Daniel 10
10
1 Daniel, wedi ymddarostwng, yn gweled gweledigaeth. 10 Dychryn yn ei flino ef; a’r angel yn ei gysuro.
1Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia, y datguddiwyd peth i Daniel, yr hwn y gelwid ei enw Beltesassar; a’r peth oedd wir, ond yr amser nodedig oedd #10:1 Heb. fawr.hir; ac #Pen 1:17efe a ddeallodd y peth, ac a gafodd wybod y weledigaeth. 2Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair wythnos o ddyddiau. 3Ni fwyteais fara blasus, ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau; gan ymiro hefyd nid ymirais, nes cyflawni tair wythnos o ddyddiau. 4Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis cyntaf, fel yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr, honno yw #Gen 2:14Hidecel; 5Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac wele #Pen 12:6#10:5 Heb. un gwr.ryw ŵr wedi ei wisgo â lliain, a’i lwynau #Dat 1:13, 14, 15wedi eu gwregysu ag #Jer 10:9aur coeth o Uffas: 6A’i gorff oedd fel maen beryl, a’i wyneb fel gwelediad mellten, a’i lygaid fel lampau tân, a’i freichiau a’i draed fel lliw pres gloyw, a #Esec 1:14sain ei eiriau fel sain tyrfa. 7A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys #Act 9:7y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio. 8A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof: canys #Pen 7:28#10:8 Neu, fy ngrym.fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth. 9Eto mi a glywais sain ei eiriau ef: a phan glywais sain ei eiriau ef, yna #Pen 8:18yr oeddwn mewn trymgwsg ar fy wyneb, a’m hwyneb tua’r ddaear.
10Ac wele, #Pen 9:21; Dat 1:17llaw a gyffyrddodd â mi, ac #10:10 Heb. a wnaeth i mi symud ar fy ngliniau.a’m gosododd ar fy ngliniau, ac ar gledr fy nwylo. 11Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, #Pen 9:23ŵr #10:11 Heb. dymuniadau.annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti y’m hanfonwyd yr awr hon. Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu. 12Yna efe a ddywedodd wrthyf, Nac ofna, Daniel: oherwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio gerbron dy Dduw, y gwrandawyd dy eiriau; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i. 13Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele #ad. 21; Pen 12:1Michael, #10:13 Neu, y blaenaf.un o’r tywysogion pennaf, a ddaeth i’m cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia. 14A mi a ddeuthum i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd #Hab 2:3 y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer. 15Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn, gosodais fy wyneb tua’r ddaear, ac a euthum yn fud. 16Ac wele, tebyg i #10:16 Heb. feibion dynion.ddyn a gyffyrddodd â’m gwefusau: yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, O fy arglwydd, fy ngofidiau a droesant arnaf gan y weledigaeth, ac nid ateliais nerth. 17A pha fodd y dichon #10:17 Neu, gwasanaethwr yma fy arglwydd.gwasanaethwr fy arglwydd yma lefaru wrth fy arglwydd yma? a minnau yna ni safodd nerth ynof, ac nid arhodd ffun ynof. 18Yna y cyffyrddodd eilwaith â mi fel dull dyn, ac a’m cryfhaodd i, 19Ac a ddywedodd, Nac ofna, #ad. 11ŵr annwyl; heddwch i ti, ymnertha, ie, ymnertha. A phan lefarasai efe wrthyf, ymnerthais, a dywedais, Llefared fy arglwydd; oherwydd cryfheaist fi. 20Ac efe a ddywedodd, a wyddost ti paham y deuthum atat? ac yn awr dychwelaf i ryfela â thywysog Persia: ac wedi i mi fyned allan, wele, tywysog tir Groeg a ddaw. 21Eithr mynegaf i ti yr hyn a hysbyswyd yn ysgrythur y gwirionedd; ac nid oes un yn #10:21 Neu, dâl.ymegnïo gyda mi yn hyn, ond #ad. 13; Jwdas 9; Dat 12:7Michael eich tywysog chwi.
Dewis Presennol:
Daniel 10: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society