Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 9

9
A.D. 60. —
1 Y mae yn dangos yr achos paham y danfonasai efe Titus a’i frodyr o’r blaen, er ei fod yn gwybod eu parodrwydd hwy: 6 ac y mae yn eu cynhyrfu i roddi elusen yn helaeth; gan fod hyn megis math ar hau had, 10 yr hwn a ddwg iddynt gynnyrch, 13 ac a bair aberth mawr o foliant i Dduw.
1Canys tuag at am #1 Cor 16:1; Pen 8:4y weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ysgrifennu atoch: 2Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod #Pen 8:10Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a’r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn. 3A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi: 4Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a’ch cael chwi yn amharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma. 5Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i’r brodyr, ar iddynt ddyfod o’r blaen atoch, a rhagddarparu eich #9:5 haelioni chwi, yr hwn a fynegwyd o’r blaen gymaint amdanobendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd‐dra. 6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, #Diar 11:24; 22:9; Gal 6:7, 9Yr hwn sydd yn hau #9:6 dan eiriachyn brin, a fed hefyd yn brin; a’r hwn sydd yn hau #9:6 gyda bendithionyn helaeth, a fed hefyd yn helaeth. 7Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; #Deut 15:7nid #9:7 o dristwchyn athrist, neu #9:7 o anghenraidtrwy gymell: canys #Exod 25:2; 35:5; Diar 11:25; Rhuf 12:8rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. 8Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda: 9(Megis yr ysgrifennwyd, #Salm 112:9Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd. 10A’r hwn sydd #Esa 55:10yn rhoddi had i’r heuwr, #9:10 a roddo hefyd fara yn ymborth, ac a amlhao, &crhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich #Mat 6:1cyfiawnder;) 11Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob #9:11 llafurhaelioni, #Pen 1:11; 4:15yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw. 12Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw; 13Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd #9:13 Gr. hynodrwyddhaelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb; 14A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch. 15Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol.

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda