Salm 79
79
Salm Asaff.
1Y cenhedloedd O Dduw a ddaethant i’th / eti/feddiaeth :
halogasant dy deml sanctaidd * gosodasant Je/rwsa · lem / yn gar/neddau.
2Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i / adar · y / nefoedd :
a chig dy / saint · i fwyst/filod · y / ddaear.
3Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o / amgylch · Je/rwsalem :
ac / nid / oedd a’u / claddai.
4Yr ydym ni yn warthrudd / i’n cym/dogion :
dirmyg a gwatwargerdd i’r / rhai / sydd o’n / hamgylch.
5Pa hyd Arglwydd? * a ddigi / di yn · dra/gywydd? :
a lysg dy ei/ddigedd / di fel / tân?
6Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th / adna/buant :
ac ar y teyrnasoedd ni al/wasant / ar dy / enw.
7Canys y/sasant / Jacob :
ac a wnaethant ei bre/swylfa · yn / anghy/fannedd.
8Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn * brysia, rhagflaened dy dostur druga/reddau / ni :
canys / llesg / iawn y’n / gwnaethpwyd.
9Cynorthwya ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth * er mwyn go-/goniant · dy / enw :
gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ein pechodau, er mwyn dy enw.
10Paham y dywed y cenhedloedd * Pa le y / mae eu / Duw hwynt? :
bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni * wrth ddial gwaed dy / weision · yr / hwn a · dy/walltwyd.
11Deued uchenaid y carcharorion / ger dy / fron :
yn ôl mawredd dy nerth / cadw / blant mar/wolaeth.
12A thâl i’n cymdogion ar y / seithfed · i’w / mynwes :
eu cabledd trwy yr hon y’th gab/lasant / di O / Arglwydd.
† 13A ninnau dy bobl a defaid dy borfa * a’th foliannwn / di · yn dra/gywydd :
datganwn dy foliant o gen/hedlaeth / i gen/hedlaeth.
Currently Selected:
Salm 79: SPBWM
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig a Cantiglau (William Morgan) o Lyfr Gweddi Ddyddiol © yr Eglwys yng Nghymru 1984
Pointed Psalms and Canticles (William Morgan) from the Prayer Book © Church in Wales 1984