Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 9

9
1 Daniel yn ystyried amser y caethiwed; 3 ac yn cyffesu ei bechodau; 16 ac yn gweddïo am adnewyddu Jerusalem. 20 Gabriel yn dangos iddo y deg wythnos a thrigain.
1Yn y flwyddyn gyntaf i #Pen 1:21; 6:28Dareius mab Ahasferus, o had y Mediaid, #9:1 Neu, yn yr hon y gwnaed ef yn frenin.yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid, 2Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethai gair yr Arglwydd at #Jer 25:12; 29:10Jeremeia y proffwyd, y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd‐dra Jerwsalem.
3Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd Dduw, i geisio trwy weddi ac ymbil, ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw. 4A gweddïais ar yr Arglwydd fy Nuw, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, #Deut 7:9; Neh 1:5; 9:32Arglwydd Dduw mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion; 5#Salm 106:6; Esa 64:5, 6, 7Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau. 6Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir. 7#9:7 Neu, Gennyt ti, Arglwydd y mae, neu, Ti, Arglwydd biau cyfiawnder.I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i’th erbyn. 8Arglwydd, y mae cywilydd wynebau i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n tadau, oherwydd i ni bechu i’th erbyn. 9Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu ohonom i’w erbyn. 10Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o’n blaen ni trwy law ei weision y proffwydi. 11Ie, holl Israel a droseddasant dy gyfraith di, sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di: am hynny #Lef 26:14, &c; Deut 28:15, &c; 29:20, &c; 30:17, 18; 31:17, &c; 32:19, &cy tywalltwyd arnom ni y felltith a’r llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr Duw, am bechu ohonom yn ei erbyn ef. 12Ac #Galar 2:17efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barnwyr y rhai a’n barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr; canys #Galar 1:12; 2:13ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerwsalem. 13Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom #9:13 Heb. ag wyneb.o flaen yr Arglwydd ein Duw, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di. 14Am hynny #Jer 31:28; 44:27y gwyliodd yr Arglwydd ar y dialedd, ac a’i dug arnom ni; oherwydd #Neh 9:33cyfiawn yw yr Arglwydd ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef. 15Eto yr awr hon, O Arglwydd ein Duw, #Exod 6:1, 6; 32:11yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref, ac a wnaethost i ti #Exod 14:18enw megis heddiw, nyni a bechasom, ni a wnaethom anwiredd.
16O Arglwydd, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerwsalem a’th bobl #Salm 44:14; 79:4yn waradwydd i bawb o’n hamgylch. 17Ond yr awr hon gwrando, O ein Duw ni, ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiadau, a #Num 6:25; Salm 67:1; 80:3, 7, 19llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig, er mwyn yr Arglwydd. 18Gostwng dy glust, O fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid, a gwêl ein hanrhaith ni, a’r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn #9:18 Heb. gwneuthur i’n deisyfiadau gwympo ger, &ctywallt ein gweddïau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di. 19Clyw, Arglwydd; arbed, Arglwydd; ystyr, O Arglwydd, a gwna; nac oeda, er dy fwyn dy hun, O fy Nuw: oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.
20A mi eto yn llefaru, ac yn gweddïo, ac yn cyffesu fy mhechod, a phechod fy mhobl Israel, ac yn tywallt fy ngweddi gerbron yr Arglwydd fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw; 21Ie, a mi eto yn llefaru mewn gweddi, yna y gŵr #Pen 8:16Gabriel, yr hwn a welswn mewn gweledigaeth yn y dechreuad, gan ehedeg yn fuan, #Pen 8:18a gyffyrddodd â mi ynghylch pryd yr offrwm prynhawnol. 22Ac efe a barodd i mi ddeall, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd, Daniel, deuthum yn awr allan i beri i ti fedru deall. 23Yn nechrau dy weddïau yr aeth y #9:23 Heb. gair.gorchymyn allan, ac #Pen 10:12mi a ddeuthum i’w fynegi i ti: canys #9:23 Heb. gŵr dymuniadau.annwyl ydwyt ti: ystyr dithau y peth, a deall y weledigaeth. 24Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i #9:24 Neu, atal.ddibennu camwedd, ac i #9:24 Neu, orffen.selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth a’r #9:24 Heb. proffwyd.broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf. 25Gwybydd gan hynny a deall, y bydd #Esra 4:24; 6:1, 15o fynediad y gorchymyn allan am adfer ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain: yr heol a #9:25 Heb. ddychwel ac a adeiledir.adeiledir drachefn, a’r #9:25 Neu, adwy, neu, clawdd.mur, sef #9:25 Heb. yng nghyfyngder amseroedd.mewn amseroedd blinion. 26Ac wedi dwy wythnos a thrigain #Esa 53:8; Marc 9:12y lleddir y Meseia, ond #9:26 Neu, ni bydd dim ganddo, neu, ni bydd neb gydag ef.nid o’i achos ei hun: a #Mat 22:7phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel #9:26 Neu, yr ordeiniwyd anrhaith, neu, y torrir ef ymaith trwy anrhaith. y bydd dinistr anrheithiol. 27Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd‐offrwm beidio; #9:27 Neu, o herwydd ymledu o ffieidd‐dra. Heb. o herwydd asgell ffieidd‐dra.a thrwy #Mat 24:15; Marc 13:14; Luc 21:20luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter #Edrych Esa 10:22, 23; Pen 11:36y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.

Dewis Presennol:

Daniel 9: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda