Bible App logo
Search Icon

Salm 80

80
I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.
1Gwrando O Fugail Israel * yr hwn wyt yn arwain / Joseff · fel / praidd :
ymddisgleiria yr hwn wyt yn / eistedd / rhwng y · ce/riwbiaid.
2Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin / a Ma/nasse:
a thyred yn / iachaw/dwriaeth · i / ni.
3Dychwel / ni O / Dduw :
a llewyrcha dy / wyneb · a / ni a · a/chubir.
4O Arglwydd / Dduw y / lluoedd :
pa hyd y / sorri · wrth / weddi · dy / bobl?
5Porthaist hwynt â / bara / dagrau :
a diodaist hwynt â / dagrau · wrth / fesur / mawr.
6Gosodaist ni yn gynnen / i’n cym/dogion :
a’n gelynion a’n gwat/warant · yn eu / mysg eu / hun.
7O Dduw y lluoedd / dychwel / ni :
a llewyrcha dy / wyneb · a / ni a · a/chubir.
8Mudaist win/wydden · o’r / Aifft :
bwriaist y cenhedloedd / allan · a / phlennaist / hi.
9Arloesaist o’i blaen a pheraist i’w / gwraidd / wreiddio :
a / hi a / lanwodd · y / tir.
10Cuddiwyd y mynyddoedd / gan ei / chysgod :
a’i changhennau / oedd fel / cedrwydd · rha/gorol.
11Hi a estynnodd ei changau / hyd y / môr :
a’i / blagur / hyd yr / afon.
12Paham y / rhwygaist · ei / chaeau :
fel y tynno pawb a elo heibio ar / hyd y / ffordd ei / grawn hi?
13Y baedd o’r / coed a’i / turia :
a / bwystfil · y / maes a’i / pawr.
14O Dduw y lluoedd / dychwel · a/tolwg :
edrych o’r nefoedd a chenfydd * ac ym/wêl · â’r win/wydden / hon;
15A’r winllan a blannodd / dy dde/heulaw :
ac â’r planhigyn a gadarn/heaist · i / ti dy / hun.
16Llosgwyd hi â thân * torrwyd / hi i / lawr :
gan gerydd dy / wyneb · y di/fethir / hwynt.
17Bydded dy law dros / ŵr · dy dde/heulaw :
a thros fab y dyn yr hwn a gadarn/heaist · i / ti dy / hun.
18Felly ni chiliwn yn ôl oddi / wrthyt / ti :
bywha ni a ni a / alwn / ar dy / enw.
19O Arglwydd Dduw y lluoedd / dychwel / ni :
llewyrcha dy / wyneb · a / ni a · a/chubir.

Currently Selected:

Salm 80: SPBWM

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 80