Salm 98
98
Salm.
1Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd * canys efe a wnaeth / bethau / rhyfedd :
ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd / iddo / fuddu-/goliaeth.
2Hysbysodd yr Arglwydd ei / iachaw/dwriaeth :
datguddiodd ei gyfiawnder yng / ngolwg / y cen/hedloedd.
3Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i / dŷ / Israel :
holl derfynau y ddaear a welsant iachaw/dwriaeth · ein / Duw ni.
4Cenwch yn llafar i’r Arglwydd yr / holl / ddaear :
llefwch ac / ym · lawen / hewch a / chenwch.
5Cenwch i’r Arglwydd / gyda’r / delyn :
gyda’r / delyn · a / llef / salm.
6Ar utgyrn a / sain / cornet :
cenwch yn llafar o / flaen yr / Arglwydd · y / Brenin.
7Rhued y / môr · a’i gyf/lawnder :
y byd a’r / rhai a / drigant · o’i / fewn.
8Cured y lli/feiriaint · eu / dwylo :
a chydganed y my/nyddoedd · o / flaen yr / Arglwydd.
9Canys y mae yn dyfod i / farnu · y / ddaear :
efe a farna y byd â chyfiawnder a’r / bobloedd / ag un/iondeb.
Currently Selected:
Salm 98: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984