Iddo ef sy’n alluog i’ch cadarnhau chwi yn ôl fy efengyl i a’r cyhoeddi am Iesu Grist, yn ôl datguddiad dirgelwch na bu sôn amdano trwy’r amseroedd tragwyddol, ond yn awr a amlygwyd ac a wnaed yn hysbys trwy ysgrythurau proffwydol, yn ôl gosodiad y tragwyddol Dduw, er ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd: i’r unig, ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist: iddo ef boed y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.