Salm 97
97
1Yr Arglwydd / sydd yn · teyr/nasu :
gorfoledded y ddaear * llawe/nyched · y/nysoedd / lawer.
2Cymylau a thywyllwch sydd o’i / amgylch / ef :
cyfiawnder a barn yw / trigfa · ei or/seddfainc / ef.
3Tân a â / allan · o’i / flaen ef :
ac a / lysg · ei e/lynion · o / amgylch.
4Ei fellt a lewyr/chasant · y / byd :
y ddaear a / welodd / ac a / grynodd.
5Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o / flaen yr / Arglwydd :
o flaen / Arglwydd · yr / holl / ddaear.
6Y nefoedd a fynegant ei gyf/iawnder / ef :
a’r holl bobl a / welant / ei o/goniant.
7Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig * y rhai a ymffrostiant / mewn ei/lunod :
addolwch / ef yr / holl / dduwiau.
8Seion a glywodd, ac a lawenychodd * a merched Jwda a /
orfo · le/ddasant :
oherwydd dy farnedi/gaethau / di O / Arglwydd.
9Canys ti Arglwydd wyt oruchel go/ruwch yr · holl / ddaear :
dirfawr y’th ddyrchafwyd go/ruwch yr / holl / dduwiau.
10Y rhai a gerwch yr Arglwydd ca/sewch ddryg/ioni :
efe sydd yn cadw eneidiau ei saint * efe a’u gwared o / law y / rhai an/nuwiol.
11Heuwyd go/leuni · i’r / cyfiawn :
a llawenydd / i’r rhai / uniawn · o / galon.
12Y rhai cyfiawn llawenychwch / yn yr / Arglwydd :
a moliennwch wrth goffa/dwriaeth · ei sanc/teiddrwydd / ef.
Currently Selected:
Salm 97: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984