Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 8

8
1 Gweledigaeth yr hwrdd a’r bwch. 13 Y ddwy fil a thri chant o ddyddiau aberth. 15 Gabriel yn cysuro Daniel, ac yn dirnad y weledigaeth.
1Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Belsassar y brenin, yr ymddangosodd i mi weledigaeth, sef i myfi Daniel, wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf. 2Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhinllys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i,) ie, gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai. 3Yna y cyfodais fy llygaid, ac a welais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo; a’r ddau gorn oedd uchel, ac un yn uwch na’r #8:3 Heb. ail.llall; a’r uchaf a gyfodasai yn olaf. 4Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua’r gorllewin, tua’r gogledd, a thua’r deau, fel na safai un bwystfil o’i flaen ef; ac nid oedd a achubai o’i law ef; ond #Pen 11:3efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr. 5Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod o’r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, #8:5 Neu, ac nid oedd a’i cyffyrddai yn y ddaear.ac heb gyffwrdd â’r ddaear; ac i’r bwch yr oedd corn #8:5 Neu, amlwg. Heb. golwg.hynod rhwng ei lygaid. 6Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth. 7Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef, eithr efe a’i bwriodd ef i lawr, ac a’i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef. 8Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, #Pen 11:4tua phedwar gwynt y nefoedd. 9Ac o un ohonynt #Pen 7:8; 11:31y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua’r deau, a thua’r dwyrain, a thua’r #Salm 48:2; Esec 20:6; Pen 11:16, 41, 45hyfryd wlad. 10Aeth yn fawr hefyd #8:10 Neu, yn erbyn llu y nefoedd.hyd lu y nefoedd, a #Dat 12:4bwriodd i lawr rai o’r llu, ac o’r sêr, ac a’u sathrodd hwynt. 11Ymfawrygodd hefyd #8:11 Neu, yn erbyn tywysog.hyd at #Jos 5:14dywysog y llu, a #Exod 29:38; Num 28:3dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol #ad. 25#8:11 Neu, ganddo.oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef. 12#8:12 Neu, Y llu a roddwyd i fyny am y camwedd yn erbyn yr offrwm beunyddiol.A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.
13Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth #8:13 y rhifwr dirgelion, neu, y rhifwr rhyfeddol. Heb. Palmoni.y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd #8:13 Neu, yn anrhaith.anrhaith i roddi y cysegr a’r llu yn sathrfa? 14Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o #8:14 Heb. hwyr a bore.ddiwrnodiau: yna y #8:14 Neu, cyfiawnheir.purir y cysegr.
15A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr. 16A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, #Pen 9:21; Luc 1:19, 26Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth. 17Ac efe a ddaeth yn agos i’r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac #Esec 1:28; Dat 1:17a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd. 18A #Pen 10:9; Luc 9:32thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a’m cyfododd yn fy sefyll. 19Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd. 20Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia. 21A’r bwch blewog yw brenin Groeg; a’r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf. 22Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o’r un genedl, ond nid un nerth ag ef. 23A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y troseddwyr, y cyfyd brenin wyneb‐greulon, ac yn deall damhegion. 24A’i nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, #8:24 Heb. a phobl y rhai sanctaidd.a’r bobl sanctaidd. 25A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy #8:25 Neu, lwyddiant.heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law. 26A gweledigaeth yr hwyr a’r bore, yr hon a draethwyd, sydd wirionedd: #Pen 12:4; Dat 22:10selia dithau y weledigaeth, oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd. 27#Pen 7:28; 10:8, 16Minnau Daniel a euthum yn llesg, ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau; yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a synnais oherwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn ei deall.

Dewis Presennol:

Daniel 8: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda