan 16:33; Act 10:36efe yw ein tangnefedd ni, #Ioan 10:16; Gal 3:28yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: 15#Col 2:14Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn #2 Cor 5:17; Gal 6:15newydd, gan wneuthur heddwch; 16Ac fel y cymodai’r ddau â Duw #Col 1:22yn un corff trwy’r groes, #Rhuf 6:6; 8:3; Col 2:14wedi lladd y gelyniaeth #2:16 Neu, ynddo ei hun.trwyddi hi. 17Ac efe a ddaeth, ac #Esa 57:19; Sech 9:10a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac #Salm 148:14i’r rhai agos. 18Oblegid #Rhuf 5:2trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad. 19Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond #Phil 3:20; Heb 12:22, 23yn gyd‐ddinasyddion â’r saint, ac #Gal 6:10yn deulu Duw; 20Wedi eich #1 Cor 3:9, 10goruwchadeiladu #Mat 16:18; Dat 21:14ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun #Salm 118:22; Esa 28:16yn benconglfaen; 21#Pen 4:16Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu’n #1 Cor 3:17; 6:19; 2 Cor 6:16deml sanctaidd yn yr Arglwydd: 22#1 Pedr 2:5Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd.
Dewis Presennol:
Effesiaid 2: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society