Rhufeiniaid 16
16
1Cyflwynaf i chwi Phebe, ein chwaer, y sydd weinidoges yr eglwys yn Cenchreai, 2fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd yn deilwng o’r saint, a rhoi cymorth iddi ym mha achos bynnag y bo arni eich eisiau, oblegid bu hithau yn gymorth i lawer, ac i mi fy hun.
3Cyferchwch Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu 4(y rhai er mwyn fy einioes i a beryglodd eu gwddf eu hunain, ac y diolchir iddynt, nid yn unig gennyf fi ond hefyd gan holl eglwysi’r cenhedloedd), 5a’r eglwys yn eu tŷ. Cyferchwch Epainetos, fy anwylyd, y sydd flaenffrwyth Asia i Grist. 6Cyferchwch Mair, a lafuriodd lawer er eich mwyn chwi. 7Cyferchwch Andronicos a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd-garcharorion, y rhai sydd nodedig ymhlith yr apostolion, ac a oedd yn wir o’m blaen i yng Nghrist. 8Cyferchwch Ampliatos, fy anwylyd yn yr Arglwydd. 9Cyferchwch Wrbanos, ein cyd-weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. 10Cyferchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Cyferchwch deulu Aristobwlos. 11Cyferchwch Herodion, fy nghâr. Cyferchwch y rheini o deulu Narcisos sydd yn yr Arglwydd. 12Cyferchwch Tryffaina a Thryffosa, a lafuria yn yr Arglwydd. Cyferchwch Persis, yr anwylyd, a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd. 13Cyferchwch Rwffos, y dewisol yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau. 14Cyferchwch Asyncritos, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermas, a’r brodyr sydd gyda hwynt. 15Cyferchwch Philologos, a Jwlia, Neriws a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint sy gyda hwynt. 16Cyferchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Eich cyfarch chwi y mae holl eglwysi Crist.
17Erfyn yr wyf arnoch, frodyr, wylio’r sawl a bair yr ymraniadau a’r rhwystrau yn groes i’r ddysgeidiaeth a gawsoch, a throwch oddi wrthynt; 18canys caeth yw’r cyfryw, nid i’n Harglwydd Crist, ond i’w cylla eu hunain, a thrwy ymadrodd teg a gweniaith twyllant galonnau’r diddrwg. 19Canys cyrhaeddodd eich ufudd-dod hyd at bawb. O’ch plegid chwi gan hynny yr wyf yn llawenhau, ond mynnwn i chwi fod yn ddoeth yn y peth sy dda, a diniwed yn y peth sy ddrwg. 20Ac yn fuan mathra Duw’r heddwch Satan dan eich traed.
Bydded gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi.
21Eich cyfarch y mae Timotheos, fy nghydweithiwr, a Luc, a Jason a Sosipater, fy ngheraint. 22Eich cyfarch yr wyf finnau, Tertios, sy’n ysgrifennu’r llythyr, yn yr Arglwydd. 23Eich cyfarch y mae Gaios, fy lletywr i a’r holl eglwys. Eich cyfarch y mae Erastos, goruchwyliwr y ddinas, a’r brawd Cwartos.
25Iddo ef sy’n alluog i’ch cadarnhau chwi yn ôl fy efengyl i a’r cyhoeddi am Iesu Grist, yn ôl datguddiad dirgelwch na bu sôn amdano trwy’r amseroedd tragwyddol, 26ond yn awr a amlygwyd ac a wnaed yn hysbys trwy ysgrythurau proffwydol, yn ôl gosodiad y tragwyddol Dduw, er ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd: 27i’r unig, ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist: iddo ef boed y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 16: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Cymharu
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945