Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959
Beibl William Morgan
Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl cyfan, gan gynnwys yr Apocryffa, yn y flwyddyn 1588. Gwaith William Morgan, 1545-1604, ydoedd, gŵr a aned ym Mhenmachno, Conwy ac a raddiodd o Goleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt. Yn fuan ar ôl ei gyhoeddi dechreuodd William Morgan ar y gwaith o ddiwygio ei gyfieithiad. Yna ar ôl ei farwolaeth yn 1604, dyma’r Esgob Richard Parry a’r Dr John Davies y ymgyryd â’r dasg o gwblhau’r gwaith, gyda'r nod o gaboli’r iaith lenyddol a dileu geiriau a chymalau a ystyrid yn rhy lafar. Cafodd y fersiwn diwygiedig o'r Beibl ei gyhoeddi yn 1620, a’r gyfrol hon yw’r un mae pobl hyd heddiw yn ei galw yn Feibl William Morgan. Y cyfieithiad diwygiedig hwn o’r Beibl fu’r cyfieithiad safonol yng Nghymru hyd 1988. Hwn oedd y Beibl y cerddodd Mary Jones i’r Bala i’w brynu. Hwn oedd y Beibl sbardunodd sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804. Hwn oedd y Beibl aeth i’r Wladfa gyda’r Cymry ymfudodd yno yn 1865. “...dyma'r gyfrol a fu'n sail i lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern.” (Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru).
© Cymdeithas y Beibl 1955, 2018
William Morgan Bible
The first Welsh translation of the complete Bible, including the Apocrypha, was published in 1588. It was the work of William Morgan, 1545-1604, a native of Penmachno, Conwy and a graduate of St. John's College, Cambridge. Soon after its publication Morgan began work on a revision of his translation. After Morgan's death in 1604, Bishop Richard Parry and Dr John Davies continued the work with the aim of polishing the literary language and replacing forms considered too colloquial. The revised version of the Bible was published in 1620, and this edition is still popularly known as William Morgan's Bible.The audio was of the Old and New Testaments of Beibl William Morgan were produced by Cymdeithas Darllen Pethau Da (CDPD). The speaker is Gerallt Jones of Abergeirw, Dolgellau, Gwynedd in north Wales. The New Testament was produced on CD in 2008.
© British and Foreign Bible Society 2008, 2019