2 Corinthiaid 8
8
A.D. 60. —
1 Y mae yn eu hannog hwynt i gyfrannu yn helaeth i’r saint tlodion yn Jerwsalem, trwy siampl y Macedoniaid, 7 trwy ganmol eu parodrwydd hwy o’r blaen, 9 trwy siampl Crist, 14 a thrwy y llesâd ysbrydol a ddaw iddynt hwy o hynny: 16 gan ddangos iddynt burdeb ac ewyllysgarwch Titus, ac eraill o’r brodyr, y rhai, ar ei ddeisyfiad, a’i annog, a’i orchymyn ef, a ddaethent atynt hwy yn bwrpasol ynghylch y peth hwn.
1Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; 2Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy #Marc 12:44a’u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu #8:2 symlrwyddhaelioni hwy. 3Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain; 4Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y #8:4 rhadrhodd, a #Act 11:29; Rhuf 15:26; 1 Cor 16:1; Pen 9:1chymdeithas gweinidogaeth y saint. 5A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw: 6Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono #8:6 ynoch chwiyn eich plith chwi y gras hwn hefyd. 7Eithr fel #1 Cor 1:5yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth. 8Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi. 9Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, #Luc 9:58; Phil 2:7iddo ef, ac yntau’n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef. 10Ac #1 Cor 7:25yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys #Diar 19:17; Mat 10:42hyn sydd dda i chwi, y rhai a ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd #Pen 9:2ewyllysio er y llynedd. 11Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych. 12Canys #Marc 12:43; Luc 21:3os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo. 13Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau; 14Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra: 15Megis y mae yn ysgrifenedig, #Exod 16:18Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo #8:15 ormodweddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd #8:15 rhy fychan ganddoarno eisiau. 16Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus. 17Oblegid yn wir efe a dderbyniodd #Ad. 6y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o’i wirfodd ei hun. 18#Pen 12:18Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi; 19Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â’r #8:19 rhodd hon, yr hon a, &cgras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi: 20Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym: 21#Rhuf 12:17; Phil 4:8; 1 Pedr 2:12Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion. 22Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd #8:22 Neu, ganddo gennyf ynoch. 23Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chyd‐weithydd tuag atoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau’r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist. 24Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad, ac o’n bost ninnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.
Dewis Presennol:
2 Corinthiaid 8: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society