Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 3

3
A.D. 64. —
1 Darfod hysbysu i Paul, trwy ddatguddiad, 5 guddiedig ddirgelwch 6 cadwedigaeth y Cenhedloedd: 8 ac mai iddo ef y rhoddwyd y gras i’w 9 bregethu ef. 13 Y mae yn dymuno arnynt na lwfrhaont oblegid ei flinderau ef; 14 ac yn gweddïo 19 ar iddynt wybod mawr gariad Duw tuag atynt.
1Er mwyn hyn, myfi Paul, #Pen 4:1; Phil 1:7, 13, 14, 16; Col 4:3carcharor Iesu Grist #Col 1:24; 2 Tim 2:10trosoch chwi’r Cenhedloedd; 2Os clywsoch am #1 Cor 4:1; Pen 4:7oruchwyliaeth gras Duw, #Act 9:15; 13:2; Gal 1:16yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi: 3#Act 22:17, 21Mai trwy #Gal 1:12ddatguddiad yr hysbysodd #Rhuf 16:25; Col 1:26efe i mi y dirgelwch, (#Pen 1:9, 10megis yr ysgrifennais o’r blaen ar ychydig eiriau, 4Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,) 5#Act 10:28Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i’w sanctaidd apostolion a’i broffwydi trwy’r Ysbryd; 6Y byddai’r Cenhedloedd #Gal 3:28, 29; Pen 2:14yn gyd‐etifeddion, ac #Pen 2:15, 16yn gyd‐gorff, ac #Gal 3:14yn gyd‐gyfranogion o’i addewid ef yng Nghrist, trwy’r efengyl: 7I’r hon y’m gwnaed i yn weinidog, #Rhuf 1:5yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl #Pen 1:19grymus weithrediad ei allu ef. 8I mi, #1 Cor 15:9; 1 Tim 1:13, 15y llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, #Gal 1:16; 2:8i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist; 9Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas #Ad. 3; Pen 1:9y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, #Salm 33:6; Col 1:16; Heb 1:2yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist: 10#1 Pedr 1:12Fel y byddai yr awron yn hysbys i’r #Rhuf 8:38; Pen 1:21; 1 Pedr 3:22tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy’r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw, 11Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni: 12Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a #Pen 2:18dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef. 13#Act 14:22; Phil 1:14; 1 Thess 3:3Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i #Ad. 1drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi. 14Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, 15O’r hwn yr enwir yr holl #3:15 dadogaeth.deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear, 16Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl #Rhuf 9:23; Pen 1:7; Phil 4:19cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn #Rhuf 7:22; 2 Cor 4:16y dyn oddi mewn; 17Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi; 18Fel y galloch, #Col 2:7wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda’r holl saint, beth yw’r lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder; 19A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw. 20Ond #Rhuf 16:25; Jwdas 24i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni, 21Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.

Dewis Presennol:

Effesiaid 3: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda