Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 15

15
1A dylem ni, y rhai cryf, ddwyn gwendidau y rhai nad ydynt gryf, ac nid ein boddhau ein hunain. 2Boddhaed pob un ohonom ei gymydog er daioni, i’w adeiladaeth. 3Canys y Crist yntau nis boddhaodd ei hun; eithr fel yr ysgrifennwyd: Syrthiodd gwaradwyddiadau y sawl a’th waradwyddai di arnaf fi.#Salm 69:9. 4Oblegid pa bethau bynnag a ysgrifennwyd gynt, fe’u hysgrifennwyd er ein haddysgu, fel trwy amynedd a thrwy ddiddanwch yr ysgrythurau y caffom y gobaith. 5A rhodded Duw’r amynedd a’r diddanwch i chwi fod yn unfryd ymhlith eich gilydd yn ôl Crist Iesu, 6fel yn gytûn ag un genau y gogoneddoch Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist.
7Am hynny derbyniwch eich gilydd megis y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw. 8Dywedyd yr wyf ddyfod Crist yn weinidog enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, i gadarnhau addewidion y tadau, 9ac fel y gogoneddai’r cenhedloedd Dduw am ei drugaredd; fel yr ysgrifennwyd: Am hyn y clodforaf di ymhlith y cenhedloedd, ac i’th enw y canaf.#Salm 18:49. 10A thrachefn dywed: Llawenhewch genhedloedd gyda’i bobl ef.#Deut. 32:43. 11A thrachefn: Molwch yr Arglwydd, yr holl genhedloedd, a chlodfored yr holl bobloedd ef.#Salm 117:1. 12A thrachefn, dywed Eseias: Bydd gwreiddyn o Jese, a chyfyd hwn i lywodraethu’r cenhedloedd; ynddo ef y gobeithia’r cenhedloedd.#Esa. 11:10. 13Duw’r gobaith a’ch llanwo chwi â phob llawenydd a heddwch wrth gredu ohonoch, fel yr ymhelaethoch yn y gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.
14Ond yr ydwyf yn sicr, fy mrodyr, ie, myfi fy hun amdanoch chwi, eich bod chwithau yn orlawn o ddaioni, wedi’ch llenwi â phob gwybodaeth, yn abl hefyd i gynghori eich gilydd. 15Eithr ysgrifennais yn fwy hy atoch i fesur, megis un yn eich atgoffa, oherwydd y gras a roddwyd i mi gan Dduw 16fel y byddwn wasanaethwr Crist Iesu i’r cenhedloedd, yn offeiriadu yn efengyl Duw, fel y byddai’r offrwm, y cenhedloedd, yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio trwy’r Ysbryd Glân. 17Y mae i mi gan hynny ymffrost yng Nghrist Iesu yn y pethau a berthyn i Dduw. 18Canys ni feiddiaf sôn am ddim ond a gyflawnodd Crist trwof fi er ufudd-dod cenhedloedd, mewn gair a gweithred, 19trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth yr Ysbryd Glân; ac felly cyflawnais efengyl y Crist o Jerwsalem ac o amgylch hyd Ilyricwm, 20eto â’r uchelgais hwn gennyf, i gyhoeddi’r efengyl nid lle’r enwasid Crist, fel nad adeiladwn ar sail un arall, 21eithr fel yr ysgrifennwyd: Fe wêl y rheini na fynegwyd iddynt amdano, ac fe ddealla’r rheini na chlywsant.#Esa. 52:15.
22Oherwydd hyn y rhwystrwyd fi hefyd gynifer gwaith rhag dyfod atoch. 23Ond yn awr, gan nad oes gennyf gyfle mwyach yn y parthau hyn, a bod arnaf hiraeth am ddyfod atoch ers llawer blwyddyn, 24pan elwyf i’r Hispaen (canys gobeithiaf ar fy ffordd gael golwg arnoch a’m hebrwng gennych yno, os caf yn gyntaf fy niwallu â’ch cymdeithas dros dro); 25ond yn awr yr wyf yn mynd i Jerwsalem i weini i’r saint. 26Canys bu’n dda gan Facedonia ac Achaia drefnu cronfa i dlodion y saint yn Jerwsalem; 27bu’n dda ganddynt, meddaf, ac y maent yn eu dyled; canys os o’u pethau ysbrydol hwy y cyfranogodd y cenhedloedd, dylent hwy yn eu tro eu gwasanaethu hwythau mewn pethau cnawdol. 28Wedi cwblhau hyn, felly, a sicrhau iddynt y ffrwyth hwn, af ymaith i’r Hispaen, heibio i chwi; 29a gwn wrth ddyfod atoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist.
30Ond erfyniaf arnoch, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Ysbryd, ymdrechu gyda mi yn eich gweddïau trosof ar Dduw, 31fel y gwareder fi rhag yr anghredinwyr yn Jwdea, a bod fy ngweinidogaeth yn Jerwsalem yn gymeradwy gan y saint, 32fel, a mi yn dyfod atoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw, y caffwyf orffwys yn eich plith. 33A bydded Duw’r heddwch gyda chwi oll. Amen.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 15: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Cymharu

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda