2 Corinthiaid 10
10
A.D. 60. —
Yn erbyn y gau‐apostolion, y rhai a ddiystyrent wendid ei bresenoldeb corfforol ef, y mae yn gosod allan y nerth a’r awdurdod ysbrydol y gwisgid ef â hwynt yn erbyn pob gwrthwyneb allu; 7 gan eu sicrhau hwy, y ceir ef, ar ei ddyfodiad, mor nerthol mewn gair, ag ydyw efe yn awr yn absennol yn ei ysgrifen; 12 a chan feio ar y gau‐athrawon, am ymgyrraedd y tu hwnt i’w mesur, ac ymffrostio yn llafur gwŷr eraill.
1A #Rhuf 12:1myfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn #10:1 wrth olwgyn bresennol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hy arnoch. 2Ac yr ydwyf yn dymuno #1 Cor 4:21; Pen 13:10na byddwyf yn bresennol yn hy â’r hyder #10:2 y’m tybir fy modyr wyf yn meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd. 3Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd: 4(Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol #10:4 Neu, itrwy Dduw #Jer 1:10i fwrw cestyll i’r llawr;) 5Gan fwrw #10:5 rhesymiadaudychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd‐dod Crist; 6Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd‐dod, pan gyflawner eich ufudd‐dod chwi. 7Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? #1 Cor 14:37; 1 Ioan 4:6Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist. 8Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd #Pen 13:10am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, #Pen 12:6ni’m cywilyddid: 9Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau. 10Oblegid y llythyrau yn wir (#10:10 Gr. medd efmeddant) sydd drymion a chryfion; eithr presenoldeb y corff sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygus. 11Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol. 12#Pen 3:1; 5:12Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt‐hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt #10:12 synhwyrolyn deall. 13Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o’n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddyd hyd atoch chwi hefyd. 14Canys nid ydym, megis rhai heb gyrhaeddyd hyd atoch chwi, yn ymestyn allan tu hwnt i’n mesur; canys hyd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist: 15Nid gan fostio hyd at bethau allan o’n mesur, #Rhuf 15:20yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol #10:15 i helaethrwyddyn ehelaeth, 16I bregethu’r efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes. 17#Esa 65:16; Jer 9:24; 1 Cor 1:31Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd. 18Canys #Diar 27:2nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymeradwy; ond #Rhuf 2:29yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol.
Dewis Presennol:
2 Corinthiaid 10: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society